Newyddion

Cerddorfa WNO yn camu ar lwyfan Venue Cymru

25 Ebrill 2019

Ar gyfer y rhai hynny ohonoch yng Ngogledd Cymru, mae Cerddorfa WNO yn dychwelyd i Landudno ar ddydd Sul 19 Mai i berfformio cyngerdd am 3pm. Fel rhan o'n nifer cynyddol o ymddangosiadau ledled Cymru, gan gynnwys perfformiadau opera, cyngherddau cerddorfaol neu gyfleoedd i gymryd rhan, mae Cerddorfa WNO yn dilyn cyngerdd cerddorfaol llwyddiannus y llynedd gyda rhaglen sy'n cynnwys Cyfres Rhif 1 Peer Gynt Greig, Rückert Lieder Mahler a Symffoni Rhif 6 Tchaikovsky (Pathétique), dan arweiniad Ainārs Rubiķis. Yn Hydref 2017, arweiniodd Ainārs berfformiadau WNO o Eugene Onegin.

This was a performance, under Latvian conductor Ainars Rubiķis, to revel in the full glory of Tchaikovsky’s score, which bristled and glowed.

Mark Pullinger, bachtrack, 19 Hydref 2017.

Egyr y cyngerdd gyda Suite Rhif 1 Peer Gynt gan Grieg. Gofynnodd y dramodydd Henrik Ibsen i Greig ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer ei ddrama bum act am werinwr, gwrtharwr o Norwy, Peer Gynt. Fodd bynnag nid yw'r pedwar symudiad, ‘Morning’, ‘The Death of Åse’, ‘Anitra’s Dance’ ac ‘In the Hall of the Mountain King’ (y bydd nifer yn ei hadnabod fel y gerddoriaeth i hysbyseb Alton Towers), yn dilyn trefn y ddrama, sydd fymryn yn ddryslyd. 

Mae Rückert Lieder Mahler yn serennu'r unawdydd Madeleine Shaw, byddwch, efallai, wedi ei gweld fel Arglwyddes Rhondda yn ein cynhyrchiad diweddar,Rhondda Rips It Up!Yma, bydd hi'n canu'r bum Lieder yn seiliedig ar y cerddi gan Friedrich Rückert - a oedd hefyd yn ieithegwr ac yn athro mewn ieithoedd dwyreiniol. Ystyrir cyfansoddiadau Mahler yn seiliedig ar gerddi rhamantus, telynegol Rückert fel rhai personol, sy'n cyfleu ei emosiynau drwy'r alawon a ddefnyddir. Gwelai ei hun yn y geiriau ac ystyrir yn aml ei ddehongliadau fel ei weithiau mwyaf telynegol. Mae Brahms, Schubert, Richard Strauss, Bartók a Berg ymhlith rhai o'r cyfansoddwyr eraill a ddefnyddiodd farddoniaeth Rückert i greu cerddoriaeth.

Y darn olaf yw Symffoni Rhif 6, Tchaikovsky, a gaiff ei hystyried fel ei waith gorau, o bosib, ac un o'i weithiau mwyaf poblogaidd heb os. Perfformiwyd am y tro cyntaf ychydig dros wythnos cyn ei farwolaeth, gydag ef yn arwain, ac ers hynny mae, o ganlyniad, wedi derbyn cryn sylw, gyda rhai yn ei weld fel darn proffwydol. Caiff y darn hefyd ei adnabod fel ‘Pathétique’ (sy'n golygu dwys neu emosiynol) - enw arall ar roddwyd gan frawd Tchaikovsky gyda'i ganiatâd, ac o bosib cam-gyfieithiad o'r Rwseg. Byddai cyfieithiad gwell, o bosib, yn darllen fel 'Passionate' yn Saesneg. Waeth beth fo'r gwirionedd yn y straeon am ei farwolaeth ac am y cyfansoddiad o'r symffoni hon, neu'r cyfieithiad cywir o'r enw, mae'r pedwar symudiad yn sicr yn gysylltiedig â marwolaeth, ond yn ymwneud â bywyd, gan gwmpasu'r ddau begwn emosiynol.

Mae'r cyngerdd hwn yn debygol o fod yn brynhawn llawn emosiwn, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â'ch hancesi gyda chi. Ond ni fydd seibiant i'r chwaraewyr, gan y bydd y Gerddorfa yn perfformio eto'r diwrnod dilynol, y tro hwn ar gyfer Cyngerdd Ysgol, gan ddwyn ynghyd blant o'r ardal leol ar gyfer eu profiad cyntaf o gerddorfa fyw. Rhywbeth a fydd yn sicr o roi gwên ar eu hwynebau unwaith eto.