Newyddion

WNO a'r Teulu Brenhinol; stori ramantaidd

19 Ebrill 2019

Mae Meghan a Harry, y pâr hapus a briododd yn Windsor fis Mai diwethaf, dim ond rhai dyddiau i ffwrdd o groesawu eu cyntaf anedig. Wrth i ni ddisgwyl cyrhaeddiad wythfed ŵyr neu wyres y Frenhines a Dug Caeredin, rydym ni'n myfyrio ar ein perthynas ffrwythlon â brenhindod. Mae gan aelodau o'r teulu brenhinol gysylltiadau â channoedd o elusennau ac mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi bod yn hynod ffodus i dderbyn cymorth gan sawl aelod o'r teulu brenhinol dros y blynyddoedd.

Bu i WNO gydio wrth deitl brenhinol am y tro cyntaf yn 1946 pan ddiogelwyd Theatr Tywysog Cymru, Caerdydd, fel lleoliad perfformiad llawn cyntaf y cwmni. Yn Ebrill 1946, arweiniodd Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Idloes Owen, noson agoriadol Cavalleria Rusticana & Pagliacci. 70 mlynedd yn ddiweddarach ac mae'r dyn a roddodd ei enw i'n lleoliad cyntaf, yn cynnal perfformiad gala arbennig, a oedd yn cynnwys perfformiadau gan Syr Bryn Terfel a ffefryn WNO, Rebecca Evans, ym Mhalas Buckingham i ddathlu ein pen-blwydd yn 70 oed.

Yn 1969 cawsom ein hymweliad brenhinol cyntaf. Ar 14 Hydref, ymwelodd y Tywysog Charles â'r cwmni am y tro cyntaf erioed. Yn dilyn Perfformiad Gala o Falstaff gan Verdi yn New Theatre Caerdydd, dangosodd ei wybodaeth a'i frwdfrydedd arbennig tuag at y ffurf hon o gelfyddyd. 

Rhoddwyd sêl bendith frenhinol i ni yn 1982, pan ddaeth Diana, Tywysoges Cymru yn noddwr i ni, ein cyntaf erioed. Yn ystod ei chyfnod fel noddwr, mynychodd nifer o Gyngherddau Gala yn New Theatre, Caerdydd; Dominion Theatre, Llundain; Royal Opera House, Covent Garden; Brooklyn Academy of Music, Efrog Newydd ac yn 1984, agorodd y pencadlys pwrpasol newydd, Adeilad Tywysoges Cymru yn Stryd John, Caerdydd. 

Rydym wedi bod yn ddigon ffodus cael croesawu, nid yn unig Tywysog a Thywysoges Cymru dros y blynyddoedd, ond hefyd Dug Caint a'r Dywysoges Frenhinol, Tywysoges Anne. 

Yn 1996, ymddiswyddodd Tywysog Diana fel Noddwr, ynghyd â sawl sefydliad arall, ond nid dyma oedd diwedd ein cysylltiad brenhinol. Yn 1997, croesawom Noddwr newydd, Ei Uchelder Tywysog Cymru. Ers dod yn Noddwr i ni yn 1997, mae'r Tywysog Charles wedi ymweld â'r cwmni'n gyson. Mae ei ymweliadau mwyaf nodedig yn cynnwys perfformiadau yn Shaftesbury Theatre, Llundain; Sadler’s Wells Theatre, Llundain; New Theatre, Caerdydd ac wrth gwrs Canolfan Mileniwm Cymru.

Mae brenhindod yn dylanwadu ar ein rhaglen o operâu, hefyd. Mae ein Tymor y Gwanwyn 2019 yn canolbwyntio ar y pwnc diddorol a rhyfeddol o frenhiniaeth. Mae Un ballo in maschera a Roberto Devereux yn hanesion brenhinol wedi'u dramateiddio lle mae camdrin pŵer yn cael ei bortreadu'n ganolog i gwymp pob brenin a brenhines. Mae Elisabeth I, sy'n awdurdodol a dychrynllyd, yn wynebu'r sefyllfa yn Roberto Devereux gyda'i goruchafiaeth obsesiynol. Yng nghynhyrchiad newydd David Pountney, Un ballo in maschera, mae Brenin sydd wedi'i swyno gan theatr a chuddwisgoedd yn datgelu dull gweithredu mwy diafael tuag at ei gyfrifoldebau, ac yn y pen draw caiff ei gosbi am hynny mewn llofruddiaeth greulon. Yn olaf ond yr un mor bwysig, yn The Magic Flute, caiff dyn a dynes eu rhoi dan brawf, yn llythrennol mewn tân a dŵr, i brofi eu hysbryd fel arweinwyr y dyfodol.

Mae ein hoperâu Tymor y Gwanwyn ar daith tan 11 Mai.