Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae categoreiddio lleisiau canu? Yn gryno, mae'r cwbl yn dibynnu ar y nodyn isaf a'r nodyn uchaf y gallwch eu cyrraedd ac ansawdd y sain. Dyma ein canllaw o'r lleisiau y gallwch eu clywed mewn noson yn yr opera.
Soprano
Y soprano yw'r math uchaf o lais benywaidd ac fel arfer y sopranos sy'n ymgymryd â'r prif rannau benywaidd. Yr enwocaf yw Brenhines y Nos yn The Magic Flute - sef y cymeriad sy'n canu'r aria fyd-enwog gyda sawl nodyn F uchaf syfrdanol. Fodd bynnag, mae'r math fwyaf cyffredin o soprano, soprano telynegol, yn portreadu ystod eang o gymeriadau, o forwynion ac iarllesau i ferched a merched ifanc dosbarth canol sydd mewn cariad megis Carmen; Musetta La bohème.
Mezzo-Soprano
Y raddfa ganol i ferched, yr hyn a elwir yn 'hanner sopranos'. Mae nifer o fezzo-sopranos yn canu'r rhannau 'trowsus', yn portreadu bechgyn ifanc neu ddynion - Cherubino The Marriage of Figaro - gallant hefyd ymgymryd â rhannau'r wraig ddrwg neu'r rhannau mamol. Y rhan fwyaf adnabyddus i fezzo dramatig yw Carmen, y sipsi tanbaid sy'n fawreddog yn lleisiol a chorfforol.
Contralto
Adnabyddir hefyd fel alto, y gontralto yw'r llais benywaidd isaf, a ddefnyddir mewn rolau sy'n gofyn gravitas, megis Mistress Quickly Falstaff. Mae contralto gwirioneddol operatig yn brin, cymaint felly bod rhannau sydd wedi'u hanelu at y math hwn o lais yn aml yn mynd i fezzo-sopranos.
Tenor
Ystyrir y tenor fel y llais gwrywaidd uchaf mewn opera, a gan amlaf y tenor yw'r arwr neu destun cariad y stori. Mae sawl gwahanol fath o leisiau tenor. Dau o'r rhai mwyaf cyffredin yw tenoriaid telynegol, sydd â lleisiau uchel a thonau disglair - Rodolfo La bohème; Ferrando Cosi fan tutte - a thenoriaid dramatig sydd â sain tywyllwch i'w lleisiau gydag ansawdd dda yn y raddfa uchaf – Florestan Fidelio.
Uwchdenor
Y math mwyaf prin o denor yw uwchdenor, sy'n gallu canu hyd yn oed yn uwch na thenor ac sydd mewn gwirionedd yn bodloni graddfa llais benywaidd. Trwy ddefnyddio llais falsetto dyn, mae'r llais yn cynhyrchu sain sydd ar adegau yn cael ei ddisgrifio'n 'arallfydol'.
Bariton
Gydag ystod sydd yn y canol rhwng y llais tenor uchaf a'r llais bas isel, dyma'r math o lais gwrywaidd mwyaf cyffredin. Mewn operâu comedïaidd, ef yn aml yw arweinydd y cambihafio, ond gall hefyd fod yr arwr, sy'n aberthu ei hun ar gyfer y tenor neu soprano, neu'r dihiryn. Mae gan y llais ansawdd dramatig sy'n gallu cynhyrchu tonau cyfoethog, tywyll. Mae cellweiriwr y llys Rigoletto a'r Toréador Escamillo poblogaidd yn Carmen yn hoff rannau i faritonau.
Bas
O'r gair Eidaleg, basso, sy'n golygu isel, bas yw'r llais isaf a'r tywyllaf o leisiau'r dynion. Cyfeirir at rai cantorion yn y categori hwn fel bas-baritonau oherwydd bod ganddynt leisiau sy'n amrywio rhwng y llais bas a'r bariton. Mae basso serio neu basso profono yn portreadu cymeriadau sy'n cyfleu doethineb neu fawredd megis Sarastro yn The Magic Flute. Mewn cyferbyniad, mae basso buffo yn canu rhannau comedi megis Dr. Bartolo yn The Barber of Seville.