Newyddion

Caru mewn opera - a fyddai Rosina yn sweipio i'r dde?

22 Tachwedd 2021

Mae mynd ar ddêt yn y byd go iawn yn dir digon peryglus, ond mewn opera, mae hyd yn oed yn fwy heriol. Ystyriwch The Barber of Seville, sy'n rhan o Dymor yr Hydref 2021 WNO.

Mae Rosina yn ferch boblogaidd - ar ddechrau'r opera caiff ei serenadu gan ddieithryn dirgel, Lindoro (sef yr Iarll Almaviva mewn cuddwisg). Mae'n byw bywyd gwarchodedig fel ward Dr Bartolo, sydd hefyd yn gwneud cynlluniau cyfrinachol i'w phriodi pan mae'n ddigon hen er mwyn iddo hawlio ei hetifeddiaeth. Â Almaviva ati i'w chanlyn, mewn amrywiaeth o hunan eraill, a chyda 'chymorth' y barbwr sy'n ceisio dod â'r pâr at ei gilydd, wrth i Bartolo gynllwynio i'w ddifrïo a chadw Rosina iddo ef ei hun. Drwy'r cwbl, mae Rosina yn mwynhau'r sylw a gaiff gan Lindoro/Almaviva ac yn gwbl anymwybodol o gynlluniau Bartolo ond o ystyried yr holl gynllwynion, does dim rhyfedd ei bod wedi drysu.

Rhybudd o sbwyliwr - daw'r cyfan i'w le yn dda, wrth i ni weld Rosina ac Almaviva yn priodi (er eu bod yn dal i sleifio o gwmpas mewn cuddwisg yn ceisio â dal y naill a'r llall) yn The Marriage of Figaro.

Mae opera yn llawn priodasau rhyfedd a charwriaethau dryslyd - ac yn aml, y dynion hynny sydd mewn 'loco parentis’ (yn gyfrifol am unigolyn ifanc, plentyn amddifad gan amlaf) sy'n gosod eu bryd ar eu 'hetifedd'. Ond beth yw barn y merched? Gan amlaf mae'r dynion hyn yn llawer hŷn na nhw, ac yn gweithredu am reswm cudd. Caiff pob math o berthnasau eu harchwilio mewn byd opera, ond nid diweddglo hapus sydd i bob un.

Yn Madam Butterfly, mae'r prif gymeriad dros ei phen a'i chlustiau mewn cariad â'i milwr golygus o America ac yn sicr yn ei briodi am gariad. Yn anffodus nid yw ei resymau ef mor onest ac mae'n ei bradychu, gan arwain at ganlyniadau trasig. Mae Carmen yn wahanol iawn, gan nad ydyw'n poeni am briodi na'r dyfodol, ac mae'n well ganddi fwynhau ei rhamantau, a symud ymlaen i'r nesaf. La Cenerentola yw'r rhamant tylwyth teg pennaf, pan welwn Angelina orthrymedig yn dod o hyd i'w thywysog swynol a'i briodi; ond nid yw'r stori mor ddidrafferth yn Lucia di Lammermoor pan mae priodas wedi'i threfnu, yn erbyn dymuniadau'r briodferch, yn arwain at lofruddiaeth.

Nid yw merched sengl mewn opera yn cael bywyd rhwydd bob tro ond yn y pendraw, yn The Barber of Sevillecawn ddiweddglo hapus gyda phriodas wedi'i threfnu ar ruthr a chariad pur yn trechu. Dyma'r rom-com gwreiddiol.