Newyddion

O Gaerdydd i Rabat

12 Rhagfyr 2019

Er bod ein Tymor yr Hydref wedi dod i ben, bu Opera Cenedlaethol Cymru’n ddigon ffodus i drefnu taith sydyn i brifddinas Moroco, Rabat. Ymunodd y soprano Mary Elizabeth Williams a’r tenor Gwyn Hughes Jones â Cherddorfa WNO ac aelodau o’r cwmni. Drwy wahoddiad Thomas Reilly, sef Llysgennad Prydain i Foroco, cafwyd dau gyngerdd cerddorfaol gwych gan WNO a chynhaliwyd dau weithdy i ysgolion mewn ymdrech i roi blas ar opera a cherddoriaeth glasurol i breswylwyr lleol.

Cynhaliwyd y cyntaf o’n cyngherddau yn yr Academi Frenhinol, gan gychwyn gyda fersiwn fer o’n rhaglen Taith i Fienna dan arweiniad David Adams ac un sy’n gyfarwydd i ni yn y WNO sef Mary Elizabeth Williams. Mae Mary Elizabeth wedi perfformio gyda WNO ar sawl achlysur fel ein menyw arweiniol yn Die Fledermaus ac Un ballo in maschera ond dyma oedd ei thro cyntaf fel unawdydd mewn cyngerdd cerddorfaol WNO. Cafodd y gynulleidfa wledd wrth fwynhau Brahms (dawns Hwngaraidd Rhif 1), Strauss (Csardas, Die Fledermaus a’r Blue Danube) a Lehar (The Merry Widow). Perfformir y gyfres yn llawn yn y flwyddyn newydd, gan deithio i amryw o leoliadau o Gaerdydd i Fangor.

Noson An Evening of Italian Opera oedd ein hail gyngerdd ac yn wir yr olaf ar ein taith fer. Dan ein Harweinydd Llawryfog, Carlo Rizzi, roedd y Theatr Genedlaethol yn fwrlwm o gerddoriaeth. Y tro hwn Gwyn Hughes Jones oedd yn rhannu’r llwyfan â Mary Elizabeth Williams, sydd wedi perfformio gyda ni yn y ddau gynhyrchiad Verdi La forzadel destino ac Un ballo in maschera yn ddiweddar. Perfformir clasuron gan Puccini, sef Madam Butterfly, Pagliacci gan Leoncavallo ac wrth gwrs La forza del destino ac Un ballo in maschera gan Verdi. Roedd pawb yn yr awditoriwm ar eu traed yn gweiddi ac yn clapio am yr encore i Brindisi gan Verdi.

Bu i adran Ieuenctid a Chymuned WNO, gydag ensemble bach o’r Gerddorfa, gynnal dau weithdy i blant Ysgol Elfennol Abdelmoumen. Cawsant glywed sain hyfryd cerddoriaeth glasurol ac er mwyn cynnau eu synhwyrau dychmygol bu i ni ddechrau’r gweithgareddau gyda gêm trawiadau corff a chlapio er mwyn dangos pwysigrwydd rhythm mewn cerddoriaeth.

Wrth glywed stori The Magic Flute gan Mozart, cafodd y plant eu hysbrydoli. Cawsant gyfle i rewi lluniau ffrâm o bob cam o’r stori a’u harddangos i’w cyd-ddisgyblion. I orffen cafwyd y Der hölle rache hynod (aria Queen of the Night) a ganwyd gan y soprano Stacey Wheeler er mwyn dangos grym naturiol y llais dynol i’r plant.

Llwyddodd 2019 i gynnig amryw lawer o gyfleoedd i’r WNO allu amlygu’r talentau anhygoel sy’n bodoli yng Nghymru. Codwn wydr felly i nodi blwyddyn arall o rannu opera ysbrydoledig Cymreig gyda gweddill y byd.