Newyddion

Croesawu Artistiaid Cyswllt WNO newydd 2024/2025

28 Awst 2024

Mae’r Tymor 2024/2025 newydd sydd ar ddod yn Opera Cenedlaethol Cymru hefyd yn dod â charfan newydd o Artistiaid Cyswllt WNO yn ei sgil, ac rydym wrth ein bodd yn croesawu Eiry Price, Erin Rossington a William Stevens i’n rhaglen hyfforddiant o safon fyd-eang ar gyfer artistiaid newydd. Drwy gydol y flwyddyn, bydd y tri yn derbyn hyfforddiant proffesiynol a chefnogaeth gan arbenigwyr yn y diwydiant ac yn cael llawer o gyfleoedd perfformio trwy rolau unigol yn operâu, cyngherddau a gwaith cymunedol ac ymgysylltu WNO.

Daw’r soprano Eiry Priceo Bencaenewydd yng Ngwynedd, ac astudiodd yn y Royal College of Music yn Llundain a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Bu’n cydweithio’n flaenorol ag Opera Rara, gan berfformio yn La Princesse de Trébizonde gan Offenbach gyda’r London Philharmonic Orchestra ac Il proscritto gan Mercadante dan gyfarwyddyd Carlo Rizzi. Mae Eiry hefyd wedi ennill Gwobr Leisiol James Pantyfedwen, Ysgoloriaeth Park-Jones, ac Ysgoloriaeth Towyn Roberts yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae ymrwymiadau WNO Eiry sydd i ddod yn Nhymor 2024/2025 yn cynnwys ymddangosiadau fel y Cowntes Ceprano yn Rigoletto, Barbarina yn The Marriage of Figaro a’r Ail Nith yn Peter Grimes.

Hefyd o Ogledd Cymru mae’r soprano Erin Rossington, a ddaw o Lanfair Talhaiarn yng Nghonwy. Roedd Erin yn fyfyriwr israddedig yn y Royal Northern College of Music cyn astudio ar gyfer ei gradd ôl-raddedig a chwrs astudiaethau opera pellach yn y Guildhall School of Music & Drama. Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf yng Ngŵyl Aldeburgh fel Ina yn TIDE yn 2022 a pherfformiodd fel Lady Billows yn Albert Herring ar gyfer Clonter Opera. Mae Erin yn gystadleuydd cyson, ac mae ei llwyddiannau’n cynnwys gwobr Llais Rhyngwladol y Dyfodol Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac Ysgoloriaeth Towyn Roberts Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2023.

Y Tymor hwn, bydd Erin yn perfformio fel y Chwaer Gardod Gyntaf yn Il trittico ac fel yr unawdydd soprano yng nghyfres gyngherddau Ffefrynnau Opera yn y Ffilmiau WNO. Yn 2025, bydd Erin yn cymryd rhan y Cowntes Almaviva yn The Marriage of Figaro ac yn ymddangos fel unawdydd yng nghyngherddau teuluol Chwarae Opera YN FYW WNO.

Dros y ffin ac i’r de, magwyd y basydd William Stevens yn Keynham, Gwlad yr Haf, ac astudiodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda’r bariton clodwiw ac aelod presennol o fwrdd WNO, Donald Maxwell. Yn gyn-ysgolor corawl yn Eglwys Gadeiriol Bryste, mae ymrwymiadau diweddar William yn cynnwys ymddangosiadau yn Opera Caerdydd fel Don Basilio Il barbiere di Siviglia a’r Commendatore Don Giovanni (Hurn Court Opera).

Yn ystod Tymor 2024/2025 WNO, bydd William yn ymddangos fel Maestro Spinelloccio yn Gianni Schicchi (Il trittico)ac fel Figaro yn The Marriage of Figaro.

Hoffem groesawu’r tri Artist Cyswllt newydd i WNO a dymunwn y gorau iddynt ar eu perfformiadau gyda'r Cwmni yn y dyfodol.

Dysgwch ragor am raglen Artistiaid Cyswllt WNO ac artistiaid blaenorol yma.