Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn falch iawn o fod yn gweithio gyda'r tenor enwog ac enillydd gwobrau lu, Nicky Spence, unwaith eto yr hydref hwn, mewn cyngerdd ar y cyd â doniau Arweinydd Llawryfog WNO, Carlo Rizzi a Cherddorfa WNO. Y gwanwyn nesaf, bydd Nicky yn ymuno â'r Cwmni eto, yn ei berfformiad cyntaf mewn rôl arweiniol, y bu disgwyl mawr amdano, mewn cynhyrchiad newydd sbon o gampwaith operatig Britten, Peter Grimes.
Yn Albanwr balch, mae Nicky yn hanu o Dumfries a Galloway. Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Cerdd a Drama’r Guildhall, gan barhau â'i hyfforddiant yn y National Opera Studio, a fe oedd yr Artist Harewood cyntaf yn yr English National Opera.
Gwnaeth Nicky ei ymddangosiad cyntaf gyda WNO yn 2014 yn Moses in Egypt a William Tell, cyn dychwelyd yn 2022 fel Albert Gregor yng nghynhyrchiad pum seren The Makropulos Affair gan Janáček, wedi'i gyfarwyddo gan Olivia Fuchs. Ers hynny mae wedi arbenigo yng ngwaith Janáček, Wagner a Beethoven, gan weithio gyda Syr Mark Elder a'r Hallé, a gyda Syr Simon Rattle a'r LSO. Mae Nicky wedi dod yn un o denoriaid disgleiriaf a mwyaf poblogaidd gwledydd Prydain.
Rydyn ni yn Opera Cenedlaethol Cymru yn hynod falch y gall Nicky ymuno â ni fel unawdydd mewn cyngerdd mawr gan Opera Cenedlaethol Cymru yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ym mis Tachwedd eleni, dan arweiniad Carlo Rizzi, un o arweinyddion opera mwyaf blaenllaw'r byd, gyda Cherddorfa WNO, sy'n enwog ledled y byd. Bydd yn canu darnau mwyaf clodfawr ac emosiynol Samuel Barber, myfyrdod chwerwfelys, hiraethus ar nosweithiau haf plentyndod, sef y rhapsodi telynegol, Knoxville: Summer 1915. Disgrifiodd The Times Nicky fel ‘tenor sy'n cyfuno naws arwrol a sensitifrwydd barddonol llesmeiriol’, felly mae’n addas bod darn Barber yn seiliedig ar gerdd.
Yn 2020 enillodd Nicky Wobr Lleisiol Cylchgrawn BBC Music a Gwobr Unawd Lleisiol Gramophone. Erbyn 2022, dyfarnwyd Personoliaeth y Flwyddyn cylchgrawn BBC Music i Nicky am ei waith fel llysgennad diflino dros opera gan annog talent ifanc drwy’r Scottish Opera Young Company. Mae hefyd yn cefnogi cyd-gerddorion drwy'r Gymdeithas Annibynnol ar gyfer Cerddorion gan ddysgu dosbarthiadau meistr rhyngwladol ac fel athro gwadd yn yr Academi Gerdd Frenhinol a'r Coleg Cerdd Brenhinol.
Cafodd Nicky OBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd cyntaf y Brenin yn 2023 am ei wasanaeth i Gerddoriaeth a derbyniodd Wobr y Canwr gan y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol yn 2024.
Cofiwch ymuno â Nicky Spence a Carlo Rizzi gyda Cherddorfa WNO ar 9 a 10 Tachwedd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru; ac archebwch eich tocynnau i glywed Nicky fel arwr yr opera eiconig Peter Grimes o 5 Ebrill fel rhan o Dymor Gwanwyn 2025 WNO.