Newyddion

Tân gwyllt yn yr opera

5 Tachwedd 2019

Mae tanau'n cael eu cynnau, mae delwau'n cael eu llosgi ac mae'r awyr yn pefrio â thân gwyllt. Mae dydd Mawrth 5 Tachwedd yn fwy adnabyddus fel Noson Tân Gwyllt: y noson y mae'r genedl yn dod at ei gilydd i fwynhau noson hydrefol oer. Fodd bynnag, os nad ydych eisiau bod mewn perygl o ddal annwyd, mae yna opsiwn i fwynhau'r holl gyffro sy'n gysylltiedig â'r noson, dan do. Gall Opera wedi'i pherfformio'n fyw roi'r un cyffro â mynd i'ch arddangosfa tân gwyllt leol.

Mae'r cyfuniad o naratif dramatig, crefft llwyfan a cherddoriaeth, ac yn enwedig ystod a bregusrwydd y llais dynol, yn golygu mai opera yw'r ffurf gelfyddyd agosaf at fynegi emosiwn pur. Dyma adrodd storiâu ar ei fwyaf byw. I ddathlu Noson Tân Gwyllt, rydym yn edrych ar ein hoff olygfeydd dramatig mewn opera. 


CARMEN
Rhaid i ni ddechrau gyda Carmen Bizet. ‘Love is a rebellious bird that nobody can tame.’ Mae'r llinell agoriadol yn llawn drama. O'r gerddoriaeth swynol, y ddrama uchel sy'n cynnwys cyllyll, dau driongl serch a dwy ferch yn ymladd, mae'n opera sy'n angerddol ac yn ffrwydrol; mae'n hynod drawiadol. Yr unig beth sydd ar goll yw goleuadau llachar y tân gwyllt...neu ydyn nhw? I gofio'r diwrnod, rydym wedi creu chwip o ragflas ffrwydrol!


DON GIOVANNI
Yn cael ei ystyried fel un o’r eiliadau mwyaf dramatig mewn opera, mae ymddangosiad yr ysbryd dialgar yn uchafbwynt iasol yn Don Giovanni Mozart. Gyda chyfeiliant yr adran pres, mae'r ddrygionus Don Giovanni yn cael wltimatwm galarus. Mae cyfosodiad y cynnwys wedi gwneud Don Giovanni yn un o'r operâu mwyaf poblogaidd a ysgrifennwyd erioed. Trwy gymysgu comedi, trasiedi a drama gyda'r goruwchnaturiol, mae Mozart yn llwyddo i fod yn hynod ddramatig.


THE MAGIC FLUTE
Efallai ei bod yn un o'r operâu sy'n plesio'r dorf fwyaf, ond mae The Magic Flute Mozart yn cynnwys un o'r mynedfeydd mwyaf dramatig o bob opera. Mae’r aria fyd enwog ‘Der Hölle Rache’, a chyfeirir ato’n aml fel cyfwerth lleisiol ras 100 metr, yn gweld y llais dynol yn cael ei wthio i'r eithaf, gan ddringo i’r Everest o nodau uchel. Mae'r aria fygythiol fawreddog, yn darlunio pwl o gynddaredd dialgar lle mae Brenhines y Nos yn gosod cyllell yn llaw ei merch Pamina ac yn ei hannog i lofruddio Sarastro. ‘Hear, ye gods of vengeance!Hear a mother's vow!’


TOSCA
Wedi’i ddisgrifio gan feirniad yn y 1950au fel ‘shabby little shocker’, mae Tosca Puccini yn un o’r operâu mwyaf angheuol. Yn mynd i'r afael â themâu rhyw, pŵer, gwleidyddiaeth a chrefydd i effaith hynod ddramatig, mae'n cynnwys un o'r dihirod llwyfan gorau a grëwyd erioed, y Barwn Scarpia bygythiol. Gydag enghreifftiau o artaith gorfforol a seicolegol, nid oes yr un o'r cymeriadau canolog yn byw i weld diwedd yr opera.


BLUEBEARD’S CASTLE
Yn cael ei adnabod fel ‘chwe deg munud o ddwyster trasig’, mae Bluebeard’s Castle Bartok yn troi o amgylch y berthynas rhwng Bluebeard a’i wraig Judith sy’n ceisio datgloi cyfrinachau ei enaid.  Gallu Bartok i ymchwilio’n ddwfn i’w meddyliau a’u hemosiynau trwy gyfrwng y gerddorfa sy’n adeiladu dwyster dramatig y darn hwn. Mae'r diddordeb dramatig yn dibynnu, nid ar ddigwyddiadau dramatig fel y cyfryw, ond ar ryngweithio seicolegol ac emosiynol y ddau gymeriad. 


Ymunwch â ni yn ystod ein Tymor yr Hydref 2019  a Thymor y Gwanwyn 2020  ar gyfer Carmen, opera gyfareddol Bizet. Yn ystod Tymor yr Haf 2020, bydd Bluebeard's Castle Bartok yn dychwelyd i'r brif lwyfan mewn bil dwbl unigryw gyda The Nightingale Stravinsky.