Verdi oedd y gwerthwr gorau yn y byd cerddorol. Nid oes neb yn gallu saernïo golygfa na chyfleu emosiwn yn fwy campus nag ef. Gan fod Rigoletto, a ddisgrifiwyd gan y cyfansoddwr fel 'ei opera orau', yn dychwelyd i’n prif lwyfan y Tymor hwn, rydym wedi penderfynu edrych ar gorff gwaith helaeth Verdi a llunio rhestr o'n hoff ariâu ganddo.
1. Sempre libera o La traviata
Dyma un o ddarnau arddangos mwyaf ysblennydd Verdi ar gyfer soprano, ac mae Nissan wedi ei ddefnyddio i hyrwyddo eu ceir. Ystyr Sempre libera yn fras yw 'bob amser yn rhydd'. Mae'n llawn personoliaeth ac egni ac mae'n cael ei chanu gan Violetta wrth iddi benderfynu parhau byw bywyd llawn hwyl. Mae ei brwdfrydedd hoenus yn heintus.
2. La donna è mobile o Rigoletto
Dyma un o ffefrynnau'r gynulleidfa. Cadwyd yr ymarferion gwreiddiol yn hynod gyfrinachol cyn y perfformiad cyntaf ym 1851. Y cyfieithiad yw 'mae merched yn anwadal', a gallwch glywed rhythm nodweddiadol 'bwm-tsh-tsh' Verdi ynddi. Heddiw, byddwn yn ei chlywed ar y cae pêl-droed ac ar y gêm gyfrifiadurol Grand Theft Auto. Mae hefyd wedi cael ei defnyddio gan Doritos mewn dwy hysbyseb Super Bowl, ac wedi cael ei defnyddio i gyfleu'r grefft o goginio yn hysbyseb saws tomato Leggo.
3. Si Un Jour o La forza del destino
Er mai o'r opera La forza del destino (The Force of Destiny) y daw'r gerddoriaeth wreiddiol, daeth i sylw cynulleidfa enfawr am y tro cyntaf wedi iddi gael ei defnyddio yn y ffilm Jean de Florette (o - a'r hysbyseb Stella Artois!). Fodd bynnag, ni ddewch o hyd i'r union gerddoriaeth (na’r geiriau) yn y llawysgrif gan ei bod wedi'i hysbrydoli gan, ac yn seiliedig ar, Agorawd yr opera.
4. Ecco l'Orrido Campo o Un ballo in maschera
Mae aria Amelia yn agor ail act yr opera, sy'n llawn emosiwn gan fod Amelia'n caru Riccardo, prif gynorthwywr ei gŵr Renato, ac mae'n dibynnu ar berlysieuyn hudol i roi'r holl atebion iddi. Mae'r aria hon yn rhyfeddol o fendigedig, yn ddwys tu hwnt ac yn chwerthinllyd o anodd.
5. Libiamo ne’ lieti calici o La traviata
Dyma un o ddarnau mwyaf cofiadwy Verdi. Mae Brindisi, fel y mae'n cael ei galw amlaf, wedi cael ei defnyddio gan sawl brand, gan gynnwys Heineken, i hyrwyddo eu cynnyrch. Mae'n anodd peidio hymian i'r gerddoriaeth...
Gyda cherddoriaeth gystal â hyn, nid yw'n syndod fod brandiau sydd eisiau hyrwyddo eu cynnyrch yn aml yn troi at gyfansoddwr mwyaf godidog y byd opera i gael eu trac sain.
Os wnaethoch chi fwynhau ein hoff bump, beth am ymuno â ni ar gyfer Rigoletto yng Nghanolfan Mileniwm Cymru; Theatre Royal Plymouth; Venue Cymru; Birmingham Hippodrome; New Theatre, Oxford; Mayflower Theatre yn ystod Tymor yr Hydref.