Newyddion

A Wyddech Chi...? The Marriage of Figaro

4 Gorffennaf 2024

Ym mis Chwefror eleni, bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn dod â chariad, chwerthin a materion cythryblus i chi wrth i ni adfywio ein cynhyrchiad hardd yn arddull y cyfnod o The Marriage of Figaro gan Mozart. Mae i fod i fod yr amser hapusaf ym mywydau Figaro a Susanna gan fod diwrnod eu priodas wedi cyrraedd, fodd bynnag, mae Iarll Almaviva eisiau'r briodferch iddo'i hun er ei fod eisoes wedi priodi. Mae hiwmor, ffraethineb a chamadnabyddiaeth wedi’u gosod yn erbyn alawon hardd sy’n denu ein cynulleidfaoedd yn ôl am fwy. Hyd yn oed os ydych chi’n un o’r nifer fawr o fynychwyr opera sy’n gyfarwydd â’r stori, efallai bod rhai pethau na wyddoch amdanynt am y clasur Mozart hwn…


Mae The Marriage of Figaro, sy’n cael ei hystyried yn eang fel un o’r operâu gorau i’w chyfansoddi erioed, yn un o dri chydweithrediad byd-enwog rhwng y cyfansoddwr Wolfgang Amadeus Mozart a’r Libretydd Lorenzo Da Ponte. Buont hefyd yn cydweithio ar Don Giovanni a Così fan tutte.  
  
Bu Da Ponte yn byw bywyd eithaf gwaradwyddus; cafodd ei alltudio o Fenis am 15 mlynedd am redeg puteindy a chafodd ei arestio am ddyled dim llai na 30 gwaith mewn tri mis, gan arwain at ffoi i Efrog Newydd. Yn y ddinas fawr honno, cychwynnodd gwmni opera a oedd yn rhagflaenydd Academi Gerddoriaeth Efrog Newydd a'r Metropolitan Opera.  
  
Mae The Marriage of Figaro yn seiliedig ar ddrama Ffrengig o'r enw La Folle Journée, ou Le Mariage de Figaro (Y Diwrnod Gwallgof, neu Briodas Figaro), a ysgrifennwyd gan Pierre-Augustin Caron de Beaumarchais ym 1778. Roedd y ddrama yn cael ei hystyried yn un ddadleuol yn ei chyfnod a chafodd ei hymddangosiad cyhoeddus cyntaf dim ond dwy flynedd cyn yr opera. Yn groes i’r gred boblogaidd, ni ysgrifennwyd unrhyw gerddoriaeth cyn cael caniatâd yr Ymerawdwr i droi’r ddrama Ffrengig danseiliol yn opera.


Mae The Marriage of Figaro yn rhannu cymeriadau â'i rhagflaenydd, The Barber of Seville; gyda’r fersiwn enwocaf gan Rossini, a ysgrifennwyd 30 mlynedd yn ddiweddarach. Mae gan y dilyniant, Figaro gets a Divorce¸ libreto a ysgrifennwyd gan gyn Gyfarwyddwr Artistig WNO, David Pountney, a cherddoriaeth gan Elena Langer; perfformiodd WNO y gwaith am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2016 yn ein lleoliad cartref, Canolfan Mileniwm Cymru.

Ar adeg ei berfformiad cyntaf yn Fienna ym 1786, roedd The Marriage of Figaro ond yn gymharol lwyddiannus. Er, erbyn y trydydd perfformiad roedd yr encorau bron â dyblu ei amser perfformio.

Wedi’i gyfansoddi dim ond pum mlynedd a hanner cyn ei farwolaeth annhymig, perfformiwyd The Marriage of Figaro am y tro cyntaf yn anterth gyrfa Mozart. Ystyrir y cyfnod rhwng Figaro a'i farwolaeth fel ei gyfnod hwyr neu aeddfed, pan gyfansoddodd rai o'i waith gorau, gan gynnwys Don Giovanni, Così fan tutte, The Magic Flute, a Symffonïau Rhif 40 a 41 (a adnabyddir fel Symffoni Iau).


 Fel gydag unrhyw opera gan Mozart, mae The Marriage of Figaro yn llawn cerddoriaeth adnabyddadwy, yn fwyaf nodedig yr Agorawd; fe’i defnyddiwyd yn ystod yr olygfa yn The King’s Speech ble mae King George VI (Colin Firth) yn adrodd ‘to be or not to be’ Hamlet heb siarad ag atal ac yn y ffilm gomedi glasurol o’r 80au Trading Places. Fe'i defnyddiwyd hefyd yn y Willy Wonka & the Chocolate Factory gwreiddiol, pan fydd Willy Wonka (Gene Wilder) yn chwarae rhan gyntaf yr agorawd i ddatgloi drysau enwog y ffatri siocledi.

I glywed yr Agorawd i chi’ch hun, ynghyd â darnau adnabyddus eraill fel aria Act Dau Cherubino Voi che sapete a deuawd agoriadol Figaro a Susanna Cinque... dieci... venti, yna ymunwch â ni y Gwanwyn hwn wrth i ni agor yng Nghaerdydd ac yna ymweld â lleoliadau ledled Cymru a Lloegr.