Newyddion

A new year journey through music

26 Tachwedd 2019

Mae cyngerdd blwyddyn newydd hynod boblogaidd Opera Cenedlaethol Cymru yn ehangu ei repertoire ar gyfer 2020, gan fynd â chynulleidfaoedd ar daith ar draws Ewrop trwy gerddoriaeth. Bydd Taith i Fienna yn cael ei berfformio mewn saith lleoliad ym mis Ionawr.

Bydd Cerddorfa WNO dan gyfarwyddyd y Blaenwr a’r Cyngerddfeistr David Adams, wrth iddynt ddychwelyd i leoliadau ledled Cymru - o Abertawe i Dyddewi, Casnewydd i'r Drenewydd a Chaerdydd i Fangor. Rydym hefyd yn hynod falch o gael croesi Pont Hafren am y tro cyntaf gyda'r cyngerdd hwn, a chwarae yn yr hyfryd St George's ym Mryste.

Yn ogystal â'r waltsiau a pholcas Fiennaidd, oesol y byddwn yn eu cysylltu â'r cyngerdd hwn, bydd Cerddorfa WNO hefyd yn cyflwyno Hungarian Dance gan Brahms, Slavonic Dance gan Dvorak a cherddoriaeth gan Offenbach, Faure a Mozart. Bydd y cyngerdd yn dirwyn i ben gyda ffefrynnau clasurol gan Strauss, gan gynnwys y Magyar Polka a The Blue Danube.

Yn ymuno â'r Gerddorfa eleni, pleser gennym yw cael cwmni'r soprano, Mary Elizabeth Williams, sydd wedi dod yn un o ffefrynnau cynulleidfaoedd WNO yn dilyn ei pherfformiadau yn Un ballo in maschera, La forza del destino a Die Fledermaus. A hithau'n wreiddiol o Philadelphia, a bellach wedi'i lleoli yn yr Eidal, nid yw teithio ledled Ewrop yn beth dieithr i Mary Elizabeth ei hun, gyda pherfformiadau diweddar yn y Swistir, yr Eidal, Awstria a'r DU ac enwi rhai ohonynt yn unig.

Mae gan Gerddorfa WNO raglen gynhwysfawr o gyngherddau trwy gydol y flwyddyn, ac mae'r cyngherddau blwyddyn newydd Fiennaidd wedi bod yn ffefryn cadarn yn y blynyddoedd diwethaf, fel y gall yr aelodau hyn o'r gynulleidfa dystio:

Bu i mi fwynhau'r cyngerdd neithiwr, yn fawr iawn, iawn, ...daeth â dagrau i'm llygaid.

V Williams

Roedd y cyngerdd yn Abertawe neithiwr yn wych! Bu i ni fwynhau pob eitem ar y rhaglen.

Ann

Parhewch ag ysbryd y flwyddyn newydd ac ymunwch â ni yn un o'r cyngherddau hyn, sy'n cael eu cynnal o 3 - 14 Ionawr.