Opera Ieuenctid Cwmni Ifanc

Mae Opera Ieuenctid WNO yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a pherfformio i gantorion ifanc o safon eithriadol, sy’n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau perfformio mewn cwmni opera proffesiynol. Dros y degawd diwethaf mae Opera Ieuenctid WNO wedi datblygu enw da fel ensemble theatr eithriadol ac wedi cael adolygiadau 5* gan y wasg genedlaethol, enwebiad ar gyfer Gwobr Sky Arts South Bank ac wedi ennill Gwobr RPS fawreddog.

Ymhlith yr aelodau blaenorol sy’n gweithio ym maes Opera a Theatr Gerdd ar hyn o bryd mae Natalya Romaniw, Samantha Price a David Thaxton. Nid yw hyfforddiant Conservatoire yn hanfodol, cynigir lleoedd yn seiliedig ar glyweliad a chyfweliad. Bydd y grŵp hwn yn caniatáu ichi ddatblygu eich sgiliau mewn cwmni proffesiynol, gan weithio gydag artistiaid perfformio rhyngwladol blaenllaw, Cerddorfa WNO, cyfarwyddwyr, dylunwyr, rheolwyr llwyfan a thechnegwyr.



WNO Youth Opera bring the heat of protest to every inch of the hall in a vivid, stirring tribute to the late composer. The legacy of the late Peter Maxwell Davies, who died four months ago, could not have been better honoured in this brilliant production of his penultimate opera, Kommilitonen! by WNO Youth Opera. At once inspiring and appalling, and with an immediacy that was sometimes as brutal as the tyranny being portrayed, here was documentary opera at its most compelling

The Guardian

Paul Bunyan, Benjamin Britten


Cefnogir gan 

Bartneriaid WNO
Gibbs Charitable Trust
Paul & Marie Carson
The Seligman Gift
Unity Theatre Trust