Newyddion

Y Cysylltiad Tsiecaidd

8 Awst 2019

Bydd Cyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus, yn arwain The Cunning Little Vixen yn ystod Tymor yr Hydref, a dyma'r cyfle diweddaraf iddo rannu ei gariad tuag at Janáček gyda chynulleidfa WNO. Ers iddo gael ei benodi i weithio yn WNO, mae Tomáš wedi arwain From the House of the Dead fel rhan o'n Tymor Rwsia 17, ac wedi cynnwys Sinfonietta y cyfansoddwr yn rhaglen cyngerdd agoriadol Cerddorfa WNO yng Nghyfres o Gyngherddau Rhyngwladol 2018/2019 yn Neuadd Dewi Sant (ynghyd â monolog y Coedwigwr o Vixen).

A'r ddau yn dod o Brno yn y Weriniaeth Tsiec, mae Tomáš wedi magu cysylltiad clos â cherddoriaeth Janáček a bu iddo ennill Medal Janáček sy'n ei gydnabod yn berfformiwr rhagorol yn hyrwyddo gwaith y cyfansoddwr. Cyflwynwyd y fedal i Tomáš yn dilyn perfformiad o gynhyrchiad WNO o From the House of the Dead yng Ngŵyl Janáček yn Brno yn 2017.


Tomáš Hanus, a native of Janáček’s home town Brno, must have the truth of this opera in his blood and bones, and he conducts it with a visceral energy and clarity that takes no hostages: the pauses and silences, the sudden changes of mood and pace are all consummately judged, and the orchestra plays for him as if electrified, all colours blazing.

The Telegraph on From the House of the Dead

Eglura Tomáš ei berthynas â'r cyfansoddwr, 'Ers pan oeddwn yn ifanc, mae ei gerddoriaeth wedi bod yn agos iawn at fy nghalon. Cefais fy syfrdanu pan sylweddolais fod Janáček wedi byw a chyfansoddi dim ond dau floc i ffwrdd o'r tŷ lle cefais fy magu. Yr hyn yr wyf yn ei hoffi fwyaf am ei gerddoriaeth yw ei bod yn mynegi bywyd mor arbennig o dda. Nid yw'n lluniedig nac wedi'i chynllunio'n ofalus, mae'n gerddoriaeth naturiol a hyfryd ynglŷn â dynoliaeth a realiti natur. Mae'n du hwnt o arw ond tyner hefyd - wastad yn gallu cyffwrdd y gynulleidfa a'r galon.'

Mae The Cunning Little Vixen yn arbennig yn canolbwyntio ar gylch bywyd, gyda stori ysgrifenedig hyfryd a adroddir drwy lygaid anifeiliaid y goedwig a'r un bod dynol y maent yn rhyngweithio ag ef. Mae'n gyfle perffaith i'r teulu cyfan fwynhau opera gyda'i gilydd, fel y dyweda Tomáš wrthym 'Gall plant wirioni gyda phopeth, ond mae stori ddifrifol hefyd y gall oedolion a phob cenhedlaeth ddod o hyd i rywbeth i uniaethu ag o. Cânt eu meddiannu yn llythrennol.'

Y cynhyrchiad hwn fydd y cydweithrediad diweddaraf rhwng Tomáš a Syr David Pountney, sydd hefyd wedi derbyn y fedal Janáček, wedi iddo gael cymeradwyaeth arbennig am Katya Kabanova yn 1972 a'i Gylchred Janáček wedi hynny a gafodd ei gynhyrchu gan WNO a Scottish Opera.