Newyddion

Dannedd, Plu a Chathod Arswydus

31 Hydref 2019

Beth mae Calan Gaeaf yn ei olygu i chi? Cerfio pwmpenni, casglu melysion neu droi eich hun yn sombi o ryw fath? Mae cathod duon, ystlumod a bleiddiau wedi bod yn gysylltiedig â Chalan Gaeaf ers tro byd, ac er na fyddwch yn dod o hyd i'r un o'r rhain yn ein cynhyrchiad o The Cunning Little Vixen, byddwch yn dod ar draws llu o greaduriaid (rhai gydag ochr dywyll).

Yn dyddio'n ôl i'r ŵyl Geltaidd hynafol, Samhain, roedd Calan Gaeaf, yn wreiddiol, yn nodi dechrau'r gaeaf oer, tywyll a olygai, yn aml, marwolaeth, diwedd yr haf a'r cynhaeaf. Caiff y tymhorau eu darlunio'n orfoleddus yn opera Janáček The Cunning Little Vixen, daw dail yr hyder i gymryd lle'r blodau yn eu llawn ogoniant, cyn troi'n flancedi o eira, gan bwysleisio cylch bywyd diddiwedd. 

Er nad yw'r goedwig yn ddieithr i straeon tylwyth teg megis Hansel and Gretel, The Little Red Riding Hood a straeon arswydus eraill, nid yw llwynoges benderfynol WNO yn ofni cael ei chrafangau allan. Mae'n gwneud i unrhyw flaidd mawr, drwg edrych yn ddof, wrth rwygo cywion ieir gyda phlu yn mynd i bob man, crogi sgwarnog ifanc a hel mochyn daear allan o'i dwll mewn ffordd anniben.

Traddodiad arall adeg Calan Gaeaf, yn hanesyddol, oedd i ferched ifanc daflu croen afael dros eu hysgwydd, yn y gobaith y byddai'r croen yn disgyn ar y llawr yn siâp llythrennau cyntaf eu darpar wŷr. Nid oedd ein Llwynoges, fodd bynnag, yn gweld yr angen i wneud hyn, wrth iddi ddatgan yn glir ac yn dalog ei theimladau tuag at y Llwynog, drwy neidio'n syth i mewn i'r twll ag ef. Os ydych yn mwynhau parti, nid yw priodas y Llwynoges a'r Llwynog yn ddigwyddiad i'w fethu, yn debyg iawn i'r amseroedd pan fyddai pobl yn cynnau coelcerthi ac yn rhoi gwisgoedd amdanynt i ddychryn ysbrydion a dathlu noswyl Calan Gaeaf.

Nid hon yw'r unig opera lle mae Janáček yn creu golygfeydd arswydus ac anifeiliaid, yn ei From the House of the Dead, cedwir eryr clwyfedig fel anifail anwes, a gaiff ei helpu yn ôl ar ei draed a'i ryddhau yn y pendraw, yn ôl i'r gwyllt. Opera arall â chysylltiadau dychrynllyd yw, Die Fledermaus sy'n ogystal â chyfieithu i The Bat, wedi'i seilio ar barti gwisgoedd yn ei anterth. Gyda hynny, os ydych yn ansicr ynglŷn â beth i'w wisgo ar gyfer Calan Gaeaf eleni, dewch i weld The Cunning Little Vixeni gael ysbrydoliaeth goedwigol, gan ein gwisgoedd hynod greadigol ac unigryw; y lindysyn delaf, mochyn daear blewog, blin neu'r gwas y neidr amryliw, hardd - os ydych yn teimlo'n wyllt.

Os ydych yn chwilio am rywbeth fymryn yn wanhaol i'w wneud gyda'r teulu'r Calan Gaeaf hwn, The Cunning Little Vixen, yw'r sioe i chi, er, mai'r unig dân gwyllt fydd y rhai hynny yn sgôr llawn egni Janáček. Yn wir, os ydych yn Llandudno neu'r ardal, mae perfformiad ar 31 Hydref - peidiwch ag anghofio eich clustiau cath.

I ddyfynnu cyfres deledu boblogaidd, 'Winter is coming'. Rydych wedi cael eich rhybuddio.