Mae'r tywydd ar droi, mae silffoedd yr archfarchnadoedd yn llawn selsig mewn bacwn a mins peis, ac mae llais Mariah Carey i’w glywed ym mhob man...
Mae'r Nadolig ar y gorwel, ac oni bai eich bod yn berson hynod drefnus, mae’n siŵr eich bod yn llawn panig wrth geisio meddwl am amser i fynd i’r dref i chwilio am yr anrhegion perffaith neu’n poeni nad yw’r anrheg ddelfrydol yn cyrraedd mewn pryd os ydych yn ei archebu nawr. Mae Opera Cenedlaethol Cymru yma i helpu i leddfu’r poen o siopa am anrhegion Nadolig funud olaf gyda'n syniadau anrhegion ar gyfer pobl sydd wrth eu bodd ag opera a cherddoriaeth glasurol, a phobl rydych yn awyddus i’w cyflwyno i’n celfyddyd.
Gyda dau berfformiad syfrdanol yn ystod Tymor Gwanwyn 2024, beth am brynu tocyn i’ch anwylyd fwynhau noson yn yr opera? Mae Death in Venice atmosfferig a hyfryd Britten yn adrodd hanes yr awdur o fri, Gustav von Aschenbach, wrth iddo deithio i Fenis, lle mae’n datblygu obsesiwn gydag ieuenctid a harddwch, ac yn ymbellhau’n gynyddol oddi wrth y byd go iawn. Os byddai’n well gennych chi roi rhywbeth ychydig yn ysgafnach, tocyn i wylio’r comedi Così fan tutte gan Mozart yw'r anrheg ddelfrydol. Mae pedwar disgybl chweched dosbarth yn dysgu gwers am gariad, bywyd a rhyddid pan maent ynghlwm ag arbrawf cyfrinachol, ond digrif, i gyfeiliant cerddoriaeth fwyaf swynol Mozart.
Os oes ganddynt docynnau’n barod, beth am fynnu rhaglen ymlaen llaw ar eu cyfer? Efallai na fydd yn cyrraedd mewn pryd i’w rhoi yn yr hosan Nadolig, ond bydd yn gwneud anrheg annisgwyl hyfryd yn ystod y cyfnod cyn y perfformiad.
Ddim yn siŵr pa un o’n cynyrchiadau Gwanwyn fydd yr anrheg orau? Beth am chwaraeon saff gyda'n cyngerdd Ffefrynnau Opera? P’un a ydych yn frwd dros opera, neu’n chwilfrydig ac eisiau rhoi cynnig arni, mae rhywbeth at ddant pawb yn ein cyngerdd bythgofiadwy. Mwynhewch rai o’r darnau mwyaf adnabyddus o’r operâu mwyaf poblogaidd, gan gynnwys Carmen, The Marriage of Figaro a Rigoletto wrth inni fynd ar daith o gwmpas lleoliadau yng Nghymru a Lloegr yn ystod y gwanwyn.
Mae Dathliad Fiennaidd yn ffordd wych o guro’r felan ar ôl y Nadolig a chroesawu’r Flwyddyn Newydd mewn steil glasurol. Drwy gydol mis Ionawr, bydd Cerddorfa WNO yn mynd â’i chyngerdd Blwyddyn Newydd ar daith ledled Cymru a Lloegr er mwyn diddanu cynulleidfaoedd gyda rhai o’r enghreifftiau gorau o gerddoriaeth Fiennaidd. Dan arweiniad yr Arweinydd a’r Cyngerddfeistr, David Adams, a gyda chwmni Artistiaid Cyswllt diweddaraf WNO, y soprano Emily Christina Loftus a’r mezzo-soprano Beca Davies, dyma noson i blesio unrhyw un sy’n hoff o gerddoriaeth glasurol.
Mae aelodaeth Cyfeillion WNO yn anrheg Nadolig unigryw ar gyfer unrhyw un sy’n hoff o opera. Bydd Cyfeillion WNO yn cael gwerth blwyddyn o fuddion, gan gynnwys blaenoriaeth wrth brynu tocynnau a mynediad at wylio ymarferion gwisgoedd. Byddant hefyd yn cael ein e-gylchlythyr rheolaidd i gefnogwyr, sy’n edrych ar waith WNO yn fanylach.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn elusen, ac rydym yn dibynnu ar roddion caredig gan ein noddwyr i barhau i ffynnu. Os oes rhywun yn eich bywyd sydd mor frwd dros y celfyddydau â ni, ystyriwch wneud rhodd ar eu rhan fel anrheg iddynt. Rydym bob amser yn hynod o ddiolchgar am unrhyw gefnogaeth.
Gobeithio ein bod wedi eich ysbrydoli i roi opera fel rhodd y Nadolig hwn.