Newyddion

Dywedwch 'Croeso' wrth gast Don Pasquale...

16 Mai 2019

Mae'n bleser gennym eich cyflwyno chi i, neu mewn rhai achosion eich ail-gyflwyno i gast Don Pasquale a grëwyd gan y meistr comedi, Gaetano Donizetti. Wedi iddo ysgrifennu dau o'r comedïau gwych Don Pasquale a The Elixir of Love, difethwyd ei fywyd gan drasiedi, pan gollodd ei wraig a thri o'i blant. Fodd bynnag, beth am i ni ei gofio ym mlodau ei ddyddiau, yn 'gymdeithasgar ac â hiwmor da' a chofleidio ei gomedi mwyaf poblogaidd.

I helpu eich cludo chi i'r byd rhyfeddol hwn o ddihangdod mae cyfuniad o ddawn ffres a medrau profiadol. Braint yw cael cast mor wych yn ymuno â ni yn y cynhyrchiad hwn.

Yn ymgymryd â'r brif ran, sef Don Pasquale, mae Andrew Shore, sy'n adnabyddus am ei lais amryddawn a'i feistrolaeth ar gomedi. Yn ystod ei yrfa eang, mae wedi ymgymryd â mwy na 17 o rannau wahanol ac wedi perfformio mewn dros 9 o wahanol wledydd yn fyd-eang. Yn 2014, gwnaethpwyd ef yn Ddoethur Anrhydeddus mewn Cerddoriaeth gan Brifysgol Bryste. Gan fyfyrio ar ei yrfa mewn erthygl i The Guardian, mae ei hanesion o'i gyfnod ar y llwyfan yn cynnwys popeth, o droi i Eidaleg yng nghanol cynhyrchiad i fod yn noeth ar y llwyfan gyda dim ond liwt i warchod ei wyleidd-dra.

Mae ei amseru comig perffaith; gan nodi mai ei ddylanwadau mwyaf yw cewri comedi Prydain, megis Morecambe and Wise, a'i sgiliau actio, a ddywedodd y bu iddo eu datblygu'n ifanc gyda'i gariad at sioeau cerdd yn ei ddyddiau ysgol, yn arwain at ei ddawn amlwg wrth bortreadu cymeriadau llawn bywyd. Un o'i ddoniau mwyaf yw gallu dod o hyd i ddyfnder a chymhlethdod yn ei gymeriadau; ni allwn ddisgwyl i weld beth fydd ganddo i'w gyfrannu at ran Don Pasquale.

Yn ymuno ag ef ar y llwyfan, yn chwarae rôl Norina, fydd Harriet Eyley, Artist Cyswllt WNO. Mae hi'n artist ifanc sy'n dod i olwg y byd opera ac sydd wedi cael canmoliaeth gan feirniaid am gael 'dawn, nid yn unig i ganu'r ariâu, ond i wneud i ni gredu ynddynt, gan drosglwyddo ei swyn gamine a mynd â'n bryd ni i gyd,' Planet Hugill. Mae wedi ennill y wobr DipRAM anrhydeddus a'i labelu gan Behind the Arras fel, 'Yn sicr yn un i'w gwylio.' 

Yn dychwelyd i WNO i chwarae rhan Ernesto mae'r tenor o Malta, Nico Darmanin, sy'n prysur sefydlu ei hun fel arbenigwr Bel Canto, sy'n hynod addas i opera Commedia dell'arte Donizetti. Mae ei rannau blaenorol yn cynnwys Danieli, yn y cynhyrchiad sydd wedi ennill gwobr Olivier, Les Vepres Sicilennes, Apparition of a Youth yn Die Frau ohne Schatten a enillodd y wobr am yr Opera Orau yng Ngwobrau South Bank Sky Arts a'i berfformiad cyntaf yn Glyndebourne fel Gastone ac Alfredo yn La Traviata. Cyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC gan gynrychioli Malta yn ogystal â pherfformio rhan Messiah yn y Royal Festival Hall, a Symffoni Rhif 9 Beethoven yn y Barbican yn Llundain.   

Yn ôl o'i rôl fuddugoliaethus fel Fred Graham/Petruchio yn Kiss Me, Kate gyda WNO (2016), Quirijn de Lang fydd Malatesta, yn dod â'i gelfyddyd fagnetig yn ôl, wedi'i gastio'n berffaith fel y twyllwr lleol, bydd yn rhoi tro ar geisio lladrata, nid yn unig ffortiwn Don Pasquale, ond calonnau'r gynulleidfa hefyd. Fel 'perfformiwr llawn mynegiant a hynod ddramatig' Opera Now, bydd â'i fachau ynom hyd at y diwedd un.

Beth am i ni anghofio am brofion bywyd bob dydd a mwynhau ein hunain am awr neu ddwy; a chofleidio hwyl lawen Don Pasquale.