Drwy gydol 2023, bu Opera Cenedlaethol Cymru yn ddigon ffodus i gyflwyno uchafbwyntiau gwych ichi – o glasuron cyfareddol i gynyrchiadau newydd cyffrous, yn ogystal â gwaith pwysig yn y gymuned. Edrychwn yn ôl ar y flwyddyn a fu wrth i ni baratoi ar gyfer blwyddyn newydd a fydd yn llawn cerddoriaeth, drama ac opera.
Dechreuodd ein blwyddyn gydag opera newydd sbon, sef Blaze of Glory! – hanes calonogol cymuned lofaol ddewr yng Nghymru a ddaeth ynghyd i ffurfio Côr Meibion yn wyneb adfyd. Ochr yn ochr â thaith ein dynion mewn siacedi, cafwyd cynhyrchiad newydd, ffres o The Magic Flute gan Mozart, gyda Daisy Evans yn gyfrifol am ei gyfieithu a’i gynhyrchu. Cafodd yr antur gyffrous sydd wrth galon a chraidd yr opera boblogaidd hon ei hadrodd mewn lleoliad dyfodolaidd, a daethpwyd â Theyrnas yr Haul yn fyw trwy ddefnyddio goleuadau a phypedau anhygoel.
Yn yr Haf, llwyddodd Candide gan Bernstein i ryfeddu cynulleidfaoedd. Mae stori ffantastig Voltaire yn sôn am daith Candide ar draws y byd, a llwyddwyd i ddod â’r stori’n fyw trwy ddefnyddio animeiddiadau anhygoel. Gan ymuno â’r cast ar y llwyfan, moriodd Cerddorfa WNO trwy opereta Bernstein dan arweiniad Karen Kamensek wrth i WNO gyflwyno profiad unigryw a bythgofiadwy.
Ym mis Mai eleni, ymunodd Cerddorfa WNO â Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, yn y Weriniaeth Tsiec i agor Gŵyl Ryngwladol y Gwanwyn ym Mhrag. Gan berfformio cerdd symffonig Smetana, Má Vlast, ym mhrifddinas y wlad, parhaodd Cerddorfa WNO â’i thraddodiad o berfformio cerddoriaeth gan gyfansoddwyr o’r Weriniaeth Tsiec. Ym mis Ionawr 2024, bydd Cerddorfa WNO yn teithio o amgylch Cymru a Lloegr dan arweiniad David Adams er mwyn perfformio waltsiau a pholcas godidog i gynulleidfaoedd ledled y wlad mewn Dathliad Fiennaidd.
Yn yr Hydref, croesawyd opera Sbaenaidd i lwyfan WNO am y tro cyntaf pan gyflwynwyd Ainadamar i gynulleidfaoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae’r stori un act yn adrodd hanes Federico García Lorca a Margarita Xirgu, a llwyddwyd i swyno cynulleidfaoedd ar hyd a lled y wlad wrth i fflamenco sgubo trwy WNO. Ochr yn ochr ag Ainadamar, llwyddodd ein cynhyrchiad uchel ei fri o La traviata gan Verdi i dorri calonnau mewn stori glasurol yn llawn cariad, angerdd a cholled.
Oddi ar y llwyfan, mae ein prosiect Lles gyda WNO wedi parhau i helpu pobl sy’n byw gyda COVID hir; a chyda cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy gyfrwng Cronfa Celfyddydau, Iechyd a Llesiant y Loteri, llwyddwyd i ymestyn y prosiect i ychwaneg o Fyrddau Iechyd GIG Cymru drwy gydol 2023.
Daeth ein prosiect Tair Llythyren i ben ar Ddiwrnod AIDS y Byd, wrth i Gerddorfa WNO a’r soprano Camilla Roberts berfformio La mamma morta gyda Nathaniel J Hall. Roedd y perfformiad yn cynnwys testun llafar newydd a ysgrifennwyd gan Andrew Loretto, gan fynd ati i gofnodi datblygiadau mewn triniaethau HIV a’r realiti o ran byw gyda’r feirws.
Ddydd Mawrth 28 Tachwedd, cymerodd Opera Cenedlaethol Cymru ran yn y Dydd Mawrth Rhoi. Diolch i’ch help chi, llwyddwyd i godi mwy na £2,000 – bydd yr arian hwn yn ein galluogi i barhau i weithio mewn cymunedau, yn cynnwys prosiectau fel Lles gyda WNO, Noddfa WNO ac Ysbrydoli WNO.
Wrth i 2024 ddechrau, beth am wneud adduned blwyddyn newydd i gefnogi WNO? Mae’n ymddangos y bydd 2024 yn flwyddyn yn llawn o bethau newydd a gaiff eu gwneud am y tro cyntaf – yn ystod Tymor y Gwanwyn, byddwn yn cyflwyno’r perfformiad cyntaf erioed yng Nghymru o Death in Venice gan Britten; byddwn yn perfformio cynhyrchiad newydd o Così fan tutte gan Mozart, a leolir mewn ysgol; ac yn yr Haf, byddwn yn perfformio’r triptych Il trittico yn ei gyfanrwydd am y tro cyntaf yn hanes WNO. Beth am gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr er mwyn bod ymhlith y rhai cyntaf i glywed am ddigwyddiadau a pherfformiadau sydd i ddod.