Newyddion

2020: Adolygiad Blwyddyn

2 Chwefror 2021

Bydd dwy fil ac ugain yn cael ei chofio am byth fel y flwyddyn pan oedd y byd yn llonydd, a phan roddwyd pob cynllun gwych o’r neilltu. Caeodd theatrau eu drysau, symudodd ysgolion a phrifysgolion arlein, gwnaethom gadw draw oddi wrth deulu a ffrindiau a gwnaethom fyw mewn cwarantin. Fodd bynnag, ymysg y tywyllwch a’n hamgylchynodd ni, gweithiodd Opera Cenedlaethol Cymru yn ddiflino i ddarparu darnau bach o oleuni a gobaith drwy raglen amrywiol o fentrau digidol, gan gadw ein cerddoriaeth yn fyw.

Arddangosodd ein Takeovers Instagram Cwrdd â WNO y bobl sy’n greiddiol i’r Cwmni, o aelodau o’r Corws a’r Gerddorfa, staff gweinyddol a chwpwrdd dillad i’n tri Artist Cyswllt newydd - Isabelle Peters, Adam Gilbert ac Aaron O’Hare.

Efallai nad ydym wedi cyflawni ein hamcanion gwreiddiol yn 2020, ond gwnaethom lwyddo i gadw’r gerddoriaeth yn fyw. Daethom â phob cangen o Opera Ieuenctid WNO at ei gilydd am y tro cyntaf erioed, yn rhithiol. Gwnaethom hefyd uno 60 aelod o Gorws Cymunedol WNO gyda Chôr Renewal Bryste ac ymunodd y seren Hollywood Luke Evans â’n dathliadau Pride Cymru. Archwiliwch a mwynhewch ein catalog o berfformiadau digidol.

Pan gododd y cyfle, gwnaethom ffilmio (gan ddilyn cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol) fersiwn ddigidol dwys o La voix humaine Poulenc, darn sy’n adlewyrchu rhai o’r teimladau y mae nifer ohonom wedi eu profi yn ystod y flwyddyn. Yn cynnwys Claire Booth, mae’r ffilm ar gael i’w gwylio yn rhad ac am ddim tan 26 Ebrill 2021. Dychwelodd ein cynhyrchiad 5 seren o Le Vin herbe gan Frank Martin i OperaVision am chwe mis, gan ddarparu cyfle arall i fwynhau dehongliad syml Polly Graham.

Gwnaethom ymchwilio ymhellach i fyd opera gyda phodlediad newydd. Gyda gwesteion yn amrywio o gerddorion clodwiw i ffigyrau amlwg o fewn y celfyddydau, diwylliant a thu hwnt, mae The O Word (cyfrwng Saesneg) a Cipolwg (cyfrwng Cymraeg) yn ceisio datrys rhai o bynciau llosg byd opera. Gellir mwynhau pob pennod yn rhad ac am ddim.

Mewn ymgais i gefnogi plant, rhieni ac athrawon wrth ddysgu gartref, gwnaethom greu Chwarae Opera, sioe deuluol ryngweithiol sy’n cyflwyno plant i fyd hudol opera - dysgu am y storïau, y gerddoriaeth a'r cyfansoddwyr, gan gwrdd â rhai o’n cerddorion talentog ar y daith. Gwnaethom hefyd greu taflenni gweithgareddau rhad ac am ddim a chyfres o fideos cynhesu ar gyfer y perfformwyr ac artistiaid ifanc yn eich cartrefi.

Cymerasom y cyfrifoldeb nid yn unig i addysgu ond i gael ein haddysgu hefyd. Datgelodd y pandemig yr anghydraddoldebau a’r anghyfiawnderau yn ein cymdeithas yn fwy amlwg nag erioed o’r blaen. Daethom ag artistiaid a syniadau at ei gilydd i ddathlu rôl celf wrth ail-ddychmygu dyfodol o newid cymdeithasol parhaol. Archwiliwch Creu Newid ac ymunwch â ni ar ein taith i wneud gwahaniaeth.

Efallai bod Covid wedi distewi ein llwyfannau ond roeddem yn dal i allu gwneud rhywfaint o sŵn, gan lenwi eich cartrefi gyda cherddoriaeth. Fodd bynnag, edrychwn ymlaen at eich croesawu oll yn ôl i’n lleoliadau amrywiol pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, o Gaerdydd i Birmingham, Llandudno i Southampton a Plymouth - dyma obeithio y byddwn oll yn cael ein haduno yn fuan.