Newyddion

Defnydd Agorawdau mewn Operâu

15 Hydref 2024

Mae hanes cyfoethog yn perthyn i agorawdau mewn operâu. Maent wedi esblygu o ‘ddechreuad’ ymarferol i fod yn ddatganiadau artistig sy’n gosod cywair cynyrchiadau cyfan, a gallant sefyll ar eu pen eu hunain fel repertoire cyngherddau, megis Agorawd Hebrides Mendelssohn, Fingal’s Cave neu Agorawd 1812 Tchaikovsky. Yna, fe wnaethant ddatblygu i fod yn rhan hanfodol o ffilmiau a sioeau cerdd. Mae agorawdau bellach yn ffordd bwerus o osod y cywair a pharatoi’r gynulleidfa ar gyfer y stori sydd i ddod.


Caiff agorawd ei diffinio fel cyflwyniad offerynnol a ddaeth i’r amlwg yn ystod yr 17eg ganrif mewn perfformiadau ballet, oratorio ac opera yn Ffrainc a’r Eidal.

Mewn operâu cynnar, roedd yr agorawd yn perfformio fel preliwd, a’r bwriad yn aml oedd tawelu’r gynulleidfa a dangos bod y perfformiad yn dechrau. Roedd cyfansoddwyr opera o’r Eidal, fel Monteverdi a Scarlatti, yn defnyddio darnau cerddorol syml ac urddasol i ddangos bod yr opera yn dechrau. Datblygodd yr agorawd Ffrengig, a arloeswyd gan Jean-Baptiste Lully mewn ballets de cour, i fod yn gyfansoddiad hollbwysig. Roedd dwy ran yn perthyn i’r math hwn o agorawd: agoriad araf ac urddasol, ac yna adran gyflymach a bywiocach. Defnyddiodd Purcell yr arddull Ffrengig hon yn ei opera Dido and Aeneas, yn yr un modd â Bach, Handel a Telemann fel preliwdiau i gyfresi cerddorfa.

Erbyn y 18fed ganrif, dechreuodd cyfansoddwyr fel Mozart ddefnyddio’r agorawd fel rhan fwy integredig o’r opera, ac mae ei agorawd i The Marriage of Figaro yn enghraifft berffaith. Mewn operâu Eidalaidd, gelwid yr agorawd yn sinfonia avanti l’opera (y symffoni cyn yr opera) a daeth yn rhan annatod o operâu Rossini (William Tell) a Verdi (La forza del destino a La traviata). Byddai’r agorawdau hyn yn cyflwyno themâu neu fotiffau cerddorol a fyddai’n ymddangos yn nes ymlaen yn yr opera, gan greu naratif cerddorol mwy cydlynol. Parhaodd agorawdau i esblygu mwy fyth yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan ddaethant yn fwy cymhleth ac emosiynol eu natur. Dechreuodd cyfansoddwyr fel Beethoven (Fidelio), ac yna Wagner – yn enwedig yn The Flying Dutchman a Tannhäuser – ddefnyddio agorawdau i grisialu naws emosiynol a thematig yr holl opera, gan fynd ati’n aml i gyflwyno’r prif leitmotifs (themâu cerddorol sy’n cynrychioli cymeriadau neu syniadau) a fyddai’n cael eu datblygu drwy gydol yr opera.

Wrth i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg fynd rhagddi ac wrth i’r opereta (opera ysgafn) ddod yn boblogaidd, esblygodd agorawdau i fod yn ysgafnach ac yn fwy melodaidd, gan grynhoi prif alawon y sioe mewn ffordd ddifyr a hygyrch. Roedd cyfansoddwyr fel Johann Strauss II (Die Fledermaus), Lehár (The Merry Widow) a Gilbert & Sullivan yn hollbwysig yn y newid hwn, ac yn aml roedd eu hagorawdau’n cynnwys cadwyn o alawon mwyaf cofiadwy’r opereta, gyda’r nod o godi awch ar y gynulleidfa i glywed rhagor.

Parhaodd hyn yn ystod yr ugeinfed ganrif, a daeth agorawdau’n nodwedd safonol ar Broadway, yn ffilmiau Hollywood ac yn sioeau cerdd yr ‘Oes Aur’. Ysgrifennodd cyfansoddwyr fel Richard Rodgers, George Gershwin, Korngold a Leonard Bernstein agorawdau bywiog a diddorol, yn aml ar ffurf cadwyn o alawon, gan gynnwys pytiau o gerddoriaeth a chaneuon mwyaf poblogaidd y sioe. Roedd yr agorawdau hyn yn rhyw fath o ‘gip ymlaen llaw’ ar yr hyn a oedd i ddod, gan gynyddu’r disgwyliadau ar gyfer y perfformiad. Mae enghreifftiau’n cynnwys yr agorawdau yn West Side Story a Candide gan Bernstein a’r agorawdau yn Oklahoma!, South Pacific a Seven Brides for Seven Brothers gan Rodgers a Hammerstein. Nid sioeau cerdd fel Kiss Me Kate! neu Guys & Dolls yn unig a ddefnyddiai agorawdau – roeddynt i’w cael hefyd mewn ffilmiau enwog, yn cynnwys Gone with the Wind (1939) a Lawrence of Arabia (1962).

Wrth i arddulliau cerddorol esblygu yn niwedd yr ugeinfed ganrif, dechreuwyd defnyddio agorawdau mewn ffyrdd mwy amrywiol. Gwelir bod rhai sioeau cerdd fwy diweddar, fel Sweeney Todd gan Stephen Sondheim, wedi defnyddio’r agorawd draddodiadol, tra mae sioeau eraill, fel Les Misérables neu The Phantom of the Opera gan Andrew Lloyd Webber, wedi defnyddio prologau cerddorol yn lle’r agorawd.

Os oes gennych awydd mwynhau agorawd urddasol Mozart i The Marriage of Figaro, archebwch le nawr ar i weld yr opera yn ystod Tymor y Gwanwyn 2025.