
Mae hwyl yr ŵyl wedi dechrau... ac rydym yn gwybod bod dod o hyd i anrhegion arbennig i'ch anwyliaid yn her yn aml. Felly, rydym wedi creu’r canllaw rhoddion hwn ar gyfer pawb sy’n mwynhau ymgysylltu â’r Celfyddydau. Boed yn rhywun sy’n frwd dros opera, yn hoff o gerddoriaeth fyw neu’n mwynhau theatr o bob math yw eich derbynnydd, rydym yn hyderus y gallwn gynnig ychydig o hudoliaeth iddynt y tymor Nadolig hwn!
Tocynnau opera
Pa drît Nadolig gwell na thocyn i'r opera? Yn ystod Gwanwyn 2026, rydym yn llwyfannu dau gynhyrchiad llawn emosiwn na ddylid eu colli! Mae The Flying Dutchman Wagner yn berffaith ar gyfer unrhyw un sy’n mwynhau hen chwedlau, trionglau cariad ac unrhyw beth cyfriniol. Ar y llaw arall, bydd Blaze of Glory!, a gyfansoddwyd gan David Hackbridge Johnson gyda libretto gan Emma Jenkins yn addas i’r rheiny sy’n frwd dros gymuned, hanes Cymru a grym cerddoriaeth - os ydynt yn mwynhau ‘Brit Flicks’ fel Brassed Off neu Billy Elliot, byddant wrth eu boddau â hwn!

Rhaglenni
Os oes gan y person yr ydych yn prynu ar ei gyfer docynnau opera yn barod, mae rhaglen yn rhodd wych, yn enwedig os yw eich cyllideb yn dynn. Gallwch archebu ymlaen llaw am £6 yn unig drwy ein Siop ar-lein. Er na fydd yn barod erbyn y Nadolig, bydd yn gofrodd hyfryd i’w hagor yn y cyfnod cyn y sioe.
Tocynnau cyngerdd
Yn ystod y misoedd oerach, mae rhywbeth arbennig o hudolus am fynd i gyngerdd cerddoriaeth glasurol. Beth am roi’r cyfle i un o'ch anwyliaid ddathlu’r Flwyddyn Newydd mewn steil yn y cyngerdd Dathlu Blwyddyn Newydd gyda Cherddorfa WNO? Neu gallwch roi gwledd iddynt drwy gyngerdd Dydd San Ffolant cyfareddol gyda Christopher Ward a Justina Gringytė.

Rhodd i’r teulu cyfan
Mae ein sioe i deuluoedd, Chwarae Opera YN FYW Llongddrylliad!, yn llawn hwyl i bawb. Nid yn unig y byddwn yn cyflwyno perfformiad anturiaethus, ond byddwn hefyd yn cynnig gweithgareddau cyntedd gwych cyn y sioe, gan alluogi teuluoedd i fwynhau diwrnod allan llawn yn y theatr gyda’i gilydd. Dyma'r math o anrheg a fydd yn aros yn y cof!

Aelodaeth WNO
Ceisio prynu i rywun sy’n frwd dros opera? Nid oes angen mwy o chwilio... Gydag Aelodaeth WNO, gall eich anwylyd fwynhau triniaeth VIP, gyda mynediad i ymarferion gwisgoedd, archebion blaenoriaeth, e-gylchlythyrau rheolaidd a mwy. Mae hyn oll ar gael wrth ein cefnogi i barhau â’n gwaith hyfryd ar y llwyfan opera ac oddi arno – rhodd sydd wirioneddol yn rhoi ddwywaith.
Gobeithiwn ein bod wedi rhoi ychydig o syniadau o ran rhoddion i’r rheiny sy’n bwysig i chi. Nadolig Llawen gawn bawb yn Opera Cenedlaethol Cymru! Rydym yn edrych ymlaen yn arw at barhau i greu cerddoriaeth a theatr yn 2026.



