Newyddion

Ein rysáit am opera Eidalaidd dda

12 Gorffennaf 2018

Pam mae operâu Eidalaidd mor boblogaidd? Beth sy’n eu gwneud mor dda ac apelgar i gynulleidfaoedd ledled y byd? Dyma ein rysáit am opera Eidalaidd hyfryd, a dechreuwn gyda’r pethau sylfaenol. Pan feddyliwch am operâu mwyaf poblogaidd y byd, mwy na thebyg operâu Eidalaidd yw’r rheiny. Gyda sylfaen gref o iaith llawn mynegiant, haenau o straeon cyfoethog, ac yna cantorion o safon fyd-eang i goroni’r cyfan. Anodd fyddai peidio â gwirioni.

Dechreuodd opera yn yr Eidal ar ddiwedd y 16eg ganrif ac felly mae’r iaith wrth galon sawl opera. Mae Eidaleg yn cyd-fynd yn naturiol â’r gelfyddyd oherwydd ei sain gerddorol a’i thebygrwydd i gân wrth ei siarad.

Mae’r straeon hyfryd sydd wedi’u hanelu at ein calonnau, megis y rheiny yn Rigoletto, Madam Butterfly a Tosca, yn rhan annatod o’r operâu poblogaidd ac mae’r iaith yn cyd-fynd mor agos â’r gerddoriaeth nes bod eu cyfieithu’n gallu bod yn destun dadl.

Yn ogystal â’r straeon sy’n parhau i gael effaith ar ddiwylliant poblogaidd heddiw, mae gan yr operâu hyn rai o’r darnau cerddoriaeth hyfrytaf a ysgrifennwyd erioed. Credwn fod hyn oll wedi dechrau gyda bel canto – sy’n ffordd o ganu a ysbrydolwyd ac a grëwyd gan gyfansoddwyr Eidalaidd. Arddull o ganu traddodiadol Eidalaidd yw Bel canto ac mae’r enw’n cyfieithu’n llythrennol i ‘ganu hyfryd’. Erbyn heddiw, caiff ei gysylltu’n gyffredinol â chyfansoddwyr operâu’r 19eg ganrif megis Bellini, Rossini a Donizetti. Mae’r ffordd yr ysgrifennai’r cyfansoddwyr hyn eu cerddoriaeth yn gofyn am dechneg aruthrol sy’n gallu cynnal llinellau telynegol hirion ynghyd â chyflwyno rhai adrannau rhyfeddol o flodeuog, y cwbl wedi’u cyfuno ag amrywiaeth fynegiannol enfawr. Yn ein cynhyrchiad o La Cenerentola yn yr hydref bydd cantorion yn y cast sydd wedi’u hyfforddi i ganu yn yr arddull bel canto, felly cewch glywed opera Rossini y ffordd y bwriadodd iddi gael ei chlywed. A gyda Roberto Devereux gan Donizetti i ddod yng ngwanwyn 2019, nid oes prinder o enghreifftiau bel canto i’w rhannu.

Gallwch weld operâu gan rai o enwau mawrion Opera Eidalaidd, gyda La traviata gan Verdi a La Cenerentola gan Rossini yr hydref hwn, yn ogystal â chynhyrchiad newydd o Un ballo in maschera gan Verdi ochr yn ochr â Roberto Devereux gan Donizetti yng ngwanwyn 2019. Ond am nawr dyma ein rysáit a fydd yn sicr yn eich gadael yn ysu i’n tymor nesaf gychwyn…


Rysáit Opera (ac nid cacen Opera!)

Amser paratoi – gall gymryd blynyddoedd i greu campwaith Eidalaidd 

Amser coginio – gall hyn amrywio o un cynhyrchiad i’r llall

Cynhwysion

1x Iaith yn seiliedig ar Ladin (Eidalaidd yn ddelfrydol)
1x Cyfansoddwr enwog (mae gennych ddigonedd o ddewis)
1x Stori rymus (a fydd yn dylanwadu ar ddiwylliant poblogaidd am gannoedd o flynyddoedd)
Mymryn o bel canto 
1x Arwr/Arwres (a fydd yn amlwg yn canu aria epig) 
1x Agorawd gofiadwy
Llond llaw o ddeuawdau hyfryd
O leiaf un camddealltwriaeth

Cymysgwch am hyd at bedair awr a hanner….weithiau mwy, ac mae gennych opera Eidalaidd glasurol.

Buon appetito!