Newyddion

Tocynnau ar werth ar gyfer Haf 2020

29 Awst 2019

Mae tocynnau ar gyfer operâu unigol ein Tymor yr Haf 2020 bellach ar werth. Mae'r Tymor yn agor gyda chynhyrchiad newydd o Bluebeard’s Castle gan Bartók yn serennu Syr Bryn Terfel mewn sioe ddwbl ochr yn ochr â The Nightingale gan Stravinsky; mae'r Tymor hefyd yn cynnwys ein cynhyrchiad hynod boblogaidd The Barber of Seville gan Rossini. Hefyd, bydd Diwrnod Darganfod Opera am ddim i'r teulu ochr yn ochr â pherfformiad unigol o The Nightingale fel rhan o'n cyfnod preswyl dros yr haf yma yng Nghaerdydd.

Mae'r cynyrchiadau yn cyflwyno cymysgedd diddorol. Mae'r ddwy ran o'n sioe ddwbl yn seiliedig ar straeon tylwyth teg. Seiliodd Stravinsky ei sioe ef ar stori gan Hans Christian Andersen a Bartók ar stori gan Charles Perrault.

Ysgrifennodd Bartók Bluebeard’s Castle yn 1911 ac yn ogystal â bod yn ddarn byr, ac yn un act, mae'r stori wedi ei chanolbwyntio ar ddau gymeriad yn unig - Bluebeard (Bryn Terfel) a'i wraig, Judith (Michelle DeYoung) - sy'n adrodd y stori dywyll, seicolegol hon.

Hwn yw'r tro cyntaf i Bryn Terfel ganu mewn cynhyrchiad llawn gyda WNO ers ei berfformiad clodwiw yn Die Meistersinger von Nürnberg yn 2010, ac mae'n bleser ei groesawu'n ôl i'r Cwmni i berfformio wrth ochr y mezzo soprano o America, Michelle DeYoung, sydd wedi gweld llwyddiant aruthrol ar lwyfannau operâu a chyngherddau. Syr David Pountney sy'n cyfarwyddo.

Ysgrifennwyd The Nightingale dros gyfnod o chwe blynedd rhwng 1908 a 1914, wrth i Stravinsky ysgrifennu ei ballet, The Firebird, a hefyd The Rite of Spring rhwng dechrau a gorffen yr opera. Bydd The Nightingale, sy'n cael ei chanu'n Rwsieg, sy'n aml yn cael ei galw wrth ei henw Ffrangeg Le rossignol, ond wedi'i gosod yn Tsieina, yn cael ei chyfarwyddo gan y pypedwr byd-enwog Mark Down, ac yn cynnwys pypedau arloesol maint go iawn o'i gwmni theatr Blind Summit, a fydd i bob pwrpas yn adlewyrchu'r eos fecanyddol yn y stori.

Bydd y sioe ddwbl yn cael ei harwain gan Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerdd WNO.

Ysgrifennwyd The Barber of Seville, opera gomig hynod boblogaidd Rossini, ganrif yn gynt na'r operâu sy'n ein sioe ddwbl - yn 1816 - ac mae'n seiliedig ar ddrama Beaumarchais. Yn Haf 2020, bydd ein cynhyrchiad 1986 gan Giles Havergal (a berfformiwyd ddiwethaf yn 2011) yn ôl ar y llwyfan, felly disgwyliwch noson braf, draddodiadol, yn llawn doniolwch gyda Figaro, un o gymeriadau mwyaf hoffus opera, yng nghanol yr hwyl.

Mae Matteo Macchioni a Fabio Capitanucci yn dychwelyd i WNO ar gyfer The Barber of Seville, wedi iddynt berfformio yn La Cenerentola yn 2018 wrth ochr yr Arweinydd Karem Hasan, sydd wedi gweithio gydag WNO fel Arweinydd Cyswllt yn ystod ein Tymor 2017/2018.