Newyddion

Harry Ogg and Tianyi Lu talk Carmen

22 Hydref 2019

Eisteddom i lawr gyda Harry Ogg, Arweinydd Cyswllt WNO a Tianyi Lu, Arweinydd Preswyl benywaidd cyntaf WNO. Mae'r ddau ar ddechrau eu gyrfa ac roeddem yn credu y byddai dod â'r ddau ynghyd i siarad â'i gilydd yn creu sgwrs ddifyr. Gwnaethant siarad am eu profiadau eu hunain, eu cefndir a'r heriau a wynebant fel arweinwyr ifanc. Gallwch ddarllen mwy o'u sgwrs yn argraffiad Hydref 2019 o'n Cylchgrawn 'O' drwy ddod yn Gyfaill neu'n Bartner WNO.


Tianyi Rwyf wedi bod yn meddwl llawer yn ddiweddar am yr heriau mwyaf sy'n wynebu'r proffesiwn hwn, nid yn unig gydag arweinwyr ifanc ond y diwydiant cerddoriaeth yn ei gyfanrwydd. Er y gall y rhyngrwyd ein galluogi i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, gall hefyd dynnu sylw oddi wrth ddyfnder cynnwys. Rwy'n credu bod yna awch gwirioneddol yn ein diwylliant am ddyfnder cysylltiad. Dyna pryd y mae arnom wir angen cerddoriaeth fyw. Pan rydych yn gwrando ar symffoni, rydych yn anwybyddu'r pethau o'ch cwmpas a gorfodir eich meddwl i gysylltu a chanolbwyntio. Gallai'r profiadau hynny fod yr allwedd i lawer o ddialog a dyfnder cyfathrebu sydd ar goll mewn llawer o sgyrsiau cymdeithasol, a gallai cerddoriaeth fod yn sianel ar gyfer hynny.

Harry Rwy'n credu fy mod yn gwybod beth ydych yn siarad amdano, beth am yng nghyd-destun opera? Mewn egwyddor, gweithiau celfyddydol haniaethol yw symffonïau, a'r unig adeg y byddant yn efelychu bywyd go iawn yw pan fo'r cyfansoddwr yn dewis gwneud hynny. Felly, mae'n ddiddorol pan rydych yn dod ag opera i mewn i'r darlun, gan ei bod yn efelychiad mwy uniongyrchol o fywyd go iawn a gyda'r theatr yna o'u blaenau, gallai fod yn rhywbeth y gall pobl gysylltu o ddifrif ag ef. Ac efallai y byddent, fel arall, yn ei chael hi'n anodd cysylltu â'r ffurfiau hyn ar gelfyddyd.

Tianyi Yn wir, a gall ddibynnu ar y cynhyrchiad hefyd. Rwy'n gweld y cynhyrchiad o Carmen yr ydym yn gweithio arno yn ddiddorol iawn gan fod y cyfarwyddwr wedi dewis rhywbeth sy'n teimlo'n real iawn. Nid yw'n gynhyrchiad traddodiadol, arddulliedig o Carmen, fel y mae nifer wedi bod yn y gorffennol.

Harry Mewn ffordd, mae melodïau anhygoel Carmen mor adnabyddadwy a chofiadwy. Rwy'n credu y gallant fod yn ffordd o dynnu sylw oddi wrth y rhinweddau craidd sydd gan y darn, sef realaeth a dyfnder y ffordd y caiff yr holl gymeriadau eu cyflwyno. Yn ogystal â chyflymder dramatig gwych yn yr un modd ag y byddech yn ei gael mewn unrhyw ffilm werth chweil.

Tianyi A ydych yn meddwl bod y melodïau yn tynnu sylw, neu a ydych yn credu bod hanes y ffordd yr ydym wedi eu defnyddio wedi dod i dynnu sylw?

Harry Yr hyn rwy'n ei feddwl yw, oherwydd ein bod yn eu hadnabod, mae ein clustiau yn glynu wrth y felodi honno, ac rydym yn rhoi'r gorau i edrych ar y llwyfan ac ymgysylltu â'r ddrama.

Tianyi Mae hynny'n sicr yn bosibilrwydd. Roeddwn i'n gweld astudio Carmen am y tro cyntaf yn ddiddorol iawn. Rwyf wedi ei chlywed, a'r amrywiadau lu arni, yn y gorffennol drwy brofiadau clywedol ond unwaith y dechreuais astudio'r sgôr, sylwais ar y melodïau hyn yr ydym yn credu ein bod yn eu hadnabod yn trawsnewid yn llwyr.

Harry Yn aml, pan fyddwch yn ei gweld ar y dudalen mae'n wahanol iawn ac mae'n trawsnewid y ffordd yr ydych yn ei dychmygu fel arweinydd neu berfformiwr. Mae'n rhoi'r cyfle hwn i chi fel arweinydd drawsnewid sut mae'r gynulleidfa yn clywed y darn hefyd.

Tianyi Yn bendant. Rwy'n teimlo'n gyffrous iawn i weld Tomáš Hanus yn cyflwyno'r perfformiad cyntaf, ond hefyd eich fersiynau chi a byddaf yn gwneud dau yn Lerpwl. Rwy'n credu bob tro mae yna arweinydd gwahanol, mae yna rywbeth gwahanol yn cael ei greu.

Harry Rwy'n credu mai dyna yw'r peth gwych am arwain - mae'n newid sain y gerddorfa.


Bydd Tianyi Lu a Harry Ogg yn arwain perfformiadau o Carmen yn ystod Gwanwyn 2020.

Harry Ogg, Arweinydd Cyswllt WNO mewn cydweithrediad â Chystadleuaeth Arwain Donatella Flick LSO