Rydym nawr wirioneddol i mewn i fis Rhagfyr a thymor yr ŵyl. Wrth iddi nosi’n gynt ac mae goleuadau'r Nadolig yn ymddangos, nid oes angen i chi gynhyrfu os nad ydych wedi sicrhau’r anrheg berffaith eto. Mae gennym ddetholiad o syniadau unigryw sy’n siŵr o greu argraff ar y diwrnod mawr ac sy’n sicr o greu anrheg fythgofiadwy i’r person arbennig yn eich bywyd.
Noson yn yr opera
Nid oes unrhyw deimlad mor gyffrous â gweld y goleuadau’n gwanhau a’r llenni’n codi wrth i chi eistedd yn amyneddgar am berfformiad anhygoel gan Opera Cenedlaethol Cymru, bydd y rhai sy’n mynychu operâu’n gyson a’r rhai newydd yn cael eu plesio gan noson yn un o’n cynyrchiadau Gwanwyn 2025.
Boed hynny’n mwynhau Peter Grimes, stori eofn am arwahanrwydd ac unigedd wedi’i hamgylchynu gan ddirgelwch, neu The Marriage of Figarogan Mozart, stori gyfareddol am gariad, ffyddlondeb a hunaniaethau camgymryd, bydd pawb yn sicr o fwynhau noson hyfryd yn yr opera.
Rhywbeth ychwanegol
Chwilio am anrheg ar gyfer person sy’n hoff o operâu ond sydd eisoes wedi sicrhau eu tocynnau? Mae archebu rhaglen ymlaen llawn yn anrheg feddylgar i gyfoethogi eu profiad opera. Er na fydd anrheg i’w lapio ar gyfer diwrnod Nadolig, bydd yn anrheg annisgwyl wrth iddi gyrraedd yn ystod y cyfnod cyn y perfformiad.
Cynigion Cerddorfaol
Pe byddai derbynnydd eich anrheg yn gwerthfawrogi cael eu diddanu gan noson o gerddoriaeth gerddorfaol, beth am ystyried prynu tocynnau i Ddathliad Blwyddyn NewyddCerddorfa WNO, sy’n cynnwys ffefrynnau Fiennaidd fel Josef Strauss a Johann Strauss II. Gallech hefyd gael tocynnau i dderbynnydd eich anrheg i weld Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus, a Cherddorfa WNO y Gwanwyn hwn wrth iddyn nhw gael cwmni’r mezzo-soprano medrus, Dame Sarah Connolly yng Nghaerdydd am noson o waith gan Schubert, Mahler and Sibelius.
Diwrnod allan i’r teulu
Os yw’r anrheg berffaith yn un i’r teulu cyfan, yna mae tocynnau i Chwarae Opera YN FYWyn sicr o blesio. Bydd y sioe deuluol hon sy’n rhyngweithiol ac yn addysgiadol yn cynnwys cerddoriaeth ogoneddus o’r llwyfan ac o’r sgrîn ac yn gyflwyniad perffaith i fyd opera a cherddoriaeth glasurol. Bydd y plant wrth eu bodd gyda’n cyflwynydd gwych, Tom Redmond, a bydd yr oedolion a’r plant wedi’u cyfareddu gan Gerddorfa WNO.
Aelodaeth Cyfeillion WNO
Mae Aelodaeth Cyfeillion WNO yn anrheg unigryw a fydd yn parhau i roi boddhad drwy 2025. Fel aelod, byddant yn cael mynediad at amrywiaeth o ddigwyddiadau curadurol, e-gylchlythyr arbennig, ymarferion gwisgoedd a chael blaenoriaeth wrth archebu. Nid yn unig byddant y cyntaf i glywed beth sydd ar y gweill wrth i ni gyhoeddi ein Tymor 2025/2026, ond gallant hefyd sicrhau eu hoff sedd yn gynt na’r arfer i osgoi colli cyfle. Mae Aelodaeth WNO yn cefnogi’r Cwmni mewn cynhyrchu operâu o’r radd flaenaf a gwaith cymunedol, ynghyd â chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau ein dyfodol, fel ein bod yn gallu parhau i ddod â grym, drama, ac emosiwn operâu i gynulleidfa mor eang â phosib. Mae’n anrheg sy’n cael effaith wirioneddol.
Gobeithiwn ein bod wedi eich ysbrydoli i roi cerddoriaeth yn anrheg y Nadolig hwn. Dymunwn Nadolig Llawn iawn i chi o Opera Cenedlaethol Cymru ac edrychwn ymlaen at barhau i greu cerddoriaeth am flwyddyn arall yn 2025.