Newyddion

Tianyi Lu yn ymuno ag WNO fel yr Arweinydd Breswyl Fenywaidd gyntaf

19 Awst 2019

Mae'n bleser gan Opera Cenedlaethol Cymru gyhoeddi Tianyi Lu fel yr Arweinydd Breswyl Fenywaidd gyntaf. Mae hyn yn dilyn galwad agored i unigolion sy'n awyddus i fod yn arweinwyr wneud cais am swydd a phroses glyweliad gyda Cherddorfa WNO yn gynharach eleni.

Cafodd y cynllun ei datblygu wedi cynhadledd ‘Where Are All the Women' WNO yn 2018, ble bu panel o ferched a mynychwyr yn rhannu profiadau o'r heriau mae merched yn eu hwynebu yn y diwydiant cerddoriaeth glasurol. Nod y cynllun 18 yw roi'r hyfforddiant a phrofiad angenrheidiol i ferched sy'n awyddus i fod yn arweinwyr i geisio gyrfa yn y maes. Bydd Tianyi yn gweithio’n agos gyda Tomáš Hanus â Cherddorfa WNO ar draws llu o repoertoire, gan gynnwys opera â phrosiectau ieuenctid a chymunedol.

Wedi ei geni yn Shanghai a'i magu yn Seland Newydd, astudiodd Tianyi Lu yn Auckland a Melbourne cyn cwblhau cwrs Meistr Cerddoriaeth mewn Arwain Cerddorfa yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (RWCMD) gyda Rhagoriaeth yn 2015. Tra yn RWCMD sefydlodd Tianyi gysylltiad gyda WNO, yn gweithio gyda'r tîm Ieuenctid a Chymuned ar gynhyrchiad llwyddiannus Opera Ieuenctid WNO o Kommilitonen! yn 2016.


Rwyf wrth fy modd bod yn ôl yng Nghaerdydd, fy ail gartref, i weithio gyda nifer o unigolion creadigol a dewr sy'n creu sefydliad bywiog WNO. Mae'r Cwmni wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi dros nifer o flynyddoedd a byddaf yn mwynhau'r cyfle i ymgymryd â llu o brosiectau amrywiol dros y 18 mis nesaf yn y swydd.


Tianyi Lu yw Arweinydd Cynorthwyol Cerddorfa Melbourne Symphony, a Phrif Arweinydd Sinfonia St Woolos sydd wedi ei leoli yng Nghasnewydd, Gwent, ac roedd hi'n Gymrawd Dudamel gyda Cherddorfa Los Angeles Philharmonic yn 2017/18. Mae ei huchafbwyntiau diweddar yn cynnwys cyngherddau gyda Gulbenkian Orchestra gyda Carolin Widmann yn Lisbon ac ar daith ym Mhortiwgal, City of Birmingham Symphony Orchestra, Ulster Orchestra, Bucharest Radio Symphony Orchestra, Sydney Symphony, Hallé Orchestra a Auckland Philharmonia.

Mae Tianyi yn dechrau ei swydd ym mis Awst, yn gweithio ar gynhyrchiad newydd o Carmen, yn ogystal â goruchwylio'r gwaith paratoi ar Rigoletto The Cunning Little Vixen. Bydd Tianyi yn cymryd rôl Arweinydd Cynorthwyol ar gyfer perfformiad y Gwanwyn o Carmen, yn arwain dau berfformiad yn y Liverpool Empire ar 26 a 28 o Fawrth.