Newyddion

Pobl WNO - Yn y Dechreuad

13 Rhagfyr 2021

Crëwyd Opera Cenedlaethol Cymru gan bobl a oedd eisiau dathlu cariad Cymru at ganu. Mae'r Cwmni yn ffynnu 75 mlynedd yn ddiweddarach o ganlyniad i ymdrechion unigolion lu - mewn cyfres dair rhan, rydym yn edrych ar rai o'r bobl hynny sydd wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu'r sefydliad.

Yn 1943, cynigiodd yr arweinydd Idloes Owen y dylid sefydlu cwmni opera. Wedi'i eni yn Ynyswen, llwyddodd Owen i ddilyn ei angerdd tuag at gerddoriaeth ar ôl i salwch ei orfodi i adael y pyllau glo lle'r oedd ei dad a'i frodyr yn gweithio. Ar ôl symud i Gaerdydd, datblygodd enw da iddo'i hun fel un o'r athrawon canu gorau yng Nghymru gyda Geraint Evans yn un o'i ddisgyblion nodedig. Ar ôl ymgasglu grŵp o selogion cerddoriaeth yn ei gartref, arweiniodd ffurfio'r hyn a fyddai'n dod yn Opera Cenedlaethol Cymru - a oedd ar y pryd yn cynnwys aelodau o hen Gwmni Opera Grand Caerdydd, Cantorion Cymreig y BBC a chantorion Lyrian. Owen, fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth, wnaeth arwain y perfformiad cyntaf, Cavalleria rusticana, yn Theatr Tywysog Cymru, Caerdydd – roedd y cast yn cynnwys Robert Tear a lansiodd ei yrfa yn y cynhyrchiad hwn. Parhaodd Owen yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth y Cwmni tan ei farwolaeth yn 1954. Gellir gweld plac glas yn dathlu ei fywyd yn ei gartref ar Ffordd yr Orsaf, Ystum Taf.

Meistr y Corws Owen oedd y cantor a'r arweinydd o Abertawe, Ivor John (yn y llun). Pan aeth Idloes yn sâl ym mis Ebrill 1945, galwodd ar Ivor i gymryd drosodd ganddo a hyfforddi'r Corws. Teithiodd Ivor i Gaerdydd, gwrandawodd ar ymarfer a chamodd i'r adwy ar ei union. Aeth ymlaen i arwain ail berfformiad opera y Cwmni y flwyddyn ddilynol - Faust - gan ganu'r brif rôl ddwy noson yn ddiweddarach hefyd. Parhaodd ei yrfa gydag Opera Scotland a'r Royal Carl Rosa Opera Company ymysg eraill.

Yn y blynyddoedd dilynol, cyfrannodd nifer o bobl at dwf WNO gan gynnwys y Cyfarwyddwyr Cerddoriaeth Frederick Berend (a oedd hefyd yn arwain i Rambert yn yr un cyfnod); Warwick Braithwaite, a ddychwelodd o'i wlad enedigol Seland Newydd i gyflawni'r rôl a daeth yn enwog am repertoire difyr a llai hysbys; a James Lockhart, a ymddangosodd ar Desert Island Discs, BBC Radio yn ystod ei amser gyda'r Cwmni. Byddai'r Rheolwr Busnes Bill Smith yn teithio i nifer o gynyrchiadau ledled y wlad i ddod o hyd i'r genhedlaeth nesaf o gantorion, cafodd ddylanwad mawr ar WNO yn y dyddiau cynnar hefyd.