
Yn boeth o’r wasg. Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein Tymor 2025/2026. Mae’n addo bod yn gyfuniad gwefreiddiol o opera ryfeddol sy’n archwilio pob agwedd ar ddynoliaeth.
Yn cynnwys adfywiad y clasuron poblogaidd, a chynyrchiadau newydd sbon, mae gan ein Tymor newydd rywbeth at ddant pawb.
Mae ein Tymor 2025/2026 yn agor ym mis Medi eleni yng Nghaerdydd gydag opera ysgubol ddramatig Puccini, Tosca. Wedi’i gosod mewn dinas sy’n llawn gormes, mae tri bywyd wedi rhwymo gan angerdd, pŵer a thwyll. Mae cariad Tosca, sy’n cael ei chwarae gan y tenor o Uruguay Andrés Presno, yn celu ffoadur gwleidyddol rhag Pennaeth Heddlu didostur y ddinas, Scarpia, sydd â’i olwg ar ddau beth, y ffoadur a Tosca ei hun. Wrth i densiynau gynyddu, rhaid i Tosca, sy’n cael ei chwarae gan y soprano Wcrainaidd Cymreig enwog Natalya Romaniw, lywio labyrinth o flacmel a brad, yn wyneb y penderfyniad amhosibl rhwng cariad a goroesiad.
Yn ymuno â Tosca yn Nhymor yr Hydref mae Candide Bernstein. Paratowch eich hun ar gyfer taith syfrdanol lle mae Ffrainc y 18fed ganrif yn gwrthdaro ag America yr 20fed ganrif ar ôl y rhyfel. Mae cynhyrchiad clodwiw WNO yn cael ei lwyfannu gan dîm arobryn, sy’n dod â’r byd rhyfeddol, llawn dychymyg hwn yn fyw gyda cherddoriaeth fodern, animeiddiad, dawns a brathiad gwleidyddol.
Ochr yn ochr â’r cymysgedd gwych o Tosca a Candide, rydym yn cyflwyno cyngerdd newydd, A Night at the Opera. Mae Cerddorfa WNO a Chorws WNO yn dod ynghyd ar gyfer noson hudolus o rai o ffefrynnau mwyaf eiconig yr opera, o Puccini i Verdi, o Mozart i Wagner.
Wrth i ni symud tuag at Dymor y Gwanwyn 2026 a phen-blwydd WNO yn 80, mae’n bleser gennym ddychwelyd gyda Blaze of Glory!Wedi’i gosod mewn cymuned yn y Cymoedd yn y 1950au mae grŵp bach o lowyr Cymreig yn penderfynu diwygio eu Côr Meibion i godi ysbryd ar ôl trychineb lofaol ddinistriol. Mae Blaze of Glory! yn ddathliad gorfoleddus o Wlad y Gân ac yn deyrnged i sut y gall ysbryd cymunedol drechu adfyd. Yn atgyfodi eu rolau yn y cynhyrchiad pum seren hwn mae dau arweinydd Cymreig, y tenor clodwiw, Jeffrey Lloyd-Roberts a’r soprano nodedig Rebecca Evans.
Mewn cyferbyniad, mae’r Tymor yn parhau gyda chynhyrchiad newydd o The Flying Dutchman pwerus a brawychus Wagner. Mae llong ysbrydion yn crwydro’r môr diddiwedd gyda’i chapten, wedi’i melltithio i hwylio am dragwyddoldeb nes ei hachubiaeth gan wir gariad. Wedi’i ysbrydoli gan harddwch arfordir Cymru, mae’r ail-ddychmygiad gafaelgar hwn o The Flying Dutchman yn archwilio poen dwfn unigrwydd a gobaith bregus cysylltiad dynol. Mae cerddoriaeth Wagner, o’r agorawd daranllyd i’r ariâu brawychus, yn ganolog i’r stori, gan ddwyn i gof rym y cefnfor a’ch gadael ar chwâl. Bydd yr opera afaelgar hon yn cael ei harwain gan Gyfarwyddwr Cerdd clodwiw WNO, Tomáš Hanus, a bydd y cyfarwyddwr arobryn o Gymru, Jack Furness, yn ymuno yn ei ymddangosiad cyntaf fel cyfarwyddwr WNO.
Ni fyddai ein tymor 2025/2026 yn gyflawn heb sioe deulu hynod boblogaidd WNO, Chwarae Opera YN FYW. Eleni, mae ein capten môr-leidr dewr Tom Redmond a’i griw ffyddlon Cerddorfa WNO yn ddiymgeledd ar ynys anial. Bydd Shipwrecked! yn mynd â phlant ar daith stori dylwyth teg gyda threialon, trysor, cerddoriaeth gyffrous a chaneuon bywiog yn y cyflwyniad llawn hwyl hwn i opera.
Mae tocynnau ar gyfer ein Tymor 2025/2026 yn mynd ar werth ddydd Llun 3 Mawrth, neu gallwch hawlio eich un chi’n gynnar drwy ddod yn Aelod o’r WNO gyda blaenoriaeth ar gael o ddydd Gwener 21 Chwefror.