Newyddion

Yn Seville

17 Ebrill 2020

Mae'r pla, diciâu a thwbercwlosis yn droeon syfrdanol o fewn plotiau sy'n gyffredin mewn operâu, ac nid yn y byd go iawn, fodd bynnag mae 2020 wedi penderfynu cynhyrfu pethau gyda phandemig byd-eang sydd i fod ar y llwyfan. Gan gadw hyn yn y cof, nid ydym yn gweld bai arnoch am freuddwydio am nosweithiau twym a phêr yn llawn tapas a sangria wrth fod yn gaeth i'ch cartref; rydyn ni yn yr un cwch - ac mae'r breuddwydion hyn yn teimlo'n bellach nag erioed wrth i wyliau gael eu canslo ac awyrennau eu llonyddu.

Mae cyfansoddwyr megis Rossini, Mozart, Beethoven a Bizet wedi gosod eu hoperâu yn Seville, dinas opera, ers canrifoedd. Mae'r balconïau rhamantus, y pafiliynau yn y gerddi a choedwigoedd lloerog yn gosod y naws ar gyfer ceisio cariad, fel mae Figaro yn ei ddangos yn The Barber of Seville a The Marriage of Figaro. Gwelir bod amgylchedd godidog cyffelyb yn faes chwarae delfrydol i ferchetwyr yn Don Giovanni. Ceir ystafelloedd dawnsio gemog, gerddi palasau, a chowrtiau dirgel; ni fyddai mor ddeniadol pe byddai wedi'i gosod mewn neuadd bentref leol ar ddiwrnod gwlyb yn Lloegr.

Mae'n amlwg bod Bizet hefyd wedi meddwl yr un peth, yn gosod ei Carmen yn Seville; lle gwell na ffatri dybaco i gynnau carwriaeth danbaid? Mae rhamantau Carmen angen angerdd a graen y cylch teirw, nid yn unig i ragfynegi ei marwolaeth, ond i bortreadu ei diwedd ymosodol mewn modd fwy trawiadol. Gall fod yn allweddol i'r stori, ac yn Fideliogan Beethoven, mae'r hinsawdd Sbaenaidd dwym yn dwysau'r gwahaniaeth rhwng rhyddid golau'r haul yn iard y carchar â'r daeardai tywyll islaw; gan fynegi bywyd carcharor yn oerddu a darparu aria chwerwfelys, ‘Leb wohl, du warmes Sonnenlicht- Farewell, you warm sunshine’

Yn wir, nid rhamantiaeth ac ecsotigiaeth mympwyol yw popeth; roedd mwy o resymau ymarferol megis sensoriaeth leol. Roedd rhaid i Beethoven osod Fidelio yn Sbaen gan na fyddai sensoriaid llywodraeth Awstria wedi bod yn fodlon â stori am uchelwr gormesol yng Ngogledd Ewrop. Gwelir hyn yn The Marriage of Figaro; ni fyddai Mozart wedi cael caniatâd i gynnal opera am Ffrancwr cyffredin yn twyllo uchelwr cyfrwys Ffrengig, felly roedd rhaid iddo ei gosod yn Sbaen.

Yn ystod y sefyllfa bresennol o gyfyngiadau ar symud, mae dihangdod yn fwy pwysig nag erioed. Gwrandewch ar Agorawd The Marriage of Figaro, caewch eich llygaid a theithiwch i ffwrdd i ddinas heulog Seville yn eich meddwl. Efallai, pan fydd hyn drosodd, gallwch fynd i Seville a gweld yr hen ffatri sigarennau sy'n sefyll hyd heddiw, ble gosodwyd Carmen, a phori'r tir gyda Bizet yn eich clustiau.

Tan hynny, 'ffarwel, yr haul twym..'