Newyddion

Cymryd teitl: Harriet yn dirprwyo

13 Tachwedd 2019

Mae Artist Cyswllt diweddaraf Opera Cenedlaethol Cymru, Harriet Eyley, wedi bod yn brysur iawn yn ystod Tymor yr Hydref. Yn ogystal â gwneud ei ymddangosiad cyntaf fel Frasquita yng nghynhyrchiad newydd Jo Davies o Carmen (yn y llun uchod), mae hi hefyd wedi bod yn dirprwyo prif ran The Cunning Little Vixen Janáček. Ond sut beth yw bod dirprwyo rôl? Eglura Harriet. 


'Pan gefais y cynnig i ddirprwyo’r cymeriad bach direidus, Vixen, derbyniais heb oedi. Hi yw fy hoff gymeriad, fy rôl ddelfrydol.

Nid oes gen i lawer o brofiad o fod yn ddirprwy, ond mae'n gyfle gwych i arddangos eich gallu ac i ddenu sylw at eich hun. Ond, rwyf wedi dysgu bod cael eich taflu i'r blaen fel dirprwy ar gyfer y prif gymeriad yn brofiad mwy nerfus na pherfformio fel y prif berfformiwr.

Roeddwn eisoes yn gyfarwydd â'r rôl. Fe wnes fy ymddangosiad cyntaf fel y Llwynoges tra’n fyfyriwr yn y Royal College of Music, Llundain. Roeddwn yn meddwl y byddai'r profiad o fod wedi perfformio'r opera yn Saesneg yn fuddiol, ond roeddwn i'n anghywir. Mae'r cynhyrchiad hwn yn cael ei berfformio yn Tsieceg a golygai hyn fy mod wedi gorfod ailddysgu'r rhythmau a phwysleisiau'r sillafau; proses hynod o araf. Treuliais oriau maith yn cael hyfforddiant iaith a cherddoriaeth.

Mae paratoi ar gyfer cynhyrchiad Syr David Pountney yn benodol wedi gofyn mwy na'r arfer: egni dihysbydd, y gallu ffyrnig i ganolbwyntio ac ymroddiad. Efallai na fyddech yn cael y cyfle i berfformio'r rôl ar y llwyfan, ond mae'n rhaid ichi baratoi fel petaech yn barod i wneud.

Rydych yn dechrau eich taith fel dirprwy ar ei hôl hi. Mae'r prif gantorion wedi bod yn ymarfer ers pythefnos cyn ichi hyd yn oed ddechrau. Cawsom ddiwrnod o ymarferion cerddorol i ddod i arfer â byd onglog Janáček, ac roedd y staff cerddoriaeth wedi ymrwymo'n llwyr iddo. Roeddent yn rhagorol wrth fy helpu i baratoi; roedd brwdfrydedd y tîm yn heintus.

Yn ystod y cyfnod ymarfer, roeddwn yn gweithio'n agos gyda Sarah Crisp, y Cyfarwyddwr Staff. Hwn yw ei thrydydd tro yn cydweithio ar yr opera ac roedd ei phrofiad yn amhrisiadwy. Diolch iddi hi, roedd yr ymarferion yn hwyl ac yn ddiogel. Gan bwysleisio diogel; nid oedd unrhyw ddarn o'r set hynod o hardd yn fflat. Mae'r jig-so anferth yn cymryd oriau i'w osod a'i dynnu i lawr, felly diwrnod a hanner yn unig y cefais i ymarfer gyda'r set. Hon oedd y set fwyaf heriol yn gorfforol imi berfformio arni erioed.

Mae rhai agweddau o fod yn ddirprwy'r un fath â bod yn brif berfformiwr - mesur ar gyfer gwisgoedd a wigiau, colur ayyb, ond mae'r rhan fwyaf o waith dirprwy yn cynnwys eistedd o gwmpas, gwylio, gwrando a gwneud nodiadau (llwyth o nodiadau). Yn ystod y cyfnod hwn, cefais y cyngor gorau gan un o fy nghydweithwyr.'

Rwyt yn chwarae rhan Vixen, nid Aoife

Sarah Crisp, Cyfarwyddwr Staff

'Mae'r cyngor yma'n aros gyda mi ar fy nhaith. Mae pob perfformiwr yn dehongli'r rôl mewn ffordd wahanol ac mae'n bwysig cofio hynny. Chwaraewch y rôl yn eich ffordd eich hun; peidiwch â chwarae'r perfformiwr sy’n perfformio'r rôl. Efallai ei bod yn ymddangos yn eithaf diflas, ond mae bod yn ddirprwy yn rhan bwysig o unrhyw gynhyrchiad. Tra bod y syniad o berfformio yn lle Aoife Miskelly yn frawychus, rwyf yn barod amdani.'


Bydd cynhyrchiad Syr David Pountney o The Cunning Little Vixen yn ymweld â New Theatre Oxford ar ddydd Iau 21 Tachwedd a dydd Iau 28 Tachwedd.

Tymor nesaf, bydd Harriet Eyley yn perfformio Barbarina yn The Marriage of Figaro Mozart, sydd yn agor yng Nghaerdydd ar 23 Chwefror, ac yn mynd ar daith i Landudno, Bryste, Southampton, Liverpool, Milton Keynes, Plymouth, Norwich a Birmingham.  


Ar hyn o bryd, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn chwilio am ddau artist i ymuno â'r Cynllun Artist Cyswllt. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.