Newyddion

WNO yn Birmingham

12 Mawrth 2020

Er bod Opera Cenedlaethol Cymru wedi ei leoli yng Nghaerdydd, mae gan y Cwmni broffil cenedlaethol a rhyngwladol sylweddol a chynyddol. Rydym wedi ystyried Birmingham fel ein cartref yn Lloegr ers sawl blwyddyn. Ar ôl perfformio Boris Godunov yn yr Alexandra Theatre yn 1968, fe wnaethom symud i’r lleoliad presennol yn Birmingham Hippodrome yn 1971, lle aethom a phedair opera ar daith yn y Tymor cyntaf hwnnw: The Magic Flute, The Barber of Seville, Aida a Lulu. Ers hynny, rydym wedi bod yn ôl bron bob blwyddyn (a defnyddio Symphony Hall pan oedd yr Hippodrome ar gau ar gyfer gwaith adnewyddu) hyd heddiw, a byddwn yn dod â'n taith y Gwanwyn i ben yna ym mis Mai 2020.

Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi perfformio Rhondda Rips It Up! a Don Pasquale yn MAC, lle wnaethom ddenu cynulleidfa hollol newydd i WNO, ac rydym yn gobeithio croesawu hyd yn oed mwy o bobl yn Haf 2020, pan fyddwn yn mynd â Così fan tutte gan Mozart i Birmingham Repertory Theatre.

Y tu hwnt i'n gweithgareddau ar y llwyfan, mae gennym Gynhyrchydd sydd wedi ei leoli yn y ddinas yn cynnal prosiectau cymunedol. Rydym yn gweithio gyda 320 o blant ysgol a phobl ifanc o Firmingham a Sandwell pob wythnos, yn ogystal â chynnal 12 sesiwn Blasu Opera Ieuenctid mewn pum ysgol gynradd i dros 500 o blant y llynedd. Mae ein grŵp Opera Ieuenctid, a sefydlwyd yn 2018, yn gweithio gyda'r arweinydd Michael Betteridge ar hyn o bryd i greu eu hopera fer eu hunain sy'n dathlu amrywiaeth teuluoedd. Byddant yn perfformio'r opera fer hon yn y Legacy Centre yn Newtown ym mis Gorffennaf 2020. Bydd pobl ifanc o bedair ysgol uwchradd yn y Wlad Ddu yn gwylio ymarfer gwisgoedd o Carmen yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd y Tymor hwn, ac yn mynychu gweithdai lle byddant yn dyfeisio eu golygfeydd opera eu hunain gan ymateb i thema a chymeriadau'r opera, a fydd yn arwain at berfformiad yn y Black Country Museum. 


Mae teuluoedd ffoaduriaid gyda phlant ifanc yn mynychu sesiynau creu cerddoriaeth yn wythnosol yn St Chad’s Sanctuary, lle gallant fwynhau eu hunain wrth chwarae gemau cerddorol gyda'i gilydd ac ymdrochi yn y byd cerddorol gyfoethog sy'n cael ei roi iddynt gan dîm o gerddorion a chantorion opera. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda Mayfield Special School i ddyfeisio profiad cyngerdd ar gyfer pobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog, tra bod ein hardal swyddfa newydd yn Touchbase Pears wedi arwain at bartneriaeth gyda Sense, sy'n elusen genedlaethol. Mae hyn wedi arwain at lansio ein Cyngerdd Birmingham Tonic cyntaf, yn croesawu pobl o gartrefi gofal a phreswyl lleol am brynhawn o glasuron opera a hen ffefrynnau.

Fel rhan o'n hymrwymiad i ddatblygu talent newydd, mae Cerddorfa WNO yn datblygu gweithgaredd ochr yn ochr â myfyrwyr o Birmingham Conservatoire pan fydd y Cwmni yn yr Hippodrome. Bydd myfyrwyr yn cael hyfforddiant ynghylch arddull a thechneg gan gerddorion WNO yn ystod ymarferion adrannau ac ymarferion ochr yn ochr.

Gyda chymaint yn mynd ymlaen, rydym yn siŵr o weld rhai ohonoch ym Mirmingham cyn bo hir.