Ers ein sefydliad, mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi rhoi gwledd i gynulleidfaoedd o rai o storiâu mwyaf cofiadwy ein hoes, gyda llawer ohonynt yn straeon tylwyth teg. O ddreigiau a bleiddiaid mawr drwg i dywysogesau wedi’u carcharu a gwrachod drygionus, dewch ar daith yn ôl i amser maith yn ôl i archwilio rhai o’r storiâu tylwyth teg gorau sydd wedi bod ar lwyfan WNO...
Perfformiwyd opera Rossini, La Cenerentola, am y tro cyntaf yn Rhufain yn 1817. Yn seiliedig ar y stori dylwyth teg glasurol Cinderella, merch ifanc, dlawd sy’n gwrthdroi ei ffawd drwy gwrdd â thywysog bonheddig, mae fersiwn Rossini yn cynnwys llys-dad yn lle’r llys-fam ddrwg, a thiwtor y tywysog yn lle’r ddewines garedig. Mae hefyd yn un o’r ychydig o operâu’r cyfnod sydd â rhan flaenllaw i gantores mezzo-soprano.
Wedi’i hanfarwoli yng nghasgliad storiâu tylwyth teg y Brodyr Grimm, defnyddiwyd stori'r brawd a chwaer, Hansel a Gretel, fel sail i opera Engelbert Humperdinck gyda’r un enw, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Weimar dan arweiniad Richard Strauss yn 1893. Pan gaiff Hansel a Gretel eu gadael mewn coedwig, cânt eu hudo i gartref gwrach sinsir sy’n eu caethiwo yno ac yn bwriadu eu bwyta. Serch hynny, mae Gretel yn llwyddo i wthio’r wrach i'w phopty ei hun, ac maent yn dianc ynghyd â thrysor y wrach.
Wedi’i hysgrifennu gan y cyfansoddwr o Hwngari, Béla Bartók, mae Bluebeard’s Castle (a berfformiwyd am y tro cyntaf yn 1918) yn seiliedig ar y stori dylwyth teg Ffrengig, Le Barbe bleue. Yn y stori gwelwn briodferch newydd Bluebeard, Judith, yn symud i’w gastell lle mae saith drws cloedig yn cuddio ei gyfrinachau. Ar ôl cael yr allwedd i bob drws, mae Judith yn eu hagor yn eu tro gan ddatgelu erchyllterau a llawenydd cudd, cyn cael ei chloi y tu ôl i'r drws olaf lle mae cyn-wragedd Bluebeard yn gaeth. Ar gyfer soprano a bariton, dim ond tua awr o hyd yw’r opera un act ac fe’i cyfansoddwyd yn arddull fodernaidd dechrau'r 20fed ganrif.
Cyfeiriwyd at yr opera Tsiec The Cunning Little Vixen gan ei chyfansoddwr Leoš Janáček fel ‘pantomeim’, ‘chwedl’ ac ‘opera-idyll’. Wedi’i pherfformio am y tro cyntaf yn 1924 yn Brno, roedd yn seiliedig ar y stori gyfresol Liška Bystrouška ac mae’n cael ei pherfformio ar y llwyfan ar ffurf stori dylwyth teg. Mae ei sgôr gerddorol chwareus yn dod â chymeriadau anifeiliaid y goedwig yn fyw, gan ddilyn taith Sharp-Ears y llwynoges yn ei chysylltiad â bodau dynol a chyd-greaduriaid bywyd gwyllt. Roedd ymhlith un o ffefrynnau Janáček o’i gyfansoddiadau, ac roedd mor hoff ohoni nes bod golygfa olaf yr opera wedi’i pherfformio yn ei angladd yn 1928 ar ei gais.
Mae opera plant 2015 Jonathan Willcocks yn seiliedig ar y stori dylwyth teg Almaenaidd chwedlonol, The Pied Piper of Hamelin. Mae trigolion tref Hamelin yn dioddef o bla o lygod mawr, ond yn lwcus mae Pibydd mewn dillad llachar yn llwyddo i ddenu’r llygod o’r dref gyda’i gerddoriaeth. Pan fo'r Maer yn gwrthod talu’r Pibydd am ei waith, mae’n addo dial ac yn swyno plant y pentref gyda’i bibianu, gan fynd â hwy i ogof fynyddig lle na fydd neb yn eu gweld byth eto. Yn sicr yn y stori hon, does neb yn byw yn hapus byth wedyn...
Peidiwch â cholli perfformiad Opera Ieuenctid WNO o The Pied Piper of Hamelin and The Crab That Played With The Sea, yn Stiwdio Weston Canolfan Mileniwm Cymru ddydd Sadwrn 27 a dydd Sul 28 Mai.