Newyddion

Y cyfan sydd ei angen arnoch yw cariad

14 Chwefror 2020

I ddyfynnu band eiconig, ‘All you need is love’, ac yn wir, mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi derbyn digonedd o gariad dros y 75 mlynedd diwethaf gan gynulleidfaoedd, adolygwyr, artistiaid, cefnogwyr, ond yn bwysicaf oll, ei staff. Heddiw, ar Ddiwrnod San Ffolant, rydym yn anfon ein cariad at bawb sydd wedi helpu i wneud WNO yr hyn y mae heddiw; o'r staff yn ein cartref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, i'r staff sydd yn ymuno â ni ar daith, o'r rheiny sy'n perfformio ar y llwyfan i'r rheiny sy'n adeiladu'r golygfeydd ac yn olaf, ond nid y lleiaf, ein cefnogwyr. 


Gydag enw da rhagorol ar y llwyfan gyngerdd ac operatig, mae Cerddorfa WNO wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ers bron i 50 mlynedd. Wrth y llyw, mae'r Cyfarwyddwr Corws a Cherddorfa, Peter Harrap, sydd ei hun wedi ymroi dros 25 mlynedd i'r Cwmni. Ynghyd â'r arweinydd ymroddedig, mae 20 cerddor yn ffurfio sylfaen gadarn y Gerddorfa, yn gwasanaethu am o leiaf 20 mlynedd yr un. Diolch Martin Kegelmann, Robert Tonkin, Susan Plessner, Peter Lilley, Ann Jones, Donald McNaught, Marilyn Shewring, Philip Heyman, Barry Friend, Stephen Lloyd, Louise Rabaiotti, Christopher Hodges, Alexandra Robinson, Arthur Davies, Mikeal Price, Mary Condliffe, Jonathan Burgess, Stephen Marsden, Angus West, Dean Wright, Martin McHale, Roger Cutts.


Nid yw unrhyw ddydd yr un fath yn WNO. Ers ymuno â'r Gerddorfa yn 1984, rwyf wedi cymryd rhan mewn prosiectau addysgiadol, cyngherddau, prosiectau ochr yn ochr, teithiau tramor a gwyliau. Mae hyn yn ogystal â'r amrywiaeth o repertoire operatig raddfa fawr. Mae gen i sawl uchafbwynt - gweithio gydag arweinwyr sy'n enwog drwy'r byd fel Pierre Boulez, perfformio yn Proms y BBC gyda Syr Bryn Terfel a heb anghofio Ring Cycle Wagner. Rwy'n hynod lwcus.

Mary Condliffe, Bas Dwbwl

Mae'r Cwmni'n annwyl i mi am sawl rheswm. Rydym yn cynhyrchu gwaith o'r radd flaenaf, mae'n daith gerddorol wefreiddiol bob tro, ond i mi, y bobl o fewn y Cwmni sy'n ei wneud yn lle arbennig i weithio. Diwrnod arloesol ar gyfer y Gerddorfa a'r Corws, a diwrnod na fyddaf yn ei anghofio tra byddaf fyw - perfformio Die Meistersinger Von Nurnberg gyda Lothar Koenigs. Roedd y Royal Albert Hall dan ei sang, roedd y perfformiad yn fyw ar y teledu, ac roedd yr awyrgylch yn anhygoel.

Dean Wright, Trwmped

O un ensemble perfformio i'r llall, cafodd Corws WNO ei osod yn ddiweddar ar restr y Daily Telegraph o 50 moment a ddiffiniodd y degawd. Dros y blynyddoedd, maent wedi mynychu dawnsfeydd mwgwd (Un ballo in maschera), wedi herwgipio merch y llywydd (Rigoletto) ac wedi brwydro rhyfeloedd (In Parenthesis; War and Peace), a rhyngddynt, mae ein perfformwyr sydd wedi gwasanaethu hiraf wedi bod gyda ni am gyfanswm o 120 blynedd. Diolch Rosie Hay, Sarah Pope, Michael Clifton-Thompson, Gareth Lloyd, Philip Lloyd-Evans a Jack O’Kelly.

O'r llwyfan i gefn y llwyfan. Yn gweithio'n ddi-baid tu ôl y llenni i wneud pob perfformiad yn llwyddiant - mae’r staff gweinyddol, cerddoriaeth, technegol a chyllid, a heb anghofio'r bobl sy'n gwneud i Gorws WNO edrych yn dda, yr adran wisgoedd. Ymysg ein haelodau triw o staff ar draws amrywiaeth o adrannau mae Jacquie Owen, Sharon Hunt, Caroline Chaney, Ian Douglas, Sara Evans, Sally Ann Bird, David Watkins, Valerie Watkins, Russell Moreton, Jan Michaelis, Liz Walker, Siân Price, Sue Crowle, Andy John, Ian Jones, Barbara Leith, Paul Woodfield, Julia Carson Sims, John Hayel, Constandinous Micallef, John Stewart, John Riemer, Chris Macauley, Robert Andrews, Marshala Hayel, Steve Harris, Dean Marshall a Siân McCabe. 


Rwy'n cofio gweld cynhyrchiad newydd (ar y pryd) WNO o Madam Butterfly. Roeddwn i'n 17 mlwydd oed. Nid oes unrhyw beth yn well na theatr fyw a cherddorfa fyw yn chwarae a chanu heb feicroffon. Ychydig o flynyddoedd wedyn, gwelais fod WNO yn hysbysebu am gynorthwyydd marchnata. Cyflwynais gais, ac mae'r gweddill yn hen hanes. 35 mlynedd wedyn, ac rwyf yn dal i fod yma, yn mwynhau (bron) pob eiliad. Mae'n emosiynol ac yn ddi-baid, ond mae'n werth chweil.  Am fraint yw cael gweithio gyferbyn â phobl rwyf yn eu parchu bob dydd.

Sara Evans, Pennaeth Digwyddiadau

Gan symud y tu allan i'n cartref, mae gennym weithwyr proffesiynol draw yng Ngwasanaethau Theatraidd Caerdydd, y Cwmni sy'n gyfrifol am greu ein golygfeydd gwirioneddol ragorol. Wedi ei ffurfio gan WNO yn ôl yn 1984, mae rhai o aelodau'r staff wedi bod gyda ni ar hyd y daith operatig ers y dechrau un. Byddem wedi bod ar goll heboch chi, Ian Siddall, Marilyn Stolz a Stephen Rees. 

Yn olaf, ond yn bendant, nid y lleiaf, lle byddem ni heddiw heb Cyfeillion a Phartneriaid WNO? Mae'r hyn a ddechreuodd fel tri grŵp annibynnol, bychan yn yr 1970au nawr wedi dod yn rym nad gwiw ei ddiystyru, yn codi arian ar gyfer y cwmni y mae gwir angen amdano. Heb eu cefnogaeth, ni fyddem yn medru llwyfannu ein catalog uchelgeisiol. Hyd yn hyn, mae Cyfeillion WNO wedi bod yn gyfrifol am godi dros £1 miliwn ar gyfer amrywiaeth o gynyrchiadau newydd, o Salome i Don Carlos, The Sacrifice, i, yn fwyaf diweddar, Carmen.


Mae fy nghyfraniad fy hun gydag WNO yn dod o achos fy mod o'r farn y mwyaf rydych yn ei roi i rywbeth, y mwyaf y cewch yn ôl. Dechreuais fel aelod o'r gynulleidfa, wedyn des yn Gyfaill WNO, ac roeddwn yn ffodus iawn o ddod yn Gadeirydd. Rwy'n gyn Aelod o Fwrdd WNO a nawr yn Bartner WNO. Mae fy uchafbwyntiau WNO yn cynnwys Jephtha, The Cunning Little Vixen, The Trojans a chynyrchiadau Peter Stein o Otello a Falstaff.

David Williams

O'r rheiny sydd wedi aeddfedu gyda'r Cwmni, i'r rheiny sydd wedi ymuno â ni'n ddiweddar, rydych chi oll wedi helpu i siapio WNO, ac am hynny, rydym yn diolch. Chi yw calon ac enaid Opera Cenedlaethol Cymru. 

Wrth edrych ymlaen, mae ein Tymor y Gwanwyn 2021 yn gweld dechrau ein 75ain blwyddyn, a sut well i ddathlu nag i lwyfannu cynhyrchiad newydd o Faust Gounod, un o'r operâu cyntaf i WNO ei berfformio ym mis Ebrill 1946 yn Theatr Tywysog Cymru, Caerdydd. Yn cynnwys Jung Soo Yun, sy'n perfformio yn Les vepres siciliennes ar hyn o bryd, bydd y cynhyrchiad dieflig o foethus hwn, sy'n cael ei gefnogi gan Gyfeillion WNO, yn eich cadw ar flaen eich sedd.