Cymru; ‘Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri’. Cenedl sy'n gartref i 3.1 miliwn o bobl ac yn cwmpasu rhanbarth o 20,800-cilometrau sgwâr o fewn y Deyrnas Unedig. Yn cynnwys 170 o drefi a phentrefi, mae gan Opera Cenedlaethol Cymru gysylltiad â phob un o chwe dinas y wlad - Caerdydd, Casnewydd, Abertawe, Bangor, Tyddewi a Llanelwy.
Mae cartref a phencadlys WNO yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn y Brif Ddinas, Caerdydd. Nid yw ein man geni yn rhy bell o’r Bae – ffurfiwyd y Cwmn i yng nghartref ein Rheolwr Cyffredinol cyntaf, Idloes Owen, yn Llandaf ar noson oer o aeaf. Gan gadw ein hunaniaeth Gymreig wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud, rydym yn ymrwymo i gryfhau ein cysylltiadau â chwmnïoedd, sefydliadau a chymunedau Cymru drwy fynd â'n cynyrchiadau raddfa fawr a graddfa ganolig, cyngherddau cerddorfaol, digwyddiadau cymunedol a phrosiectau allgymorth ar daith.
Yn enwog fel Gwlad y Gân, mae canu yn rhan annatod o draddodiad Cymru. Y Tymor hwn yn unig, rydym wedi croesawu llu o artistiaid Cymraeg gan gynnwys Leah-Marian Jones, Elin Pritchard a Robyn Lyn Evans ymhlith eraill. Rydym hefyd wedi croesawu arweinwyr a dawnswyr o Gymru. Ar gyfer ein cynhyrchiad newydd o Les vêpres siciliennes, buom yn cydweithio â'n cyd-breswylwyr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Yn dilyn ychydig wythnosau rhagorol yng Nghaerdydd, mae ein Tymor y Gwanwyn 2020 bellach ar daith ac yn ymweld â'n cartref yng ngogledd Cymru, Llandudno, yr wythnos hon. Yn ogystal â chynnal ein cynhyrchiad raddfa fawr, Venue Cymru yw cartref un o'n grwpiau Opera Ieuenctid a'n Corws Cymunedol Gogledd Cymru - sy'n perfformio yng Ngŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Gogledd Cymru yn Llanelwy bob blwyddyn.
Bydd ein cynhyrchiad graddfa ganolig diweddaraf, Cosi fan tutte, yn mynd ar daith ar hyd a lled Cymru'r Haf hwn, yn mynd ag opera i gymunedau llai'r wlad hon. Bydd ein cynhyrchiad newydd, sbon sydd wedi ei ysbrydoli gan yr 1970au, yn dechrau yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin yn Abertawe ar 23 Mai, cyn mynd ymlaen i Gasnewydd, Yr Wyddgrug, Aberhonddu, Aberdaugleddau a Bangor a bydd y tenor Cymreig, Rhodri Prys Jones, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf fel Ferrando.
Un o uchafbwyntiau lu'r flwyddyn fydd ein Tymor yr Haf 2020 sy'n gweld y Cymro o fri, Syr Bryn Terfel yn dychwelyd atom, a ddechreuodd ei yrfa gyda ni yn ôl yn 1990. Y tro hwn, bydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf fel Duke Bluebeard yn Bluebeard’s Castle gan Bartok.
Yn ogystal â'u cylch gwaith operatig sylweddol, mae Cerddorfa WNO yn ymwelwyr cyson i Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd - cartref y Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol, Proms Cymru a Chystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae ganddynt hefyd raglen deithio hir sefydlog sy'n teithio i leoliadau rhanbarthol ledled Cymru. Mae eu taith haf ddiweddaraf, Bach, Barber a Beethoven, yn ymweld â Chaerdydd ar 20 Mehefin ac ym mis Gorffennaf, maent yn mynd am y gorllewin i Ŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Abergwaun ar gyfer dau gyngerdd arbennig, un yn Nhyddewi a'r llall yn Hwlffordd.
Mae'r Gerddorfa hefyd yn chwarae rôl ganolog yn ein hadran Ieuenctid a Chymuned, ac eleni, byddant yn ein helpu i ddathlu pumed flwyddyn ein Rhaglen Ysgolion. Ynghyd â'r plant o'r 10 ysgol gynradd yr ydym yn gweithio â nhw'n rheolaidd; rydym yn cydweithio â'r cyfansoddwr Cymreig, Gareth Glyn, a'r awdur plant, Anni Llŷn, i ddysgu mwy am chwedlau a straeon Cymru drwy gasgliad o ganeuon sydd newydd ei gomisiynu.
Efallai fod gennym ni statws rhyngwladol, ond rydym yn falch o eistedd wrth galon creu cerddoriaeth yng Nghymru. Beth am archwilio eich Cysylltiadau Cymreig ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni?