Newyddion

Diwrnod ym mywyd Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol

24 Mehefin 2019

Ar ôl graddio o'r Royal Holloway , University of London, aeth Amy Batty ymlaen i gwblhau hyfforddiant mewn Rheolaeth Llwyfan Proffesiynol yn yr Old Vic Theatre School, Bryste. Cafodd brofi mawredd y byd operatig am y tro cyntaf ym Medi 2017 ar ôl ymuno gydag Opera Cenedlaethol Cymru fel Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol (Prop SM) ar gyfer From the House of the Dead gan Janáček. Pedwar tymor yn ddiweddarach mae hi wedi ymgartrefu'n llwyr yn y byd opera. Cawsom sgwrs gyda hi i drafod popeth yn ymwneud â Don Pasquale, a sut beth yw diwrnod arferol i'r criw llwyfan wrth deithio gyda WNO.


'I mi, mae'r byd propiau yn gwbl hudolus. Erbyn heddiw rwyf wedi symud cerfddelwau noeth o gwmpas y lle (Don Giovanni), wedi arlwyo ar gyfer parti mawreddog (La traviata) ac wedi mynychu dawns fygydau gyda sgerbydau (Un ballo in maschera). Rwyf hyd yn oed wedi cael gornest gleddyfau ar lwyfan mewn gwisg môr-leidr (Cyngerdd Ysgol WNO).

Yn ystod yr haf rwy'n gweithio ar ddehongliad y cyfarwyddwr, Daisy Evans o Don Pasquale gan Donizetti - addasiad newydd a chyffrous o'r clasur poblogaidd. Os nad ydych wedi gweld opera o'r blaen, hon yw'r sioe i chi; byddwch yn chwerthin o'r cychwyn hyd at y diwedd, ac efallai y bydd chwant bwyd arnoch ar ôl y perfformiad. Mae'r sioe yn llawn cymeriadau lliwgar, hiwmor, dawnsio, cerddoriaeth ac wrth gwrs, bwyd! Dim ond 2 awr o hyd yw'r sioe hon, gan gynnwys egwyl. Felly, bydd digon o amser i chi weld y sioe a galw heibio'r siop sglodion ar y ffordd adref.'

'Fy mhrif ddyletswydd yn y sioe hon ydi arsylwi triniaeth, gofal a gosodiadau'r holl propiau - o boteli saws i'r biniau ailgylchu; kebabs shish i'r ysbodolau. Mae ansawdd yr offer rwy'n cael defnyddio mewn sioeau yn arbennig. Mae hyn wedi ei brofi gan y nifer o propiau sydd wedi’u casglu gan lanhawyr yn y lleoliadau rydym wedi ymweld â nhw yn ystod y daith hon.

Mae'r diwrnod yn cychwyn ar ôl cyrraedd y lleoliad. Rydym yn dadlwytho llawr y sioe gyntaf; ar ôl gwneud hyn gallwn gychwyn rigio'r goleuadau. Yna, mae'r set yn cael ei osod ac mae'r adeiladu yn cychwyn ac mae'r offer a'r gwisgoedd yn dilyn hyn. Gan fod cymaint o offer yng nghefn y fan rwy'n dueddol o osod popeth gyda'i gilydd er mwyn hwyluso'r broses o gario popeth i'w lle. Mae'r awyrgylch yn wych pan mae pawb yn gweithio ar eu tasgau gwahanol ar yr un pryd am eich bod chi'n gweld popeth yn dod at ei gilydd.

Yn ystod y prynhawn, byddwn yn cynnal sesiwn oleuo sydd yn golygu bod rhai propiau angen bod yn y lle cywir neu "show position". Mae'n rhaid gosod popeth yn eu lle gan ddilyn proses cam wrth gam drwy gydol y dydd. Ar ôl darfod y sesiwn oleuo, bydd y cantorion yn cael cyfle i ymarfer rhai caneuon ac ar brydiau bydd rhaid i mi symud propiau oherwydd hyn. Rhan bwysig o'r diwrnod i unrhyw Reolwr Offer Llwyfan yw gwirio gosodiad y propiau, neu "shout check". Ar ôl cael pryd o fwyd, bydd y rheolwr llwyfan a minnau yn cerdded o gwmpas y llwyfan, a thu cefn i'r llwyfan i restru pob prop sydd gennym yn y sioe, a sicrhau nad ydym wedi anghofio unrhyw beth.' 

Fy hoff ran o'r sioe yw'r egwyl. Mae gennym 20 munud i newid esthetig y fan. Mae'r criw cyfan yn gweithio fel un i wneud hyn ac mewn rhai lleoliadau mae'r gynulleidfa yn cael gweld y trawsnewid. 

Wrth i'r llenni gau, rwy'n mynd i gasglu fy mocs mawr gwag o lori WNO, yn barod i gadw popeth unwaith eto. Fy nyletswydd gyntaf yw gwagio'r fan kebab, yna bydd y criw a'r criw trydan yn gallu mynd iddi yn ddidrafferth. Mae'r tîm yn gweithio'n galed i gadw popeth a'u gosod yn ôl yn y lori. Yna mae'n rhaid ffarwelio ac edrych ymlaen at y lleoliad nesaf. Mae pob diwrnod yn ddiwrnod boddhaol ar daith.

Rwy'n mwynhau gweithio gyda WNO, ac rwy'n hapus i ddychwelyd i'r Cwmni y tymor nesaf fel Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol ar gyfer cynhyrchiad Jo Davies o Carmen. Rwy'n edrych ymlaen at gael gweld y propiau yn barod...'