Mae mis Mehefin wedi cyrraedd a’r haf wedi cychwyn (i ni, beth bynnag)! Gyda’r tywydd cynhesach yma, efallai eich bod awydd ychydig o ramant ac yn chwilio am syniadau ar gyfer dêt. Wel, does dim rhaid edrych ymhellach - mae gan ein cyngerdd Soiree Haf sydd ar ddod yr holl elfennau i wneud dêt perffaith yn yr haf…

Adloniant o hen ffefrynnau
Mae pobl wedi bod yn mynychu cyngherddau clasurol ers cenedlaethau, ac mewn niferoedd mawr ers y 19eg ganrif. Cyn yr amrywiaeth ffurfiau o adloniant sydd ar gael heddiw, y cyngherddau hyn oedd y digwyddiadau pwysicaf yn y calendr, gan gasglu pobl ynghyd i gymdeithasu a phrofi pleserau cerddoriaeth fyw. Ac mae rheswm eu bod yn dal yn boblogaidd heddiw - maent yn eich galluogi i ddianc dros dro o’r byd lloerig, llawn technoleg yr ydym yn byw ynddo, wrth i’r gerddoriaeth fynd â chi i fyd arall.
Cerddoriaeth angerddol
Wrth gwrs, un o’r pethau sy’n tynnu pobl fwyaf i’n cyngerdd Soiree Haf yw’r gerddoriaeth anhygoel, a berfformir gan Gerddorfa WNO dan arweiniad Harry Ogg.
Mae’r gerddoriaeth yn cynnwys Agorawd boblogaidd Robert Schumann i’r opera Genoveva, sy’n agor y cyngerdd gyda chyfuniad o densiwn cynyddol ac egni llawen - perffaith ar gyfer cael calonnau i guro! Uchafbwynt arall yw The Coming of Night Sarah Frances Jenkins, darn wedi’i ysbrydoli gan gerdd Emily Dickinson, yn arbennig ei phortread o harddwch byd natur yr hwyrddydd a’r cyfnos. Bydd grym dwfn a harmonïau symudol y darn yn eich swyno. Hefyd wedi eu cynnwys mae Songs of Travel, Ralph Vaughan Williams, lle mae ein hunawdydd Tara Erraught yn disgleirio, a Symffoni Rhif 5 Mendelssohn Reformation, sy’n cloi’r cyngerdd yn llawn cyffro.
Rhywbeth gwahanol
Mae ein cyngerdd hefyd yn rhoi cyfle i bobl nad ydynt fel arfer efallai yn ymwneud â cherddoriaeth glasurol i roi cynnig ar rywbeth newydd. Peidiwch â’n camddeall, mae’r dêts mewn bwyty clasurol, sinema neu siop goffi yn opsiynau gwych, ond efallai bod yr elfen ‘waw’ ar goll. Mae’r cyngerdd Soiree Haf, ar y llaw arall, yn cynnig rhywbeth hollol unigryw ac arbennig, a bydd yn ddêt y byddwch yn ei gofio am flynyddoedd i ddod.
Cyfle i grwydro i rywle newydd
Yn arwyddocaol, mae’r cyngerdd yn teithio i saith lleoliad ar hyd a lled Cymru a De-orllewin Lloegr, felly mae digon o gyfleoedd i fynychu. Rydym yn cychwyn yn Southampton ac yna’n teithio i Barnstaple, Bryste, Caerdydd, yr Wyddgrug, Bangor a’r Drenewydd. Ac os nad ydych yn dod o un o’r lleoliadau gwych hyn, beth am ymweld ag un ohonynt? Mae crwydro lle newydd yn ychwanegiad delfrydol i ddêt sydd eisoes yn arbennig.
Wrth gwrs, nid ar gyfer dêts rhamantus yn unig mae ein cyngerdd Soiree Haf - mae’n ffordd arbennig o dreulio amser gyda ffrindiau neu aelodau o’r teulu, gan rannu’r fraint ddiguro o gyngerdd clasurol. Fel arall, gallwch fynd ar ddêt unigol hudolus.
Felly, ewch amdani! Rhowch wahoddiad i rywun yr ydych yn ei garu, neu rhowch drît i’ch hun, ac archebwch docynnau nawr.
