
Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi bod yn cynhyrchu gwaith o'r safon uchaf yng Nghymru a Lloegr ers 75 o flynyddoedd, ac er mwyn parhau â hynny, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu talent ifanc, addawol drwy gydol y Cwmni. O brofiad gwaith wythnosol i leoliadau gwaith hirdymor, Opera Ieuenctid i Artistiaid Cyswllt, rydym yn falch o fod yn gweithio â sêr opera'r dyfodol.
Mae ein Tymor RHYDDID yn serennu llu o gantorion, aelodau hen a newydd o Opera Ieuenctid WNO a Cherddorfa a Chorws WNO - ac mae un o'r cantorion ifanc eisoes wedi cael profiad sylweddol â'r sefydliad.

Graddiodd Andrew Henley, sy'n hanu o Drefynwy yn ne-ddwyrain Cymru, o gwrs MA Perfformio Opera, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2017, ar ôl perfformio gydag Opera Ieuenctid WNO y flwyddyn flaenorol yn Kommilitonen! Peter Maxwell Davies (libreto gan Gyfarwyddwr Artistig WNO David Pountney). Cyfarwyddwyd y cynhyrchiad gan Polly Graham a'i berfformio mewn arddull promenâd yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Memo yn Y Barri. Canodd Andrew ran Christoph Probst, un o'r myfyrwyr a oedd yn rhan o symudiad y Rhosyn Gwyn yn Almaen y 1940au.
Ar ôl graddio o CBCDC, parhaodd Andrew â'i hyfforddiant gyda'r National Opera Studio yn Llundain, sy'n darparu hyfforddiant unigryw i nifer fechan o gantorion bob blwyddyn, ac yn eu paratoi ar gyfer bywyd ar y llwyfan operatig rhyngwladol. Mae NOS yn gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau opera blaenllaw y DU, ac mae'r Artistiaid Ifanc yn cael cyfle i weithio â phob un o'r cwmnïau hyn - gan gynnwys Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru.
Ym mis Mai 2018, roedd Andrew yn rhan o berfformiad mawreddog y National Opera Studio yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, lle perfformiodd Andrew a'i gyd Artistiaid Ifanc nifer o olygfeydd law yn llaw â Cherddorfa WNO. Drwy gydol yr wythnos, bu'r Artistiaid Ifanc yn gweithio â thîm WNO, gan gynnwys yr adrannau Gwisgoedd, Wigiau, Colur a Rheoli Llwyfan, er mwyn cael y profiad llawn o gyflwyno perfformiad. Yn y sioe, canodd Andrew ariâu o La traviata (Verdi), The Boatswain’s Wife (Ethel Smyth) a Falstaff (Verdi).
Bellach, mae Andrew yn ymuno â Chwmni Dead Man Walking i ganu rhan Father Grenville. Yn rhan o'r Tymor RHYDDID, mae opera gyntaf Jake Heggie yn adrodd hanes carcharor wedi ei gondemnio a lleian sy'n cynnig bod yn gefn iddo.