
O La bohème i Peter Grimes, mae yna bob tro wersi bywyd i’w dysgu yn ein hoff operâu. Beth am drin a thrafod rhai o’r gwersi pwysicaf y mae operâu wedi’u dysgu i ni.
Byw o fewn eich modd
Mae La bohème gan Puccini yn cynnig gwersi lu am gariad a dilyn eich calon; ond yn act dau, a leolir yn Café Momus, mae Rodolfo, Mimì, Marcello a Musetta yn cynnig sawl llwncdestun ac yn mynd ati i ddifrif i yfed, gan arwain at fil na allant fforddio ei dalu. Gan sylweddoli nad oes ganddynt ddigon o arian i dalu’r bil, maent yn ffoi o’r caffi ac yn ymdoddi i dorfeydd y Nadolig, gan adael edmygydd oedrannus Musetta, sef Alcindo, i’w dalu.
Gall pobl newid
Er gwaethaf yr hyn a gred Giorgio Germont, tad Alfredo, mae La traviata yn dangos y gall hyd yn oed ferch sy’n or-hoff o bartïon newid ei ffordd benchwiban o fyw. Ar ôl syrthio mewn cariad ag Alfredo, mae Violetta – y butain llys fwyaf poblogaidd ym Mharis – yn troi ei chefn ar bartïon afradlon ac yn ymgartrefu yn y wlad. Er iddi werthu ei heiddo er mwyn gallu fforddio i aros gydag Alfredo, nid yw tad Alfredo o’r farn bod Violetta wedi newid ac mae’n ei gorfodi’n ôl i’w hen fywyd. Yn y pen draw, mae Germont yn sylweddoli ei fod wedi camsynio. Ond mae’n sylweddoli hynny’n rhy hwyr, oherwydd mae Violetta yn clafychu ac yn marw ym mreichiau Alfredo.

Ystyriwch eich dymuniadau’n ofalus iawn
Er na fu fyw yn ddigon hir i ddysgu’r wers hon, dymuniad tad Emilia Marty yn The Makropulos Affair oedd cael bywyd tragwyddol a gorfododd ei ferch i yfed diod arbennig, gan ei gwneud yn anfarwol. Er bod anfarwoldeb yn wych o beth ym marn Hieronymus Makropulos, sef meddyg personol yr Ymerawdwr Rudolf II, nid hawdd i’w ferch oedd byw am 300 mlynedd a gorfod symud a newid ei henw byth a hefyd. Arweiniodd anfarwoldeb a’i drafferthion at broblemau lu i Emilia Marty dros y canrifoedd – colli cariad, teimlo’n ynysig ac anghydfodau cyfreithiol dros ewyllys gan mlwydd oed.

Nid yw popeth fel yr ymddengys
Os ydych wedi gweld ein cynhyrchiad presennol o Così fan tutte gan Mozart, yna fe wyddoch nad yw popeth bob amser fel yr ymddengys. Mae’r opera hon yn llawn cuddwisgoedd a senarios sy’n anelu at dwyllo – does syndod bod Fiordiligi a Dorabella wedi dysgu trwy brofiad am gariad ac ymddiriedaeth yn Yr Ysgol i Gariadon.
Nid yw’n rhy hwyr i chi weld ein cynhyrchiad newydd sbon danlli ym Mryste a Birmingham. Cewch weld drosoch eich hun nad yw popeth y cawsoch eich arwain i’w gredu o angenrheidrwydd yn hollol wir.
Peidiwch â neidio i gasgliadau
Mae’r trefolion yn Peter Grimes o waith Britten yn beirniadu’r prif gymeriad, sy’n bysgotwr, ar unwaith ar ôl i’w brentis farw mewn amgylchiadau dirgel. Er bod y crwner, Mr Swallow, yn pennu mai damweiniol oedd marwolaeth y bachgen, mae statws Grimes fel dieithryn yn ei wneud yn darged hawdd i ysgwyddo'r bai. Pan mae’r trefolion yn cael gwybod bod yr athrawes ysgol leol Ellen, y mae Grimes yn dymuno ei phriodi, wedi canfod siwmper ail brentis sydd ar goll wrth y lan, maent yn amau’r gwaethaf ar unwaith ac yn cychwyn helfa i ddod o hyd i Peter Grimes. Ynghyd â’r swyddog llynges sydd wedi ymddeol, Capten Balstrode, mae Ellen yn ceisio helpu Peter i ddianc, ond mae eu hymdrechion gwyllt i’w helpu i ddianc rhag y cyhuddiadau ffug yn gorffen gyda thrasiedi.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn dod â’r stori hon am arwahaniad a rhagfarn i lwyfannau yng Nghaerdydd, Southampton, Birmingham, Milton Keynes, Llandudno a Plymouth y Gwanwyn nesaf.