Newyddion

Lansio Creu Newid

7 Rhagfyr 2020

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn gythryblus mewn sawl ffordd, a bu llawer o fyfyrio mewnol ac allanol gan bobl a sefydliadau ar draws y byd – nid yw Opera Cenedlaethol Cymru yn eithriad.  Roeddem i fod i berfformio ein hopera newydd, Migrations am y tro cyntaf yn ystod ein Tymor yr Hydref ond, fel cynifer o bethau eleni, bu'n rhaid aildrefnu hynny. Fodd bynnag, roeddem yn teimlo ei bod yn dal yn bwysig, yn bwysicach mewn gwirionedd, i barhau i ehangu ein gwaith adrodd straeon i adlewyrchu bywydau a phrofiadau'r cymunedau amrywiol ledled y DU.

Gwnaethom gysylltu â'r pum awdur a oedd wedi dod at ei gilydd yn wreiddiol i weithio gyda'r Cyfansoddwr Will Todd ar MigrationsEdson Burton, Miles Chambers, Eric Ngalle Charles, Shreya Sen-Handley, a Sarah Woods - a gweithio gyda nhw i greu ffilmiau unigol yn edrych ar y Celfyddydau thynnu sylw at yr hyn y gall artistiaid ei wneud i ddylanwadu ar newid yn y dyfodol mewn cyfnod o argyfwng.

Mae pob awdur wedi cynnig eu safbwynt unigryw o'r pwnc, y maent yn ei gyflwyno eu hunain mewn cyfres o ffilmiau byrion, sy'n cynrychioli rhai o'r heriau sy'n wynebu pobl ledled y byd a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Cafodd y ffilmiau i gyd eu gwneud dan amodau Covid-ddiogel dros y misoedd diwethaf gan y gwneuthurwr ffilmiau Alex Metcalfe o amgylch cartrefi'r awduron.

Gall celf ddal drych i'r byd a helpu i newid canfyddiadau a gobeithiwn y bydd y gwaith hwn yn gwneud union hynny.