Cyn sioe arddangos Y Pethau Rwyt Ti'n Eu Gwneud am Gariady National Opera Studio yn Neuadd Hoddinott y BBC ar 11 Chwefror, cawsom sgwrs â Rhydian Jenkins, tenor o Gymru a chyn-aelod o Opera Ieuenctid WNO, er mwyn dysgu mwy am ei frwdfrydedd dros opera ac am rôl Opera Cenedlaethol Cymru wrth annog a chefnogi cantorion ifanc.
‘Rwyf wedi canu erioed, ers i mi fod yn fachgen ifanc yn ôl adref yng Nghymru, yn ein Heisteddfodau Cenedlaethol blynyddol. Dechreuais ddysgu ambell i ddarn Eidaleg, ac yn ystod fy mlwyddyn o hyfforddiant TAR, dechreuais ymgymryd â gwersi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru [RWCMD], lle cwrddais â’m hathro presennol, Adrian Thompson, a arweiniodd i mi astudio yno, yn Ysgol Opera David Seligman. Datblygodd popeth o hynny.
Yn ystod fy nghyfnod yn RWCMD, roeddwn yn ffodus iawn o fod wedi cael ychydig o brofiadau gydag Opera Cenedlaethol Cymru - yn perfformio mewn dwy gala opera gyda Cherddorfa WNO ac Arweinydd Llawryfog WNO, Carlo Rizzi, ac yn fwy diweddar, yn perfformio rhan Sergei yng nghynhyrchiad Opera Ieuenctid WNO o Cherry Town, Moscow, wedi’i gyfarwyddo gan Daisy Evans – sydd bellach yn cyfarwyddo’u cynhyrchiad newydd o The Magic Flute. Roedd yn amgylchedd mor hyfryd. Roedd cael cyfle i weithio gyda Chwmni proffesiynol, gyda’i amserlen ymarfer ddwys, wedi fy mharatoi i reoli fy nghydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn NOS drwy ddeall pryd i gymryd egwyl fach oddi wrth ganu a chael hoe fach, p’un a yw hynny’n golygu ymgymryd â gweithgaredd corfforol neu rywbeth arall, mae’n cadw fy meddwl yn iach, ac rwy’n meddwl ei fod yn hynod bwysig fel canwr opera.
Mae opera’n dod gydag amser, profiad a dysg. Byddwn yn eich cynghori i roi cynnig ar gyn nifer o ariâu, caneuon, a rhannau ag y gallwch chi, ond hefyd, i wrando ar eich athrawon. Cofiwch, maent yno i’ch helpu a’ch cefnogi chi. Athro da yw amser.
Fel Cymro balch, roeddwn ar ben fy nigon pan glywais fod y National Opera Studio yn ymgymryd â chyfnod preswyl yn WNO. Mae'n help bod fy nghartref ym Maesteg yn eithaf agos at Gaerdydd a Chanolfan Mileniwm Cymru, felly rwy’n edrych ymlaen at dreulio’r wythnos fel tywyswr, gobeithio, i bawb yn y Stiwdio!’
Peidiwch â cholli’r cyfle i weld Rhydian a’r National Opera Studio yn perfformio rhaglen o ensembles ac ariâu serch poblogaidd yn Y Pethau Rwyt Ti'n Eu Gwneud am Gariad yn Neuadd Hoddinott y BBC, ddydd Sadwrn 11 Chwefror am 3pm.