Newyddion

Canllaw i Les vêpres siciliennes

7 Ionawr 2020

Cafodd Les vêpres siciliennes, opera gan Verdi nad yw'n cael ei pherfformio'n aml, a rhan olaf Trioleg diweddar Opera Cenedlaethol Cymru, ei hysgrifennu yn 1854/5 yng nghanol ei yrfa, ar ôl y trio hynod boblogaidd, Rigoletto, Il trovatore a La traviata. Yn opera mewn pum act, yn wreiddiol roedd yn cynnwys hanner awr o ballet, agwedd draddodiadol ar opera fawreddog o Baris. Cafodd ei hysgrifennu yn Ffrangeg, ar gyfer Paris Opéra yn null grand opéra.

Mae ein cynhyrchiad yn cynnwys Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, cyd-gwmni preswyl Canolfan Mileniwm Cymru, y mae ei ddawnswyr yn ymddangos trwy gydol yr opera, fel adlais o gydran ballet grand opéra. Mae'r tair ffrâm bleth enfawr sydd wedi ymddangos yn setiau La forza del destino ac Un ballo in maschera - y Peiriant Verdi - yn wag yn hwn, y trydydd cynhyrchiad. Mae'r cwbl yn ymwneud â'r delweddau a welir drwy'r fframiau, y ‘tableau vivant’ (hynny yw, lluniau byw). Fel eglura'r dylunydd Raimund Bauer: ‘we really change the Verdi Machine for each opera. The skeleton is the same and the structure is similar but the look changes for each opera. … the space is always defined by the Verdi Machine. There is always direction and a dynamic structure, so the machine is moving all the time.' [behindthearras.com]

Yn seiliedig ar libreto sy'n bodoli eisoes gan Eugène Scribe (gyda Charles Duveyrier), Le duc d’Albe, yr oedd Halévy a Donizetti wedi'i wrthod yn wreiddiol, cafodd y libreto ei ddiwygio braidd ar gyfer Verdi, ond serch hynny, mae'n methu â bod yn adroddiad hanesyddol o Osberau Sisilaidd 1282. Gwrthryfel i wthio'r Ffrancwyr allan o Sisili a ddaeth i ben mewn cyflafan ar ganu clychau'r eglwys, y gosberau yn y teitl. Er bod enwau ffeithiol penodol yn ymddangos yn yr opera, gwneir hynny o ran enw yn unig, nid mewn cymeriad - yn y bôn, roedd Scribe wedi troi ei Iseldiriaid yn Sisiliaid a'r Sbaenwyr yn Ffrancwyr.

Er enghraifft, roedd Jean Procida, fel arweinydd y Sisiliaid gwrthryfelgar, yn unigolyn hanesyddol allweddol sydd hefyd yn chwarae rôl bwysig yn yr opera; er ei fod yn fwy awchus am waed ar y llwyfan nag mewn realiti. Ef sy'n annog y gwrthryfel, gan greu strategaethau gyda'r Dduges Hélène a Henri, gwladgarwr ifanc o Sisili, yn y frwydr am annibyniaeth i Sisili. Procida (gyda Hélène) sy'n cynllwynio llofruddiaeth comander y lluoedd Ffrengig sy'n meddiannu.

Yn rhan o stori'r opera, yn adlewyrchu'r tensiwn rhwng y ddwy genedl, mae'r gwrthdaro rhwng tad a mab. Mae Henri, sydd mewn cariad â Hélène, wedi'i fagu i gasáu y Llywodraethwr Ffrengig, Guy de Montfort. Er yn y drydedd act, datgela Montfort i Henri mai ef yw ei dad, gan ddechrau brwydr arall, y tro hwn o ran ei amser rhwng gwleidyddiaeth a theyrngarwch teulu. Rhaid i Henri benderfynu a yw'n mynd i rybuddio ei dad o'r cynllwyn yn ei erbyn neu ganiatáu i'r llofruddiaeth fynd rhagddi a dechrau'r chwyldro.

Mae'n debyg mai'r ddeuawd rhwng Henri a Montfort yn y drydedd act, ‘Quand ma bonté toujours nouvelle’, yw un o'r darnau o gerddoriaeth mwyaf adnabyddus yn Les vêpres siciliennes. Mae'n cynnwys un o alawon harddaf y byd opera - sydd hefyd wedi'i chynnwys yn yr agorawd - er ei bod yn datgelu mai Montfort yw tad Henri, gan iddo dreisio mam Henri.

Mae'r pum deuawd yn yr opera yn cynnwys Henri ac ystyrir nhw ymysg rhai o'r gorau gan Verdi. Yn ôl honiadau, dywedodd Berlioz bod 'meistrolaeth oruchaf, fawredd yn fwy nodedig na chreadigaethau blaenorol y cyfansoddwr' yn Les vêpres siciliennes. Mewn gwirionedd, mae'r gerddoriaeth, gyda'i hegni dramatig a phortreadau o gymeriadau, yn ogystal â chytganau bywiog ac ariâu hyfryd, yn gwneud yr opera anghyffredin hon yn un i gadw llygad arni.