Pan nad yw'r person yr ydych chi'n ei garu yn eich caru chi'n ôl, gall deimlo fel diwedd y byd (sy'n ddigon posibl yn y byd opera). Nid yw dygymod â siom yn hawdd, ac os nad yw dilyn ôl traed Dwynwen, Nawddsant Cariadon Cymru, yn mynd â'ch bryd chi, hynny ydy, ffoi i ogledd Cymru a sefydlu eich mynachlog eich hun, beth am geisio cysur drwy'r ffaith nad ydych ar eich pen eich hun yn eich trallod. Gallech hefyd deimlo'n well drwy wybod bod rhai pobl mewn sefyllfa waeth na chi. Dyma rai enghreifftiau torcalonnus o'r byd opera.
Roberto Devereux
A hithau'n Frenhines, byddech chi'n meddwl y byddai gan Elisabeth I bopeth yr oedd ei eisiau. Anghywir. Mae cariad nas dychwelir a hapusrwydd gwaharddedig yn ei gorfodi i ddatgelu'r gwrthdaro rhwng ei dyletswyddau cyhoeddus fel brenhines Lloegr a'i theimladau preifat fel menyw. Mae hi'n caru Roberto Devereux, ond mae ef mewn cariad â Sara (gwraig ei gyfaill), ac yn gwrthod troi cefn arni, sy'n torri calon Elisabeth ac yn ei chymell i arwyddo ei warant ddienyddio. Fe wnaeth cynhyrchiad diweddaraf WNO gyraedd ei uchafbwynt gyda sŵn ergyd gwn, ond pwy oedd yn sefyll o flaen y gwn; Devereux, Sara neu'r Frenhines ei hun?
Micaëla yw’r enghraifft perffaith o'r merch drws nesaf, caredig, hael ac yn rhoi anghenion eraill yn gyntaf, ond pan mae Carmen yn dod ar y sin, mae Micaëla’n cael ei gwthio i'r cyrion. I wneud pethau'n waeth, mae ei chariad ers ei phlentyndod, Don José, milwr naïf, yn disgyn mewn cariad a Carmen ac yn aberthu ei gyfeillion, ei deulu a'i yrfa am fywyd peryglus ar ochr anghywir y gyfraith. Sut mae Micaela yn ymdopi â'i phoen calon? Ceisio ei lywio ef yn ôl ar y trywydd cywir, wrth gwrs...merch dda y byd opera yw hon.
Der Rosenkavalier
Mae’r Marschallin cyfoethog sy’n heneiddio mewn cariad â'r Octavian ifanc, sydd wedi gwneud y mwyaf o'i serch, ond câi ei lethu â chariad ar yr olwg gyntaf pan anfonir ef ar genadwri ar alw Baron Ochs, ac mae’n cyfarfod a’r hyfryd Sophie. A fydd y Marschallin yn aberthu ei hapusrwydd yn wyneb cariad pur? Wedi'r cwbl, os wyt mewn cariad â rhywun, oni ddylid ei adael yn rhydd?
Madam Butterfly
Mae Cio-Cio-San yn ferch 15 oed ac ni all gredu ei lwc pan mae’n cyfarfod â'r swyddog morwrol, Pinkerton. Er ei bod hi mewn cariad, nid yw ef yn teimlo'r un fath. Cyn hwylio'n ôl yn ddi-oed i'r Unol Daleithiau, mae'n ei beichiogi, ac mae'n rhaid iddi nawr wynebu bywyd fel mam sengl. Ar ôl blynyddoedd yn dal ei gafael ar ei addewid y bydd yn dychwelyd, caiff ei breuddwyd ei gwireddu, ond mae merch arall yn cydio yn ei fraich. Yn ymostyngar, daw stori Cio-Cio-San i ben ac mae'n rhaid i'w mab barhau â'i fywyd hebddi.
Peidiwch â gadael i dorcalon eich tynnu i lawr. Dewch yn ôl at eich coed y Gwanwyn hwn gydag ychydig o hiwmor ysgafn. Yn cynnwys hoff bâr priod y byd opera, mae The Marriage of Figaro gan Mozart yn un o'r operâu comedi gorau a ysgrifennwyd erioed. Mae Figaro a Susanna ar dân eisiau priodi, ond mae cynllwyniau eu cyflogwyr a'u cyfeillion yn bygwth aflonyddu eu diwrnod arbennig. Mae'n stori sy'n dangos y gall cariad a thwyll ar adegau fynd law yn llaw.