Opera Ieuenctid Rhanbarthol

Mae Opera Ieuenctid WNO yn llawer mwy na dim ond grŵp canu, gan fod cyfranogwyr yn cael y cyfle i ddatblygu, nid yn unig eu gallu lleisiol, ond hefyd eu sgiliau perfformio, symudiad a drama drwy adrodd straeon a datblygiad cymeriad.

Mae pob grŵp yn gweithio gyda animateurs a repetiteurs WNO ar amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys opera glasurol a chyfoes yn ogystal â gwaith a gomisiynwyd yn arbennig, sy'n cael eu perfformio mewn theatrau a chanolfannau celf. Nid yw profiad blaenorol yn angenrheidiol, dim ond brwdfrydedd, ymroddiad ac egni.

Mae cefnogaeth fwrsariaeth ar gael.



The performance, by WNO Youth Opera conducted with intense commitment by WNO’s music director Tomáš Hanus and wittily staged by David Pountney and designer Bethany Seddon, was beyond praise. Watching and hearing children sing and act in this way is one of life’s great pleasures

The Arts Desk


Cefnogir Opera Ieuenctid WNO gan The Seligman Gift, Bateman Family Charitable Trust, The Kirby Laing Foundation, Gibbs Charitable Trust, Andrew Fletcher, Paul & Marie Carson, Partneriaid WNO, The Siôn Mullane Foundation a Unity Theatre Trust.