Newyddion

Tair mewn un...

24 Medi 2018

Yr hydref hwn mae Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio tair opera gwahanol iawn i’w gilydd. O’n cynhyrchiad newydd, epig o War and Peace i’r adfywiadau o straeon adnabyddus La Cenerentola, sef Sinderela Rossini, aLa traviata, sef un o'r operâu mwyaf poblogaidd erioed.

Y dynion yn unig fydd yn perfformio ym mhob un o dair opera Tymor yr Hydref. Mae hyn oherwydd y diffyg corws merched yn ein hadfywiad clasurol o La Cenerentola; ond byrhoedlog fydd y seibiant i’r merched gan y byddwn yn mynd â’n cynhyrchiad pum seren, Rhondda Rips It Up!ar daith unwaith eto am ragor o berfformiadau. 

Yn ystod ymarferion, bydd aelodau ein Corws yn aml yn gorfod ymdopi â sawl cynhyrchiad ar unwaith, gan neidio rhwng gwahanol ystafelloedd ymarfer a chael eu cludo i wahanol wledydd a chyfnodau. Yn wir, nid yw’r tymor hwn ddim gwahanol. 

Mae aelodau’r Corws yn dechrau eu hwythnos fel milwyr Rwsiaidd sydd wedi cael eu taflu i mewn i ryfel i amddiffyn eu gwlad rhag Napoleon.

Yn ein cynhyrchiad newydd, War and Peace, sy’n cael ei gyfarwyddo gan David Pountney a’i arwain gan Tomáš Hanus, mae cast o fwy na 60, sy’n cynnwys aelodau Corws WNO a’r Corws Ychwanegol, yn llenwi’r llwyfan i gyflwyno un o'r cynyrchiadau mwyaf epig hyd yma. Dyma un o’n cynyrchiadau mwyaf, lle mae aelodau o’r cast yn perfformio sawl rôl yr un – rhai ohonynt hyd yn oed yn newid cymeriad heb adael y llwyfan. Gan fod y darn yn un newydd sbon, gyda sgôr wedi’i dethol yn ofalus a’i gosod ynghyd gan ein hoff ddeuawd ddynamig, David a Tomáš, roedd rhaid i’n Corws ddysgu’r darn hwn o’r newydd a gweithio’n ddiwyd i’w berffeithio. Mae’n sgôr sy’n gofyn llawer gan ein Corws; un y byddai hyd yn oed y cantorion mwyaf medrus yn ei chael yn anodd, ond mae ein Corws wedi perffeithio’u nodau yn barod ar gyfer y noson agoriadol ar 15 Medi. 

Yna, maent yn symud yn ebrwydd o un ystafell ymarfer i gael eu cludo yn ôl mewn amser i Baris yn yr 19eg ganrif, lle byddant yn dod yn buteiniaid llys a bonheddwyr.

MaeLa traviata yn un o’r operâu mwyaf poblogaidd ac adnabyddus yn y byd, a gellir gweld pam o ystyried y gerddoriaeth hynod gofiadwy sydd ynddi. Mae graddfa’r darn yn llawer mwy agos atoch na’r rhan helaeth o waith Verdi, ac mae’n cyffwrdd â’r galon. Nid oes elfen hanesyddol, fawreddog, ond mae’n hoelio’ch sylw yr un fath, gyda’i stori am gariad, colled a thor-calon. Caiff y stori ei chyfleu drwy arias hyfryd, gan gynnwys yr aria enwog, llawn egni, Libiamo ne’lieti calici neu’r Brindisi (y Gân Yfed) fel y bydd yn cael ei galw. I’r Corws, mae’r opera hon yn llawn golygfeydd dawnsio a phropiau gwych – yn sicr, dyma fyd opera ar ei orau.  

I gloi, yn yr olaf o’r tair opera, mae dynion y Corws yn chwarae gwŷr llys mewn palas tywysog yn ein cynhyrchiad o La Cenerentola.

Dyma fersiwn ychydig yn wahanol i’r Sinderela sy’n gyfarwydd i chi, efallai. Yn opera Rossini, ceir llystad drwg a dewin, a breichled goll yn lle esgid wydr. Mae La Cenerentola yn ddisglair a mentrus, ac yn mynd fymryn dros ben llestri – yn dra gwahanol, felly, i straeon trymach War and Peace a La traviata. Nid oes marwolaethau na thor-calon; cawn weld llygod yn dawnsio, gwisgoedd trawiadol a hyd yn oed chwaer hyll neu ddwy. Yn llawn bywyd ac egni, mae La Cenerentola yn un i’r teulu cyfan.

Pa bynnag opera y dewiswch y tymor hwn, gallwch fod yn siŵr ein bod wedi bod yn gweithio’n galed tu ôl i’r llenni i’w gwneud yn un dda. Archebwch nawr i gael y tocynnau gorau sydd ar gael.