Newyddion

Hanes WNO yng Nghaerdydd a De Cymru

9 Medi 2021

Ffurfiwyd Opera Cenedlaethol Cymru o gymunedau de Cymru ac rydym yn falch o'n presenoldeb lleol. Eleni, yn ein 75ain flwyddyn, rydym yn edrych yn ôl ar rai o'n cysylltiadau â de Cymru.

Mae'n dra hysbys y cynhaliwyd ein perfformiad opera cyntaf yn Theatr Tywysog Cymru yng Nghaerdydd yn 1946, ond a oeddech chi'n gwybod y bu i ni berfformio rhaglen debyg y flwyddyn honno a'r flwyddyn ddilynol ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl?

Mae WNO wedi perfformio mewn nifer o leoliadau ar draws Caerdydd, gan gynnwys Pafiliwn Gerddi Sophia (yn 1952-1953, pan berfformiwyd Menna Arwel Hughes am y tro cyntaf). Daeth y New Theatrs yn gartref rheolaidd i ni yn 1954, gyda thymor o Les vêpres siciliennes, Rigoletto, Nabucco, Verdi Requiem, The Bartered Bride, Faust, Menna a Die Fledermaus, cyn i ni symud i'n cartref presennol - Canolfan Mileniwm Cymru - yn 2005. Gwnaethom ddychwelyd am gyfnod byr i'r New Theatre ym mis Mehefin 2018 gyda Rhondda Rips It Up!  Gwnaethom berfformio hefyd yn Theatr y Sherman ar ddiwedd y 1970au a dechrau'r 1980au, roedd teitlau'n cynnwys Albert Herring, The Turn of the Screw,Monsieur Choufluri's at Home/The Song of Fortunio a The Journey. Mae WNO i'w weld (a'i glywed) yn rheolaidd ar lwyfannau cyngerdd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Neuadd Dewi Sant ac mae gan ein tîm Rhaglenni ac Ymgysylltu sawl prosiect yn rhedeg ar draws y ddinas gan gynnwys Opera Ieuenctid, gwaith mewn Ysgolion Cynradd a Chorws Cymunedol.

Cynhaliwyd tymor opera cyntaf y Cwmni yn Abertawe yn 1949 pan wnaethom berfformio The Bartered Bride a Carmen yn Theatr Empire. Ni wnaethom symud i Theatr y Grand tan 1957, a hynny gyda Thymor Hydref o I Lombardi, La traviata, Nabucco a Mefistofele pan arweiniodd Ivor John un o Abertawe, y ddau berfformiad o Nabucco. Roedd ein hymweliad diweddaraf â'r Grand yn 2014 gyda Carmen, ond rydym wedi parhau i berfformio'n rheolaidd yn y ddinas gyda Rhondda Rips It Up!  a Don Pasquale yn chwarae yng Nghanolfan Gelfyddydau Taliesin a chyngherddau Cerddorfa WNO yn y Neuadd Fawr. Lansiwyd ein Côr Cysur, i bobl â dementia a'u gofalwyr, yn Abertawe hefyd yn 2019.

Gan symud i'r dwyrain, mae Casnewydd yn ddinas bwysig i ni hefyd. Ysbrydolwyd Rhondda Rips It Up! gan swffragét enwog y ddinas, Margaret Haig Thomas felly roedd Theatr Glan yr Afon yn lle amlwg i agor y daith. Yn ategu'r cynhyrchiad hwnnw roedd llu o ddigwyddiadau gyda chymunedau ac ysgolion yn ogystal â'n symposiwm Merched mewn Opera. Rydym yn dychwelyd i Theatr Glan yr Afon ym mis Ionawr 2022 gyda'n cyngerdd Fiennaidd blwyddyn newydd poblogaidd.

Drwy gydol ein hanes, rydym wedi teithio i nifer o leoliadau eraill ar draws de Cymru: yn 1969 agorodd taith o The Marriage of Figaro a La traviata yn Hwlffordd yn yr Ysgol Uwchradd Sirol lle gwnaethom barhau i berfformio tan 1974, gan ddychwelyd i Ysgol Syr Thomas Picton rai blynyddoedd yn ddiweddarach; y flwyddyn ddilynol aethom â The Grand Duchess of Gerolstein a Manon Lescaut i Ysgol Uwchradd Abergwaun; yn 1981 aethom ar ein taith gyntaf i Theatr Torch yn Aberdaugleddau gyda Rodelinda ac yn 1982 gwnaethom berfformio yn Neuadd y Parc a'r Dâr yn Nhreorci gyda Tamburlaine a aeth ar daith i Lanelli hefyd.

Rydym wedi dychwelyd i nifer o'r lleoliadau hyn yn y blynyddoedd diweddar gyda Rhondda Rips It Up! a Don Pasqualeyn ogystal â pherfformio am y tro cyntaf yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin, Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu a'r Colisëwm yn Aberdâr. Rydym yn parhau i archwilio cyfleoedd newydd i berfformio ledled Cymru, ac mae gwaith cymunedol parhaus yn cynnig cyfleoedd i fwy o bobl ymwneud ag WNO.