Newyddion

Cwrdd â’n Artistiaid Cyswllt WNO 2023/2024

6 Mehefin 2023

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn hynod falch o groesawu tri Artist Cyswllt newydd ar gyfer ein Tymor 2023/2024: Emily Christina Loftus, Beca Davies a Melissa Gregory. Fel Artistiaid Cyswllt WNO bydd y tri yn cael hyfforddiant a chefnogaeth o’r radd flaenaf, gyda chymaint o gyfleoedd i ennill profiad perfformio drwy rolau unigol yn operâu, cyngherddau a gwaith cymunedol ac ymgysylltu WNO.

Mae Melissa Gregory yn wreiddiol o Awstralia ac yn fezzo soprano fu’n astudio yn y Royal Northern College of Music a’r Queensland Conservatorium. Perfformiodd ledled y byd gyda sawl cwmni opera yn cynnwys Glyndebourne, Opera Queensland, Lyric Opera Studio Weimar a’r Northern Opera Group. Fel unawdydd cyngerdd, bu’n canu unawdau mewn gweithiau mawr megis Requiem Verdi a Nawfed Symffoni Beethoven. Mae gan Melissa sawl rôl fawr eisoes i’w henw, gan gynnwys rolau pwysig fel Cherubino yn The Marriage of Figaro, The Composer yn Ariadne auf Naxos a Dido yn Dido and Aeneas gan Purcell.

Mae Beca Davies, y mezzo soprano o orllewin Cymru yn ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru fel Artist Cyswllt yn dilyn ei hastudiaethau yn King’s College, London a’r Royal Conservatoire of Scotland. Mae gan Beca eisoes gysylltiad agos â WNO, gan iddi ganu gyda Cherddorfa WNO yn y gorffennol mewn perfformiad o Tosca yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac ymddangosodd mewn cynhyrchiad o Götterdämmerung Wagner gyda’r Royal Scottish National Orchestra yng Ngŵyl Ryngwladol Caeredin. Teithiodd Beca ledled Cymru gyda chynyrchiadau o Hansel and Gretel a Chyfrinach y Brenin gan Mared Emlyn, yn ogystal â pherfformio operâu newydd megis The Ghost Train gan Paul Crabtree a Helena gan Marco Galvini am y tro cyntaf yn y DU a ledled y byd.

Mae Emily Christina Loftus yn soprano o ogledd Lloegr ac yn un o raddedigion y Royal Conservatoire of Scotland a’r Royal College of Music. Ymhlith ei rolau opera hyd yn hyn mae Gretel yn Hansel and Gretel, Pamina a Papagena yn The Magic Flute a Merch 2 yn Akhnaten gan Philip Glass, a bu’n canu i gwmnïau opera blaenllaw ledled y DU gan gynnwys Opera Holland Park, English National Opera, Opera North, a Glyndebourne Festival Opera. Mae Emily hefyd yn Artist Samling ac yn Artist y Dyfodol Oxford Lieder ar hyn o bryd, yn dilyn ei pherfformiad yng Ngŵyl Oxford Lieder gyferbyn â’r soprano enwog, Mary Bevan.

Yn ogystal â pherfformio rolau yn y Tymor 2023/2024 sydd i ddod gan WNO, bydd yr Artistiaid Cyswllt hefyd yn ymddangos fel unawdwyr yn y cyngherddau Chwarae Opera YN FYW ac Opera Gala a bydd bob un yn rhoi perfformiad unigol yn y datganiad Artistiaid Cyswllt yn 2024.

I gael blas ar ychydig o brofiadau gweithgarwch ein hartistiaid, paid a cholli'r siawns i weld nhw yn ein cynhyrchiad newydd o Candide, sydd ar daith yr Haf yma.