Newyddion

Ffeithiau ffantastig am ein Tymor 2023/2024

24 Chwefror 2023

Yn ddiweddar cyhoeddwyd Tymor 2023/2024 Opera Cenedlaethol Cymru ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at berfformio operâu newydd sbon a hen ffefrynnau. Gadewch i ni gael golwg ar ychydig o ffeithiau hwyliog am bob un o’r sioeau ac ymchwilio ymhellach i fydoedd unigryw pob opera. 

La traviata

  • Roedd perfformiad cyntaf La traviata yn 1853 yn dipyn o fethiant yn bennaf oherwydd castio rhan Violetta. Roedd Fanny Salvini-Donatelli druan yn destun chwerthin a gwawd gan fod llawer yn meddwl ei bod hi’n anaddas ar gyfer y rhan.
  • Ar ddechrau’r opera fe glywch un o’r enghreifftiau fwyaf enwog yn y byd o brindisi (cân yfed) - sef Libiamo Ne’ Lieti Calce (Gadewch i ni Yfed o'r Cwpanau Llawen) - sy’n adnabyddus i gynulleidfaoedd ym mhobman.

Ainadamar

  • Wedi’i chyfansoddi’n wreiddiol yn 2003, Ainadamar yw’r opera gyntaf erioed i gael ei pherfformio’n Sbaeneg gan WNO. Ei theitl yw'r ynganiad Sbaeneg o'r enw Arabeg Ayn al-Dam, sy'n golygu ‘y Ffynnon Ddagrau’. Credir mai’r Fuente Grande (y Ffynnon Fawr) yw’r lleoliad lle cafodd y bardd a’r dramodwr Federico García Lorca ei ddienyddio gan filisia Cenedlaetholaidd ym mis Awst 1936.
  • Mae Federico García Lorca a’i fywyd, prif bwnc yr opera, yn cael ei berfformio gan fenyw, sy’n ei wneud yn ‘rhan drowsus’ - sy’n mynd yn ôl at yr arfer gyffredin yn y 18fed ganrif o fenywod yn canu rhannau dynion.

Death in Venice

  • Cyfansoddwyd yr opera hon yn ystod blynyddoedd olaf bywyd Benjamin Britten, ysgrifennwyd y prif gymeriad, Gustav von Aschenbach, ar gyfer ei bartner, Syr Peter Pears.
  • Pan berfformiwyd yr opera am y tro cyntaf yn Fenis yn 1973, roedd yna frigiad o achosion o golera yn yr Eidal (fel mae’r opera yn ei ddisgrifio), ac roedd llawer yn y gynulleidfa’n poeni y gallai’r afiechyd gyrraedd Fenis.

Così fan tutte

  • Mae’r cyfnewid dyweddi sy’n digwydd yn yr opera wreiddiol yn hen ddyfais plot, a ddefnyddiwyd yn The Taming of the Shrew gan Shakespeare.
  • Roedd yr opera hon yn boblogaidd iawn pan gafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yn Fienna yn 1790, ond cafodd ei chyfres o berfformiadau ei hatal ar ôl dim ond 5 sioe - bu’n rhaid canslo pob perfformiad theatr yn dilyn marwolaeth yr Ymerawdwr Joseff II.

Il trittico

  • Mae Il trittico gan Verdi yn cynnwys tair opera fach: Y cyswllt rhwng Il tabarro, Suor Angelica, a Gianni Schicchi yw bod marwolaeth yn cael ei chuddio ym mhob un.
  • Yn ystod ei pherfformiad cyntaf yn The Metropolitan Opera, yn Efrog Newydd, anogwyd Florence Easton i ailadrodd aria Lauretta - O mio babbino caro - o Gianni Schicchi, a’i gwnaeth yn ddarn arddangos clasurol ar gyfer sopranos ar draws y byd.

Bydd tocynnau ar gyfer ein Tymor 2023/2024 yn mynd ar werth ar ddydd Mercher, 1 Mawrth, gydag archebu blaenoriaeth ar gael nawr i Gyfeillion WNO.

Peidiwch â cholli allan - dewch i fwynhau eiliadau gwych gyda ni yn Opera Cenedlaethol Cymru.