Newyddion

Hanes WNO yn Birmingham

19 Hydref 2021

Mae gan gwmni Opera Cenedlaethol Cymru draddodiad hir o berfformio yn Lloegr, yn ychwanegol at ei famwlad, ac ers amser maith mae Birmingham wedi cael ei ystyried yn gartref y Cwmni yn Lloegr. Gydag ystod eang o weithgaredd yn digwydd yn y ddinas ac o'i chwmpas, mae miloedd o bobl yn profi WNO trwy ein hoperâu, cyngherddau, gwaith addysg a chymunedol.

Mae’r ymweliad cyntaf yn dyddio’n ôl i 1968, a thymor o chwe opera yn Theatr Alexandra (yn lansio taith fawr gyntaf WNO yn Lloegr) gyda Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham yn cyfeilio. Fe wnaeth Bwrdd Croeso Cymru, ar ôl cydnabod yr effaith a wnaed yn Lloegr, roi ei wobr flynyddol i Opera Cenedlaethol Cymru am y sefydliad a wnaeth fwyaf yn ystod y flwyddyn i wella bri Cymru dramor. Fe wnaethom barhau i berfformio yn Theatr Alexandra tan 1971, gyda Sinffonia Cymru a Ffilharmonia Cymru yn chwarae i ni yn y ddwy flynedd olaf. Roedd ein hymweliad cyntaf â'r Hippodrome, lle rydym dal i berfformio heddiw, ym mis Tachwedd 1971 i berfformio The Magic Flute, Boris Godunov ac Aida a Lulu. Gan ddechrau gydag ymweliadau blynyddol, fe wnaethom gynyddu’n raddol i bedwar tymor y flwyddyn erbyn diwedd y 1970au. Yn ystod y cyfnod hwn roedd gan WNO aelod o staff yn gweithio yn y Hippodrome, yn trefnu gweithgareddau ategol. Yn fwy diweddar, rydym wedi mynd â Thymhorau'r Gwanwyn a'r Hydref i'r Hippodrome, gydag ymweliadau Haf achlysurol, a digwyddiadau ychwanegol yn digwydd mewn mannau eraill ledled y rhanbarth.

Unwaith eto, mae gan WNO aelod o staff, o'n tîm Prosiectau ac Ymgysylltu, sydd wedi'i leoli yn y ddinas yn cydlynu nifer o brosiectau cymunedol. Yn 2018 fe wnaethom sefydlu grŵp Opera Ieuenctid ar gyfer plant 8 - 14 oed sy’n cyfarfod yn wythnosol yn y Lighthouse Young People’s Centre; mae yna hefyd waith parhaus gyda'r gymuned ffoaduriaid a chyngerdd newydd ei greu ar gyfer pobl ifanc ag anawsterau dysgu dwys a lluosog sydd i fod i gael ei ehangu i fwy o ysgolion yn ystod y misoedd nesaf. Mae cynulleidfaoedd iau hefyd wedi mwynhau ein Cyngherddau i’r Teulu yn Neuadd y Dref Birmingham.

Yn ogystal, mae Cerddorfa WNO wedi datblygu perthynas barhaus â Chonservatoire Birmingham, gan weithredu prosiectau ochr yn ochr lle gall myfyrwyr ymuno ag aelodau’r Gerddorfa yn y pwll mewn rhai perfformiadau i chwarae ochr yn ochr â cherddorion WNO ynghyd â chael mentora a chyfleoedd eraill yn ystod eu hyfforddiant.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi ehangu ein perfformiadau opera ar raddfa ganolig i leoliadau eraill - gyda Rhondda Rips It Up! Don Pasquale yn chwarae i gynulleidfaoedd llawn yn mac (Midlands Arts Centre) ac roeddem i fod i berfformio cynhyrchiad newydd o Così fan tutte yn y Birmingham Repertory Theatre, cyn i ni orfod canslo’r daith oherwydd y pandemig yn 2020.

Mae ein Tymor yr Hydref 2021 yn cynnwys The Barber of Seville a oedd yn un o'r teitlau a berfformiwyd fel rhan o'r daith gyntaf i Birmingham yn 1968, gyda dau berfformiad yn rhan o'r Tymor hwnnw. Edrychwn ymlaen at weld cenhedlaeth gwbl newydd o gynulleidfaoedd yng Nghanolbarth Lloegr yn mwynhau Figaro a’i anturiaethau.