Newyddion

Cymeriadau Commedia dell’arte mewn opera

20 Medi 2024

Ydych chi wedi meddwl erioed tybed pam y mae grŵp arbennig o gymeriadau fel pe baent yn ymddangos yn y theatr, mewn opera ac mewn ffilmiau a rhaglenni teledu dro ar ôl tro? Does dim rhaid edrych ymhellach na theatr Eidalaidd y Commedia dell’arte.

Daeth y Commedia dell’arte (sy’n golygu comedi artistiaid proffesiynol) i’r amlwg yn yr Eidal yn ystod yr 16eg ganrif. Roedd yn ffurf ar gelfyddyd a berfformiwyd gan actorion teithiol, gan ddod â phlotiau syml yn fyw a chan gynnig deialog fyrfyfyr gyda chyfres benodol o gymeriadau. Yn gyffredinol, mae’r mwyafrif o’r cymeriadau stoc a gysylltir â’r commedia dell’arte yn perthyn i dri chategori: y Zanni (gweision, twyllwyr a chlowniaid), yr Innamorati (cariadon ifanc) a’r Vecchi (meistri a’r henoed).

Dyma ganllaw gan Opera Cenedlaethol Cymru i’ch cyflwyno i rai o’r cymeriadau comig enwocaf, a hefyd nodir ble yn union y gellir dod o hyd iddynt yn y byd opera:


Pulcinella

Caiff y gwas, Pulcinella, ei ddarlunio’n aml ar ffurf cellweiriwr neu glown. Mae’n glebryn cyfrwys a hunanlesol ac yn aml mae ganddo fol mawr a chefn crwm.

Mewn opera: Rigoletto yn Rigoletto; Ping, Pang a Pong yn Turandot; y Ffŵl yn Lear.


Columbina

Morwyn ddrygionus sy’n hoffi hel clecs. Mae’n gymeriad digrif ac yn aml mae’n hoff o fflyrtian. Yn fynych, mae ei meistres yn rhannu ei chyfrinachau gyda hi, ac mae ei natur hoedennaidd yn symud y plot rhamantus yn ei flaen, gan ei helpu i daflu llwch i lygaid ei meistri gwrywaidd.

Mewn opera: Susanna yn The Marriage of Figaro; Norina yn Don Pasquale; Serpina yn La serva padrona.


Pantalone

Gŵr hŷn sy’n perthyn i’r dosbarth masnachol. Cybydd crintachlyd. Mae’n farus ac mae ganddo gryn feddwl ohono’i hun, ond mae’n eithaf hawdd ei dwyllo. Yn aml, mae’n mynd ar drywydd merch ifanc.

Mewn opera: Don Pasquale yn Don Pasquale; Doctor Bartolo yn The Marriage of Figaro.


Innamorati

Pâr o gariadon ifanc sy’n perthyn i’r dosbarth uchaf. Mae eu hymrwymiad i’w gilydd dros ben llestri braidd. Er mwyn iddynt allu aros gyda’i gilydd, rhaid iddynt oresgyn rhwystrau a osodir gan y Zanni a’r Vecchi. Soprano a thenor gan amlaf.

Mewn opera: Nemorino ac Adina yn L’elisir d’amore; Rosina a’r Iarll Almaviva yn The Barber of Seville.


Brighella

Gwas cynllwyngar a chlyfar sy’n llwyddo i danseilio’i feistr er mwyn cyflawni ei nod. Gall fod yn annwyl neu’n anfad, mae’n giamstar ar fusnes ac yn aml mae’n gerddor medrus.

Mewn opera: Dandini yn La Cenerentola; Dr Malatesta yn Don Pasquale; Figaro yn The Barber of Seville a The Marriage of Figaro.  


La Ruffiana

Menyw hŷn aflan sy’n perthyn i’r dosbarth isaf. Yn aml, mae’n fam neu’n glebren sy’n anelu at wahanu’r Innamorati. Weithiau mae’n briod â’r Pantalone, a hefyd gall ymddangos ar ffurf sipsi neu fenyw â phwerau hud.

Mewn opera: Zita yn Gianni Schicchi; Ulrica yn Un ballo in maschera; La Cieca yn La Gioconda.  


Il capitano

Ymddengys fod y Capten yn ŵr hyderus a llawn gwrywdod. Ond mewn gwirionedd, mae’n swil ac yn ofnus. Yn aml, mae’n fawr o gorffolaeth ac mae’n gymeriad digrif hollbwysig.

Mewn opera: Falstaff a Pistola yn Falstaff; Canio ynPagliacci; Leandro yn The Love for Three Oranges


Beth am ddod i weld y cymeriadau stoc enwog hyn yn y cnawd? Peidiwch â cholli perfformiadau WNO o Rigoletto a Gianni Schicchi yr Hydref hwn a chofiwch hefyd am The Marriage of Figaroyng Ngwanwyn 2025.