Newyddion

Tashwedd - Mwstashis gorau cerddoriaeth glasurol

12 Tachwedd 2021

Mae mis ‘Tashwedd’, tymor tyfu mwstashis yma eto, felly mae Opera Cenedlaethol Cymru yn bwrw golwg ar rai o’r mwstashis mwyaf cofiadwy ym myd opera a cherddoriaeth glasurol ddoe a heddiw.

O Edward Elgar i Karl Jenkins, rydyn ni’n adnabod sawl wyneb enwog ym myd cerddoriaeth glasurol yn ôl y blewiach unigryw ar eu hwynebau, a chyfansoddwr Adiemus, Karl Jenkins ydy brenin y mwstashis yng Nghymru. Mae’r cyfansoddwr, sy’n dod o Abertawe yn wreiddiol, wedi creu gweithiau eithriadol ar gyfer y gerddorfa a’r corws, gan gynnwys The Armed Man: A Mass for Peace, Cantata Memoria, a Lamentation. Mae Karl Jenkins yn adnabyddus fel un o gyfansoddwyr mwyaf dylanwadol Cymru sydd wedi creu gweithiau mewn amrywiaeth eang o genres, o gerddoriaeth jazz i gerddoriaeth roc a chlasurol, ac mae ei fwstash mor gofiadwy â’i gerddoriaeth!

Draw ar ochr arall y cyfandir yn yr Eidal y trigai’r cyfansoddwr operatig enwog, Giacomo Puccini a ysgrifennodd yr hyn a ystyrir yn un o’r operâu mwyaf poblogaidd erioed, Madam Butterfly. Roedd Puccini’n adnabyddus am ei fwstash godidog ac am ysmygu un sigâr ar ôl y llall, a arweiniodd yn y pen draw at ei farwolaeth ym 1924. Serch hynny, does dim modd gwadu bod gwaith Puccini, yn enwedig ym myd opera, yn wirioneddol eiconig gyda’i weithiau’n cynnwys La bohème a Tosca. Turandot oedd yr opera olaf iddo ei hysgrifennu cyn marw, ac er nad oedd wedi’i chwblhau, roedd yn cynnwys yr aria enwog Nessun Dorma.

Cyfansoddwr Eidalaidd arall a wisgai fwstash ysblennydd oedd Ruggero Leoncavallo. Wedi’i eni yn 1857, fe gyfansoddodd Pagliacci (Y Clowniaid) a berfformir yn aml fel rhan o raglen ddwbl gyda Cavalleria rusticana Mascagni.  Cafodd y ddwy opera yma eu perfformio yn nhymor cyntaf un Opera Cenedlaethol Cymru yn 1947. Mae’n dal i fod yn adnabyddus iawn heddiw am Pagliacci, a ystyrir yn un o’r gweithiau a berfformir fwyaf aml ymhlith repertoires operatig. Dathlodd WNO ein penblwydd yn 75 hefyd drwy recordio datganiad arbennig iawn o’r Easter Hymn o Cavalleria rusticana i goffáu ein hanes o’n gwreiddiau yn Llandaf, a pherfformiad cyntaf erioed WNO yn Theatr Tywysog Cymru.

Fe wnaeth y cyfansoddwr Eidalaidd cynnar enwog Monteverdi ysgrifennu gweithiau opera angerddol hefyd megis L’ofero (1607) a L’Arianna (1608) ac mae’n cael ei adnabod fel un a oedd ganrifoedd o flaen ei amser. Mae’n cael ei ystyried yn gyfansoddwr chwyldroadol, ac yn nodedig wrth i gerddoriaeth cyfnod cynnar y Dadeni drawsnewid i’r cyfnod Baróc, gyda’i ddefnydd amlwg o harmoni. Yn sicr, fe adawodd Monteverdi ei farc, nid yn unig gyda’i gyfansoddiadau, ond gyda mwstash hynod iawn hefyd.

Mae’r cyfansoddwr Tsiecaidd, Leoš Janáček yn un arall o’r cyfansoddwyr oedd â mwstashis cofiadwy yn ogystal â gweithiau cerddorol gwych. Fel cyfansoddwr o ddechrau’r 20fed ganrif, mae ei weithiau’n amrywio o’r corawl i’r operatig, gan gynnwys yr opera sy’n cael ei hystyried fel yr un orau a mwyaf dramatig ganddo, Jenůfa, a gyfansoddwyd tua 1896. Ymhlith ei weithiau eraill, mae The Cunning Little Vixen, From the House of the Dead a Sinfonietta, a’i weithiau mwyaf diweddar yw’r rhai enwocaf. Mae WNO yn dychwelyd y Tymor nesaf gyda chynhyrchiad o Jenůfa.