Newyddion

Rhufain - y Ddinas Dragwyddol a'i hoperâu bythol

30 Ebrill 2020

Nid oes llawer o ddinasoedd yn gallu cystadlu â threftadaeth artistig wefreiddiol Rhufain. Drwy gydol hanes, mae'r ddinas wedi serennu yn chwyldroadau mawr celf Gorllewinol, gan feithrin artistiaid gwych a'u hysbrydoli nhw i wthio ffiniau llwyddiant creadigol. Yn WNO, gwyddom fod angen opera i wneud prif ddinas yr Eidal yn gyflawn.

Mae prif dŷ opera Rhufain, Teatro Costanzi, yn brolio theatr coch ag aur dramatig yn ogystal â hanes anhygoel: yma perfformiwyd gyntaf Cavalleria rusticana gan Mascagni a Tosca gan Puccini, sydd â thri lleoliad go iawn ar gyfer ei dair act ar draws Rhufain, sef  Sant’ Andrea della Valle, Palazzo Farnese a Castel Sant’ Angelo.

Bu i Opera Cenedlaethol Cymru berfformio Il trovatore gan Verdi am y tro cyntaf 69 mlynedd yn ôl, ar 30 Ebrill 1951, yn y Prince of Wales Theatre, ond cafodd ei pherfformio gyntaf ar 19 Ionawr 1853 yn y Teatro Apollo. Bu i'r theatr, oedd wedi'i lleoli yn ardal Tor di Nona, ddiflannu dan lif yr afon Tiber ar ddiwedd yr 19eg ganrif. Roedd hyn yn ddiwedd ar gyfnod yn hanes artistig Rhufain, gan iddi fod yn gartref i'r cwmni gorau yn y dref.

Nid dim ond llwyddiant oedd perfformiad cyntaf Il trovatore, cafodd ei ddathlu fel campwaith. Ar noson y trydydd perfformiad, gan adleisio llwyddiant Macbeth yn Florence, cafodd Verdi ei dywys yn ôl i'w westy, wedi'i amgylchynu gan dorf ecstatig yn cario ffaglau. Islaw balconi ei ystafell, roedd band yn chwarae amrywiaeth o gerddoriaeth ei operâu.

Opera arall sydd wedi mwynhau'r un poblogrwydd eang a pharhaus yw The Barber of Seville gan Rossini, yr opera hynaf gan gyfansoddwr Eidaleg i beidio diflannu o’r repertoire. Cafodd yr opera hon hefyd ei pherfformio gyntaf yn Rhufain, ar 20 Chwefror 1816. Cafodd ein cynhyrchiad poblogaidd ei berfformio gyntaf 34 mlynedd yn ôl, ar 6 Mai 1986 yn y New Theatre, a gallwch ei wylio ar y llwyfan yn ddiweddarach eleni.

Roedd amgylchiadau yn gweithio yn erbyn Rossini wrth iddo arwyddo cytundeb ar gyfer opera gomig newydd ym mis Rhagfyr 1815 yn Teatro Argentina, Rhufain. Roedd opera gomig boblogaidd Giovanni Paisiello, The Barber of Seville, a gyfansoddwyd oddeutu 30 mlynedd yn flaenorol yn broblem fawr. Nid oedd ymateb cynulleidfa'r perfformiad cyntaf yn ffafrio fersiwn newydd Rossini, ond bu i athrylith yr opera lethu'r gynulleidfa ar yr ail noson. Yn ôl Verdi, dyma'r opera buffa (opera gomig) fwyaf hyfryd i'w chyfansoddi erioed.

Ymhlith y cyfansoddwyr eraill sydd wedi'u hysbrydoli gan Rufain mae Georges Bizet, sydd fwyaf adnabyddus am ei opera Carmen, ac astudiodd yn y ddinas am dair blynedd ar ôl ennill y Prix de Rome yn 1857. Treuliodd fwy na degawd yn gweithio'n ysbeidiol ar ei Symffoni Rhif 2, o'r enw Roma, ond nid oedd yn fodlon â hi, sy'n egluro pam nad yw'n cael ei pherfformio lawer heddiw. Ymwelodd Richard Strauss, cyfansoddwr Der Rosenkavalier, â Rhufain gyntaf yn 1886. Mae dau symudiad cyntaf ei ffantasi symffonig Aus Italien (O'r Eidal) yn ddehongliadau swynol o'r cefn gwlad o gwmpas Rhufain ac adfeilion y ddinas.

Y penwythnos hwn, rydym yn eich annog chi i roi eich traed i fyny a gwrando ar y gerddoriaeth arbennig sydd wedi'i ysbrydoli gan y Ddinas Dragwyddol. Beth am fwynhau powlen fawr o basta neu wydriad o win ar yr un pryd? Fel maen nhw'n ddweud ... 'when in Rome!'